Mae’n bwysig i sefydliadau democrataidd a gwasanaethau cyhoeddus adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth y maen nhw'n ei chynrychioli ac yn ei gwasanaethu. Mae'r agenda amrywiaeth wedi dod yn fwy amlwg ym mhob agwedd ar fywyd cyhoeddus ac mae'n bwysig ein bod ni'r Cyngor yn ymrwymo i wella amrywiaeth. Mae hyn yn cynnwys mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal unigolion rhag cymryd rhan weithredol mewn democratiaeth leol.
Mae'r Cyngor wedi mynd ati'n rhagweithiol i hyrwyddo'r agenda amrywiaeth, gan fabwysiadu addewid amrywiaeth y Cyngor yn ffurfiol yng nghyfarfod arbennig ychwanegol y Cyngor ar 26 Mai 2021. Mae'r camau sydd ar waith i sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei ymrwymiadau o fewn yr addewid yn cael eu hadrodd a'u monitro gan Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd. Mae modd dod o hyd i ddolen i ddiweddariad yma.
Yn ogystal â hynny, yn dilyn cymeradwyo Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor yn 2024, sy'n amlygu'r amcanion cydraddoldeb y bydd y Cyngor yn gweithio tuag atyn nhw dros y 4 blynedd nesaf, mae 'Grŵp Llywio Cydraddoldeb, Cynhwysiant ac Amrywiaeth' wedi'i sefydlu drwy Gynllun Dirprwyo'r Arweinydd. Nod hyn yw helpu i lywio'r gwaith o gyflawni'r amcanion. Cynigir bod cyflawni a monitro Addewid Amrywiaeth y Cyngor hefyd yn cael ei gynnwys yng nghylch gorchwyl y Grŵp Llywio.
Mae angen i'r Cyngor barhau i ganolbwyntio ar y pwnc pwysig yma a sicrhau bod unrhyw rwystrau amlwg o ran amrywiaeth mewn democratiaeth yn cael eu dileu, yn ogystal â dathlu a hyrwyddo'r profiadau gwerth chweil sydd ynghlwm â bod yn Gynghorydd a chyfrannu at y broses ddemocrataidd.