Mae Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (RIPA) 2000 yn rheoleiddio sut mae cyrff cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol, yn defnyddio gweithgareddau cudd. Mae'r ddeddfwriaeth yn trafod y defnydd o ddulliau gwyliadwriaeth a chael gafae ar ddata cyfathrebu. Mae'r gofynion cyfreithiol yma wedi'u hategu gan godau ymarfer sydd wedi'u cyflwyno gan Y Swyddfa Gartref.
Rydyn ni'n defnyddio'n grym dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (data cyfathrebu) a Rhan 2 (gwyliadwriaeth gudd) er mwyn atal a datgelu trosedd neu atal anrhefn. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau gorfodi mewn perthynas â:
- Masnachwyr twyllodrus sy'n cyflawni twyll neu sy'n darparu gwasanaethau sydd heb eu disgrifio'n gywir
- Pobl sy'n darparu nwyddau ffug neu anghyfreithlon;
- Masnachwyr sy'n darparu alcohol, sigaréts a nwyddau eraill sydd â chyfyngiad oedran i bobl dan oed;
- Masnachwyr sy'n torri gofynion trwyddedu ynghylch tacsis neu werthu alcohol;
- Pobl sy'n cyflawni trosedd amgylcheddol;
- Pobl sy'n cyflawni twyll budd-daliadau;
- Pobl sy'n ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol;
Mae'r Cyngor yn gweithredu trefniadau cadarn er mwyn sicrhau bod ei ddefnydd o ddulliau gwyliadwriaeth a sut mae'n caffael data cyfathrebu yn gyfreithlon a bod yr holl ddefnydd yma'n cael ei awdurdodi gan uwch reolwyr ymlaen llaw. Rhan o'r broses yw sicrhau bod dulliau eraill ar gyfer dod o hyd i dystiolaeth yn cael eu hystyried, ond rydyn ni wedi penderfynu nad oes dull hyfyw arall ar gael i gaffael tystiolaeth berthnasol a bod y camau gweithredu sydd wedi cael eu cynnig yn angenrheidiol ac yn gymesur ag amcanion yr archwiliad. Mae Uwch Gyfarwyddwyr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethol yn archwilio copïau o bob awdurdodiad er mwyn sicrhau cysondeb o ran safonau.
Mae gan ddwy ran y Ddeddf gomisiynwyr annibynnol sy'n goruchwylio defnydd y Cyngor o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000. Mae Swyddfa'r Comisiynydd ar gyfer Ymyrryd â Chyfathrebu yn ymdrin â gwaith caffael data cyfathrebu ac mae Swyddfa'r Comisiynwyr Arwylio yn ymdrin â'r defnydd o oruchwylio cudd. Mae'r ddau gomisiynydd yn cynnal arolygiadau er mwyn adolygu sut mae'r Cyngor yn defnyddio Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000.
Mae'r Cyngor wedi mabwysiadu'r dogfennau polisi corfforaethol canlynol:
- Dogfen Bolisi a Gweithdrefnau - Caffael Data Cyfathrebu o dan Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (RIPA) 2000
- Dogfen Bolisi a Gweithdrefnau - Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (RIPA) 2000
Mae'r ddwy ddogfen yn cael eu hadolygu o bryd i'w gilydd ar sail newidiadau i'r gyfraith ac unrhyw gyfarwyddyd sy'n cael ei dderbyn gan Swyddfa'r Comisiynydd ar gyfer Ymyrryd â Chyfathrebu neu Swyddfa'r Comisiynwyr Arwylio.