Pa hawliau sydd gen i?
Mae gyda chi hawl i wrthod gadael i'r Cyngor brosesu eich gwybodaeth bersonol. Dydy'r hawl yma ddim yn ddiamod, ac mae hi ond yn gymwys o dan amgylchiadau penodol. Mae hyn yn dibynnu ar ein rhesymau dros brosesu'r wybodaeth a'r sail gyfreithiol dros wneud hynny.
Pryd mae'r hawl yma'n gymwys a beth sydd rhaid i'r Cyngor ei wneud?
Mae'r hawl i wrthod gadael i'r Cyngor brosesu eich gwybodaeth yn gymwys o dan yr amgylchiadau canlynol:
Marchnata uniongyrchol
Mae'r hawl yma'n gymwys pan fyddwn ni'n prosesu eich gwybodaeth at ddibenion marchnata uniongyrchol. Mae hon yn hawl ddiamod, ac mae'n rhaid i'r Cyngor gydymffurfio ag unrhyw gais rydych chi'n ei wneud.
Sut ydw i'n gwrthwynebu?
Pan fydd y Cyngor yn anfon deunydd marchnata yn uniongyrchol atoch chi, byddwn ni'n rhoi cyfle i chi ddewis peidio â derbyn rhagor o ddeunydd marchnata yn y dyfodol mewn modd syml sy'n rhad ac am ddim. Er enghraifft, drwy glicio ar ddolen 'datdanysgrifio' mewn neges e-bost. Pan fyddwch chi'n gwneud hyn, byddwn ni'n rhoi'r gorau i brosesu eich gwybodaeth bersonol at y diben yma.
Y ffordd hawsaf o wrthwynebu yw trwy ddefnyddio'r dull sydd wedi'i nodi uchod. Fel arall, mae modd i chi ysgrifennu llythyr neu e-bost at yr adran farchnata:
E-bost: bulletin@rctcbc.gov.uk
Tasgau cyhoeddus neu fuddiant cyfreithlon
Mae gyda chi hawl i wrthod gadael i'r Cyngor brosesu eich gwybodaeth bersonol os yw'r Cyngor yn defnyddio un o'r rhesymau isod yn sail i'r gwaith prosesu.
- 'Tasg Gyhoeddus' (at ddiben tasg a gaiff ei chyflawni er budd y cyhoedd)
- 'Tasg Gyhoeddus' (er mwyn arfer awdurdod swyddogol y Cyngor), neu
- Fuddiant cyfreithlon.
Sut ydw i'n gwrthod gadael i'r Cyngor ddefnyddio fy ngwybodaeth bersonol?
Pe hoffech chi wrthwynebu'r Cyngor yn prosesu'ch gwybodaeth bersonol, cysylltwch â'r Garfan Rheoli Gwybodaeth:
Wrth wneud cais, pa wybodaeth mae angen i mi ei darparu?
Bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnon ni er mwyn eich adnabod chi:
- Enw llawn (gan gynnwys unrhyw enwau blaenorol)
- Cyfeiriad (eich cyfeiriad blaenorol os ydych chi wedi symud yn ddiweddar neu os yw'r wybodaeth yr hoffech chi i ni beidio â'i phrosesu yn ymwneud â chyfeiriad arall)
- Dyddiad geni
Bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnon ni er mwyn canfod yr wybodaeth yr hoffech chi wrthwynebu iddi:
- Gwasanaeth y Cyngor a/neu'r adran y mae'r wybodaeth yn ymwneud â hi
- Unrhyw rifau cyfeirnod perthnasol
- Enwau unrhyw swyddogion sy'n gysylltiedig â'r achos
- Copi neu ddisgrifiad o'r wybodaeth rydych chi'n gwrthwynebu'r Cyngor yn ei phrosesu.
- Eich rheswm penodol dros wrthod gadael i'r Cyngor brosesu'ch gwybodaeth bersonol. Dylai'r rhesymau yma fod yn seiliedig ar eich sefyllfa benodol.
A fydd y Cyngor yn cydnabod fy nghais?
Bydd y Garfan Rheoli Gwybodaeth yn cydnabod eich cais yn ffurfiol o fewn 5 diwrnod gwaith. Byddwn ni hefyd yn dweud wrthych chi erbyn pa ddyddiad y bydd angen i'r Cyngor ymateb i'ch cais.
Faint o amser sydd gan y Cyngor i gydymffurfio â fy nghais?
Rhaid i'r Cyngor ymateb i'ch cais cyn gynted â phosibl, a ddim hwyrach na mis ar ôl i'r cais ddod i law. Os bydd y cais yn gymhleth neu'n niferus, efallai y caiff estyniad o ddeufis ei ganiatáu. Os bydd angen caniatáu estyniad, byddwn ni'n rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosibl ac yn egluro pam fod angen gwneud hynny.
Os bydd y Cyngor wedi rhannu gwybodaeth gyfyngedig gyda sefydliad arall, oes rhaid i'r Cyngor ddweud wrth y sefydliad hwnnw am y cyfyngiad?
Os bydd y Cyngor yn caniatáu eich gwrthwynebiad, a bod yr wybodaeth dan sylw wedi'i rhannu â sefydliad arall, rhaid i'r Cyngor roi gwybod i'r sefydliad hwnnw am y gwrthwynebiad, oni bai fod hynny'n amhosibl neu'n peri trafferth sylweddol.
Wrth ymateb i'ch cais, bydd y Cyngor yn rhoi gwybod i chi am unrhyw sefydliad trydydd parti sydd wedi cael gwybod am y gwrthwynebiad.