Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaethau Marchnata a Newyddion

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata  

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1.    Pwy ydyn ni a'r hyn rydyn ni'n ei wneud 

Cyngor mawr, gweithgar a blaengar yw Rhondda Cynon Taf   sy'n cynnig amrywiaeth eang o nwyddau a gwasanaethau i'n preswylwyr a'n hymwelwyr. Mae'r rhain yn cynnwys dosbarthiadau yn y gampfa, cerddoriaeth, drama, comedi, dawns, dosbarthiadau celf a chrefft a ffilmiau ar gyfer pobl o   bob oed.

Rydyn ni hefyd yn cynnig gwasanaethau, cymorth ac achlysuron i fusnesau lleol a sefydliadau partner fel ffeiriau swyddi a chyfleoedd rhwydweithio.

Er mwy i ni roi gwybod i chi am yr holl weithgareddau yma, o bryd i'w gilydd mae'n bosibl y bydd y Cyngor yn anfon negeseuon sy'n ymwneud â gweithgareddau ac achlysuron os ydyn ni'n   meddwl y byddan nhw o ddiddordeb i chi.  Mae modd i hyn fod ar ffurf llythyr, neges destun, e-bost neu alwad ffôn yn dibynnu ar eich dewisiadau marchnata.

2.    Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Er mwyn i ni ddarparu gwybodaeth farchnata i chi, mae rhaid i ni gadw a phrosesu gwybodaeth bersonol amdanoch chi. Fel arfer bydd hyn yn cynnwys:

Gwybodaeth Adnabod a Gwybodaeth Gyswllt – fel eich teitl, eich enw cyntaf, eich cyfenw, eich   cyfeiriad, rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost (yn dibynnu ar eich dewisiadau marchnata).

Gwybodaeth Adnabod a Gwybodaeth Gyswllt: Cysylltiadau Busnes – fel eich teitl, eich enw cyntaf, eich cyfenw, teitl swydd, rhif ffôn swyddfa, cyfeiriad e-bost gwaith a manylion y sefydliad rydych chi'n gweithio iddo.

Gwybodaeth am eich dewisiadau – o bryd i'w gilyddmae'n bosibl y byddwn ni'n casglu, paratoi a dadansoddi gwybodaeth amdanoch chi fel bod modd i ni anfon gwybodaeth neu negeseuon sydd o ddiddordeb i chi neu sy'n bwysig i chi. Er mwyn gwneud hyn, mae modd i ni brosesu gwybodaeth yn ymwneud â'ch rhyngweithiadau a'ch cysylltiadau â ni, gan gynnwys:

  • Achlysuron rydych chi wedi'u mynychu
  • Gweithgareddau rydych chi wedi cymryd rhan ynddyn nhw e.e. dosbarth ffitrwydd, campfa ac ati.
  • Tocynnau rydych chi wedi'u prynu wrthym ni
  • Sut rydych chi'n talu am nwyddau neu wasanaethau
  • Sut rydych chi'n cyfathrebu â ni - ar-lein, dros y ffôn ac ati.

3.    O ble mae'r Cyngor yn cael fy ngwybodaeth?  

Marchnata Uniongyrchol - e-bost, neges destun neu dros y ffôn

Ar gyfer 'marchnata uniongyrchol' (deunydd hysbysebu / marchnata sy'n cael ei gyfeirio at unigolyn penodol a'i anfon trwy e-bost, neges destun neu dros y ffôn), byddwn ni'n casglu'ch gwybodaeth adnabod a'ch gwybodaeth gyswllt yn uniongyrchol oddi wrthych chi pan fyddwch chi'n cofrestru i dderbyn gwybodaeth hysbysebu neu farchnata wrthym ni. Mae modd cofrestru mewn sawl ffordd. Mae'n bosibl y bydd gofyn i chi gofrestru: 

  • Wrth gyflwyno cais - er enghraifft pan rydych chi'n ymuno â chynllun Hamdden am Oes.
  • Pan rydych chi'n prynu tocyn ar gyfer achlysur (mae'n bosibl y bydd hyn ar wefan trydydd parti dibynadwy sy'n gweithredu ar ein rhan ni). 
  • Pan rydych chi'n gwneud taliad i ni. 
  • Pan fyddwch chi'n ymweld â gwefan y Cyngor a defnyddio ein gwasanaethau / e-ffurflenni ar-lein. 
  • Pan rydych chi'n defnyddio ein cyfleusterau neu'n ymweld â sefydliadau'r Cyngor, gan gynnwys Canolfannau Hamdden, Lido Ponty neu Barc Treftadaeth Cwm Rhondda. 

 Marchnata Uniongyrchol - llythyr / post

Ar gyfer marchnata uniongyrchol sy'n cael ei anfon atoch chi drwy'r post, lle does dim angen i ni ofyn am eich caniatâd penodol i gyfathrebu â chi ac anfon gwybodaeth farchnata i chi, byddwn ni'n cael eich gwybodaeth oddi wrth y cofnodion sydd gan y Cyngor eisoes. Er enghraifft, pe baech chi'n   cymryd rhan mewn achlysur blynyddol rheolaidd neu wedi mynychu'r flwyddyn flaenorol, efallai y byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth gyswllt gwnaethoch chi ei rhoi i ni bryd hynny i gysylltu â chi eleni drwy'r post i hyrwyddo'r achlysur neu i ofyn a hoffech chi gymryd rhan.

4.  Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth uchod i ddarparu gwasanaethau marchnata i chi fel sy wedi'i amlinellu uchod.

5.    Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?  

Mae deddfwriaeth Diogelu Data yn dweud bod hawl gyda ni i brosesu'ch gwybodaeth bersonol mewn achosion lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny yn unig. Ein sail gyfreithiol i brosesu'ch gwybodaeth yw:

Marchnata uniongyrchol i unigolion (h.y. defnyddiwr y gwasanaeth, preswylydd, ymwelydd ac ati) trwy e-bost, neges destun neu dros y ffôn:

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'ch gwybodaeth bersonol yw caniatâd.

Mae gyda chi'r hawl i dynnu'r caniatâd yma yn ôl ar unrhyw adeg. Mae modd i chi wneud hyn ar unrhyw adeg trwy gael gwared ar eich manylion o'r rhestr ddosbarthu. Gan fod y mwyafrif helaeth o'n cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol yn cael eu hanfon trwy e-bost, mae modd gwneud hyn trwy ddefnyddio'r ddolen dad-danysgrifio ar waelod pob e-bost rydyn ni'n n ei anfon atoch chi. Fel arall, ar gyfer cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol trwy neges destun neu alwad ffôn, trafodwch eich dewisiadau marchnata gydag aelod o staff neu e-bostiwch cysylltiadaucyhoeddus@rctcbc.gov.uk.  Wrth e-bostio ni, rhowch wybod i ni a ydych chi'n dymuno dad-danysgrifio o bob cyfathrebiad   marchnata neu dim ond ambell un sy ddim o ddiddordeb i chi erbyn hyn.

Cyfathrebiadau marchnata busnes i fusnes trwy negeseuon e-bost neu dros y ffôn:

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'ch gwybodaeth bersonol ar gyfer marchnata busnes i fusnes yw   caniatâd ond rydyn ni hefyd yn dibynnu ar fuddiannau dilys trwy hyrwyddo ein gwasanaethau a'n tasg gyhoeddus. 

Marchnata Uniongyrchol (unigol a busnes i fusnes) trwy lythyr / post

Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'ch gwybodaeth bersonol yw ei bod yn rhan o'n tasg gyhoeddus a'n diddordebau dilys wrth hyrwyddo ein gwasanaethau a darparu'r gwasanaeth gorau posibl i chi.

6.    Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?  

Rydyn ni weithiau'n defnyddio asiantau a chwmnïau trydydd parti i ddarparu gwasanaethau marchnata neu gyfathrebu ar ein rhan. Mae'r rhain yn cynnwys:

Cwmnïau rheoli tanysgrifiad e-bost:

Mae rhai gwasanaethau'n defnyddio cwmnïau o'r enw 'Moosend' a 'MailChimp' i reoli tanysgrifiadau   marchnata e-bost ar ein rhan. Caiff eich cyfeiriad e-bost ei rannu a'i ddefnyddio gan y cwmnïau yma at y diben yma yn unig, a chaiff e ddim ei rannu na'i ddefnyddio ymhellach at unrhyw ddibenion eraill heb i chi wybod na heb eich caniatâd. 

Asiantau Tocynnau a Gwasanaethau Marchnata / Dosbarthu

O bryd i'w gilydd, byddwn ni'n defnyddio asiantau tocynnau/achlysuron a gwasanaethau marchnata/dosbarthu er mwyn hyrwyddo ein hachlysuron, gwerthu tocynnau ar gyfer yr achlysuron hynny ar ein rhan ac er mwyn hysbysebu gwasanaethau. O bryd i'w gilydd, bydd yr asiantau yma'n gofyn ar ein rhan ni os ydych chi eisiau cofrestru ar gyfer gwasanaethau newyddion y Cyngor. 

Mae'r Cyngor yn defnyddio'r asiantau / cwmnïau trydydd parti dibynadwy canlynol at y diben yma:

  •   Tickets.com
  •   Eventbrite.com
  •   Gwasanaethau marchnata e.e. Paul Raybould
  •   Gwasanaethau dosbarthu e.e. Crowd Connect 

Wrth danysgrifio i wasanaethau newyddion y Cyngor trwy un o'n hasiantau trydydd parti dibynadwy rydyn ni'n eich annog i ddarllen eu hysbysiad preifatrwydd yn ogystal â'r hysbysiad yma, fel eich bod yn deall yn llawn sut y mae modd iddyn nhw ddefnyddio'ch gwybodaeth bersonol.

7.    Am faint o amser bydd fy ngwybodaeth yn cael ei chadw?

Ar gyfer dibenion marchnata uniongyrchol trwy e-bost, neges destun a dros y ffôn, byddwn ni ond yn cadw'ch gwybodaeth bersonol cyhyd ag y byddwch chi wedi tanysgrifio i dderbyn gwybodaeth farchnata oddi wrthym ni. 

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau  

Mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Edrychwch ar ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.

9. Cysylltwch â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

E-bost: cysylltiadaucyhoeddus@rctcbc.gov.uk  

Ffôn: 01443 424015

Trwy lythyr: Gwasanaeth Cysylltiadau Cyhoeddus, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Tonypandy, CF40 2XX