Oes diddordeb gyda chi mewn cynrychioli pobl Rhondda Cynon Taf trwy fod yn Gynghorydd?
Caiff y rhan fwyaf o ymgeiswyr eu hethol trwy blaid wleidyddol. Serch hynny, mae pob hawl i ymgeiswyr sefyll yn rhinwedd eu hawl eu hunain. Cyn ichi gael eich derbyn i sefyll yn ymgeisydd, rhaid ichi gael unigolyn arall i gynnig eich enw gerbron. Bydd eisiau rhywun arall, wedyn, i eilio'r cynnig. Rhaid i'r ddau unigolyn hyn fod ar y gofrestr etholiadol.
Mae modd ichi fod yn ymgeisydd os ydych chi dros 18 oed ac ar y gofrestr, a chithau wedi byw, gweithio neu berchen ar eiddo yn yr ardal ers 12 mis. Dysgu rhagor am ddod yn gynghorydd
Mae'n bosibl na fyddech chi'n gymwys i fod yn ymgeisydd os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor neu'ch bod chi'n dal swydd sydd â chyfyngiadau gwleidyddol mewn awdurdod lleol arall. Fyddech chi ddim yn gymwys, chwaith, os ydych chi'n fethdalwr neu'ch bod chi wedi'ch cael yn euog o gyflawni trosedd a'ch bod chi wedi'ch dedfrydu i dri mis neu hirach yn y carchar.
Rydych chi'n ddarostyngedig i ofynion hysbysu yn unol â Rhan 2 o'r Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 ac mae'r cyfnod cyffredin sy'n cael ei ganiatáu ar gyfer cyflwyno apêl neu gais mewn perthynas â'r gorchymyn neu hysbysiad wedi dod i ben.
Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi paratoi tudalennau ar ei wefan ynglŷn â'r Broses Etholiadol ar gyfer ymgeiswyr. Mae'r rhain yn cynnwys arweiniad ac adnoddau. Cliciwch ar y cysylltau perthnasol isod i gyrchu'r tudalennu:
Fe ddylai darpar ymgeiswyr gael cyngor cyfreithiol eu hunain os ydyn nhw'n ansicr a ydyn nhw'n gymwys i sefyll etholiad ai peidio.
Uned Gwasanaethau Etholiadol
10-12 Heol Gelliwastad
Pontypridd
CF37 1JW
Ffôn: 01443 490100