Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Adolygu Gostyngiad Treth y Cyngor i Berson Sengl
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion adolygu eich hawl i gael gostyngiad Treth y Cyngor i berson sengl. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma a hefyd hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor
1. Pwy ydyn ni? Beth ydyn ni'n ei wneud?
Ac yntau'n Awdurdod Bilio ar gyfer Treth y Cyngor, mae'r Cyngor yn cadw gwybodaeth benodol amdanoch chi ac yn ei defnyddio i weinyddu a chasglu Treth y Cyngor gan gynnwys unrhyw ostyngiadau y gallai fod gennych hawl iddyn nhw.
Os ydych chi dros 18 oed ac yn byw ar eich pen eich hun, byddwch chi'n gymwys i gael gostyngiad person sengl o 25% oddi ar eich bil Treth y Cyngor.
Bydd y Cyngor yn adolygu hawl i'r gostyngiad person sengl yn barhaus, er mwyn sicrhau, pan ddyfernir gostyngiad, fod hawl wirioneddol i'r gostyngiad hwnnw. Byddwn ni'n gwneud hyn trwy wirio eich gwybodaeth â'r gofrestr etholiadol, nodi unrhyw gytundebau credyd sydd wedi'u gwneud yn erbyn eich cyfeiriad a'u hadolygu yn erbyn y rhestr o'r holl oedolion sydd wedi'u henwi yn eich cyfeiriad.
Pan fyddwn ni'n canfod y bu newid mewn amgylchiadau sy'n effeithio ar eich hawl i'r gostyngiad, byddwn ni'n diwygio'ch bil Treth y Cyngor ac yn rhoi gwybod i chi am hyn.
2. Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am unigolion sy'n gorfod talu Treth y Cyngor yn y Fwrdeistref Sirol ac sy'n hawlio gostyngiad i berson sengl.
Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:
- Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhifau ffôn a chyfeiriad e-bost.
- Manylion ariannol fel rhif cyfrif banc os ydych chi'n talu am Dreth y Cyngor trwy Ddebyd Uniongyrchol.
- Mewn rhai amgylchiadau, mae gyda ni wybodaeth am eich teulu, eich dibynyddion neu bobl sy ddim yn ddibynyddion, megis eu hoedran, amgylchiadau lle mae modd derbyn gostyngiadau ac eithriadau statws – e.e. prentisiaid, myfyrwyr, gweithwyr dan hyfforddiant, unigolion sy'n gadael yr ysgol / y coleg
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Gall yr wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chasglu amdanoch chi ddod o amrywiaeth o ffynonellau gwahanol fel y rhai sy'n cael eu rhestru isod:
- Gwybodaeth rydych chi'n ei darparu'n uniongyrchol er enghraifft ar ffurflen gais neu drwy ohebiaeth gyda ni.
- Gwybodaeth sy'n cael ei dychwelyd aton ni drwy ein partneriaid adolygu sy'n gwirio gweithgarwch ariannol yn eich cyfeiriad i nodi pwy sydd o bosibl yn byw yno.
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth bersonol yma i adolygu'ch gostyngiad i berson sengl.
Mae modd i hyn gynnwys y canlynol:
5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae'r ddeddfwriaeth Diogelu Data yn nodi ein bod ni'n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.
Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r wybodaeth yma at y dibenion uchod yw:
- Cyflawni ein dyletswyddau statudol swyddogol fel Cyngor a bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y ddeddfwriaeth:
Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
Rheoliadau 14, 15 ac 16 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992
Deddf Dwyn 1968
Rhan 2, Erthygl 12 o Orchymyn yr Awdurdod Lleol (Contractio Biliau Treth, Casglu a Gorfodi) 1996 fel y'i nodwyd gan Offeryn Statudol Rhif 1880
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?
O bryd i'w gilydd, byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth bersonol gydag ymgynghorwyr a darparwyr gwasanaethau fel bod modd iddyn nhw ein helpu i gyflawni ein dyletswyddau, ein hawliau a'n disgresiwn mewn perthynas â Threth y Cyngor. Efallai bod y rhain yn cynnwys:
Gwasanaethau mewnol y Cyngor, gan gynnwys
- Y Gwasanaeth Cofrestru Etholiadol - i gadarnhau preswyliaeth
- Y Gwasanaeth Budd-daliadau - i helpu i weinyddu taliadau Budd-dal Tai neu Ostyngiad yn Nhreth y Cyngor
- Ein hasiantaethau partner sy'n cynnal yr adolygiad ar ein rhan
- Civica UK Ltd - ar gyfer gweinyddu Treth y Cyngor, gan gynnwys cynnal cyfrifon ac adolygiadau o ostyngiadau person sengl.
- Transunion - i gwblhau gwiriadau ariannol/preswylio yn rhan o weithgarwch adolygu gostyngiad treth y cyngor.
7. Am ba mor hir caiff fy ngwybodaeth ei chadw?
Byddwn ni'n cadw eich gwybodaeth bersonol am 7 mlynedd at ddibenion gweinyddu ac i ddelio ag unrhyw gwestiynau neu gwynion rydyn ni'n eu derbyn am hyn. Byddwn ni'n gweithredu fel hyn oni bai bod y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni gadw'ch gwybodaeth am ragor o amser
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
Mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.
9. Cysylltu â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:
- Drwy anfon e-bost: refeniw@rctcbc.gov.uk
- Drwy ffonio: 01443 425002
- Drwy lythyr: Uwchadran Gwasanaethau Ariannol, Tŷ Bronwydd, Porth, CF39 9DL