Pa hawliau sydd gen i?
Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredino, (GDPR) yn diogelu unigolion yn erbyn y risg y caiff penderfyniad y mae modd iddo fod yn niweidiol ei wneud amdanyn nhw heb unrhyw fewnbwn gan unigolyn.
Mae hyn yn rhoi'r hawl i chi wneud y canlynol (o dan yw amgylchiadau perthnasol):
- gwrthod gadael i'r Cyngor wneud penderfyniadau sylweddol amdanoch chi pan fo'r penderfyniad hwnnw yn gwbl awtomatig;
- cael gafael ar wybodaeth sy'n ymwneud â'r rhesymeg y tu ôl i unrhyw benderfyniad awtomatig sydd wedi'i wneud amdanoch chi;
- gofyn i'r Cyngor ailystyried penderfyniad a gafodd ei wneud amdanoch chi drwy ddull awtomatig.
Pryd mae'r hawl yma yn gymwys?
Dydy'r hawl yma ddim ond yn gymwys os caiff y ddau ofyniad canlynol eu bodloni:
Gofyniad 1: Caiff penderfyniad amdanoch chi ei wneud gan ddefnyddio gwybodaeth bersonol sydd wedi'i phrosesu trwy ddulliau awtomatig yn unig (e.e. penderfyniad gan raglen gyfrifiadurol heb unrhyw fewnbwn gan Swyddogion y Cyngor).
|
Gofyniad 2: Mae'r penderfyniad a gafodd ei wneud amdanoch chi (drwy ddulliau awtomatig yn unig) wedi cael effaith sylweddol arnoch chi.
|
A yw'r hawl yma'n gymwys ar gyfer pob penderfyniad awtomatig a gaiff ei wneud amdanaf fi?
Nac ydy. Weithiau, mae modd eithrio rhai penderfyniadau, er eu bod nhw wedi'u gwneud gan ddefnyddio dulliau cwbl awtomatig a'u bod nhw'n cael effaith sylweddol arnoch chi.
Mae'r eithriadau'n berthnasol o dan yr amgylchiadau canlynol:
- Pan gaiff penderfyniad ei wneud er mwyn paratoi i lunio contract gyda chi, neu mewn perthynas â'r contract hwnnw;
- Pan gaiff y penderfyniad ei awdurdodi neu os yw e'n ofynnol yn ôl y gyfraith (e.e. at ddibenion atal twyll neu osgoi trethi);
- Pan fyddwch chi wedi rhoi caniatâd penodol i'r Cyngor brosesu eich gwybodaeth.
I ba wasanaethau'r Cyngor y mae'r hawl yma'n gymwys iddyn nhw?
Ar hyn o bryd dydy'r hawl yma ddim yn gymwys ar gyfer unrhyw un o wasanaethau'r Cyngor. Os bydd yr hawl yn dod yn gymwys i wasanaeth yn y dyfodol, byddwn ni'n rhoi gwybod i chi am hyn drwy'r hysbysiadau preifatrwydd gwasanaeth.
Mae modd gweld hysbysiadau preifatrwydd gwasanaeth yma.