Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion yr Uned Iechyd Galwedigaethol a Lles.
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol a Lles i'w gyflogai a’i weithwyr. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am weithwyr, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion yr Uned Iechyd Galwedigaethol a Lles. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.
1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud.
Mae'r Uned Iechyd Galwedigaethol a Lles yn canolbwyntio ar lesiant corfforol a meddyliol gweithwyr Cyngor Rhondda Cynon Taf yn y gweithle. Rydyn ni'n rhoi cymorth i weithwyr sy'n absennol o'r gwaith o ganlyniad i salwch ac yn helpu hwyluso trefnau dychwelyd i'r gwaith, yn ogystal â chefnogi'r rheiny sydd yn gweithio ac sydd angen ymyraethau meddygol.
Rydyn ni hefyd yn cynnal gwiriadau Arolygu Iechyd, y mae gofyn i ni ei wneud yn ôl y gyfraith, ar gyfer rhai gweithwyr sy'n agored i sŵn, dirgryniad, mygdarth a sylweddau peryglus eraill.
|
2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Mae'r Uned Iechyd Galwedigaethol a Lles yn cadw gwybodaeth bersonol a meddygol ar gyfer pob gweithiwr sy'n cael ei atgyfeirio i'r uned. Mae hyn yn cynnwys y categorïau canlynol:
- Gwybodaeth Bersonol a Manylion Cyswllt
- Dyddiad Geni, Rhif Yswiriant Gwladol, Rhyw ac Oedran
- Gwybodaeth am eich Cyflogaeth (presennol ac yn y gorffennol
- Gwybodaeth Feddygol / Iechyd
Caiff yr wybodaeth yma ei darparu i'r Uned Iechyd Galwedigaethol a Lles gan y cyflogai/gweithiwr, y Rheolwr ac Adran Adnoddau Dynol. Os oes angen, caiff rhagor o wybodaeth ei chasglu gan y Meddyg Teulu, Meddyg Ymgynghorol (neu weithwyr proffesiynol meddygol eraill) a'r Undeb Llafur, a hynny ar ôl rhoi gwybod i'r gweithiwr.
|
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Mae'r Uned Iechyd Galwedigaethol a Lles yn casglu gwybodaeth oddi wrth:
- Y cyflogai/gweithiwr
- Y rheolwr
- Adran Adnoddau Dynol
- Clinigydd Iechyd Galwedigaethol, er enghraifft Nyrs, Doctor, Ffisiotherapydd, Cwnselydd, Technegydd
- Meddyg Teulu, Meddyg Ymgynghorol (neu weithwyr meddygol proffesiynol eraill)
- Undeb Llafu
- Adran Pensiynau
Caiff yr wybodaeth yma ei chasglu trwy:
- Atgyfeiriadau am asesiad a chymorth gan Reolwyr / Adnoddau Dynol
- Asesiadau Ffit i Weithio
- Trefniadau absenoldeb oherwydd salwch
- Cofnodion Meddygol (Clinigyddion Uned Iechyd Galwedigaethol, Meddyg Teulu, Meddyg Ymgynghorol ac ati)
- Hunan-atgyfeiriadau (ceisiadau Cwnsela yn unig)
- Dogfennau Pensiynau
|
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth bersonol sy'n cael ei chadw er mwyn:
- Cefnogi a rheoli gweithiwr trwy unrhyw broblemau corfforol neu feddyliol tra ei fod yn y gwaith neu’n absennol oherwydd salwch.
- Apwyntiad Blynyddol Cadw Golwg ar Iechyd
- Cydymffurfio â chyfraith berthnasol, er enghraifft deddfwriaeth iechyd a diogelwch.
|
5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Yn gyffredinol bydd ein sail gyfreithiol dros ddefnyddio gwybodaeth bersonol yn un neu ragor o’r canlynol:
- Mae angen i ni brosesu'ch gwybodaeth bersonol er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth ymarfer awdurdod swyddogol yn rhan o'n swyddogaeth fel corff cyhoeddus.
- Mae angen i ni brosesu gwybodaeth bersonol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol, e.e. er mwyn cydymffurfio â chyfraith iechyd a diogelwch.
- Mae angen i ni broses gwybodaeth bersonol yn rhan o'r contract cyflogaeth.
|
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?
Mae'n bosibl y bydd rhaid i ni rannu eich gwybodaeth yn fewnol gydag adrannau eraill y Cyngor, er enghraifft:
- Adran Adnoddau Dynol
- Adran Pensiynau
- Carfan Iechyd a Diogelwch
- Rheolwyr
Mae'n bosibl y bydd angen i ni rannu eich gwybodaeth gyda thrydydd parti, er enghraifft:
- Meddyg Teulu / Meddygon Ymgynghorol / Arbenigwyr (e.e. MRI / Podiatreg ac ati.), i gael rhagor o wybodaeth am ddiagnosis er mwyn rhoi cymorth gwell i'r gweithiwr a'r rheolwr. Mae hyn yn cynnwys Podiatry Wales, Workforce Welbeing, Performance Physiotherapy, Baseline Physiotherapy, Gwasanaethau Ffisiotherapi Annibynnol.
- Cyfreithwyr / Heddlu, er enghraifft ar gyfer achosion llys gan gynnwys hawliadau yswiriant ac erlyn ar ran y cyflogai a'r sefydliad.
- Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus 2013 (‘RIDDOR’)
- Ymarferwyr Meddygol Cofrestredig Annibynnol - Meddygon Pensiwn
- Undeb Llafur
- Unrhyw sefydliadau dibynadwy eraill y mae modd i weithwyr gael mynediad atyn nhw am gymorth/triniaeth ychwanegol e.e. gwasanaethau cwnsela allanol megis MIND, Cardiff Therapy Ltd a chwnsleriaid preifat, yn ogystal â Chynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i wneud Ymarfer Corff, Rhaglen Gofal ar y Cyd, Spire, Cobalt, Rhaglen Imiwneiddio (e.e. Hepatitis B ac ati).
Mae'r Uned Iechyd Galwedigaethol a Lles yn ymrwymo i fod yn onest ac yn agored ynghylch y ffordd rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol a gyda phwy rydyn ni'n ei rhannu. Yn ogystal â hynny, bydd yr wybodaeth sy'n cael ei chynnwys yn yr hysbysiad preifatrwydd yma'n cael ei defnyddio er mwyn rhannu'r wybodaeth yma gyda chi ar lafar ar ôl i ni gwrdd â chi.
Mae'n bwysig nodi y mae'n bosibl y bydd yna amgylchiadau eithriadol lle mae cyfraith yn ein galluogi ni i beidio rhoi gwybod i chi os ydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol. Fel arfer, mae hyn yn cynnwys gwybodaeth sy'n cael ei defnyddio er mwyn atal, nodi ac/neu ymchwilio i drosedd neu achos o dwyll.
|
7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?
Byddwn ni ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag y bydd arnom ei hangen, yn dibynnu ar natur y wybodaeth. Er enghraifft, dylai cofnodion Iechyd Galwedigaethol gael eu cadw hyd at 6 mlynedd ar ôl i gontract cyflogaeth y gweithiwr ddod i ben neu hyd at ben-blwydd y gweithiwr yn 75 oed, neu beth bynnag ddaw'n gyntaf. Fodd bynnag, mae modd cadw gwybodaeth ynghylch Arolygu Iechyd am o leiaf 40 blynedd ar ôl dyddiad y cofnod diwethaf.
|
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
9. Cysylltwch â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:
Dros y ffôn : 01443 494003
Trwy lythyr : Uned Iechyd a Lles Galwedigaethol, Adeiladau'r Cyngor, Heol Gelliwastad, Pontypridd, CF37 2DP
|
Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.
Rhowch reswm ac unrhyw awgrymiadau o ran ein cynorthwyo i wella y dudalen we.