Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol chi at ddibenion proses Rheoli Ymddygiad Gwrthgymdeithasol y Partneriaeth Cymunedau Diogel.
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion proses Rheoli Ymddygiad Gwrthgymdeithasol y Partneriaeth Cymunedau Diogel. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.
1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud.
Mae Partneriaeth Cymunedau Diogel Rhondda Cynon Taf yn cynnwys yr Awdurdod Lleol, yr Heddlu a llawer o asiantaethau eraill sy'n gweithio ar y cyd er mwyn gostwng nifer yr achosion o drosedd, ofn trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae carfan arbenigol ar faterion ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ei lle yn Rhondda Cynon Taf. Mae'n mynd i'r afael ag achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, tramgwyddwyr ac ardaloedd lle mae problemau, ac mae'n rhoi cymorth i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol.
2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Bydd achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, a manylion personol yr unigolion sy'n gysylltiedig â nhw, yn cael eu cofnodi a'u cadw ar gronfa ddata ddiogel. Bydd hyn yn cynnwys manylion personol y troseddwyr a'r dioddefwyr.
Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:
- Y Troseddwr - Enw, Cyfeiriad a Dyddiad Geni
- Y Dioddefwr - Enw, Cyfeiriad a Dyddiad Geni
- Os yw'r troseddwr neu'r dioddefwr yn iau nag 16 oed, byddwn ni'n cadw cofnod o fanylion personol eu rhieni.
- Amgylchiadau'r achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Mae'r wybodaeth rydyn ni'n ei chadw yn dod o ffurflen atgyfeirio sy'n cael ei llenwi gan Heddlu De Cymru.
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth yma yn y ffyrdd canlynol:
Y Troseddwr - bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio at ddibenion unrhyw waith gweithredu neu waith ymyrraeth rydyn ni'n bwriadu'i gyflawni gyda'r unigolyn.
Y Dioddefwr - bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio a'i rhannu er mwyn cydlynu ymateb amlasiantaeth i ddatrys problemau'r dioddefwyr ac i fynd i'r afael â'r materion y tu ôl i'r problemau. Byddwn ni ond yn rhannu gwybodaeth os oes gyda ni ganiatâd yr unigolyn.
5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni ond yn gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol os oes gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.
Mae hawl gyda ni i gadw a rhannu'r wybodaeth yma mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ôl adran 115 Deddf Trosedd ac Anrhefn 1998.
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?
Y Troseddwr - bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio a'i rhannu gyda phartneriaid y Partneriaeth Cymunedau Diogel er mwyn cyflawni unrhyw waith gorfodi neu waith ymyrraeth rydyn ni'n bwriadu'i gyflawni gyda'r unigolyn, er enghraifft:
- Heddlu De Cymru
- Gwasanaeth Troseddwyr Ifainc
Y Dioddefwr - Bydd yr wybodaeth yma'n cael ei defnyddio a’i rhannu er mwyn cydlynu ymateb amlasiantaeth i ddatrys problemau'r dioddefwyr ac i fynd i'r afael â'r materion y tu ôl i'r problemau. Bydd yr wybodaeth ond yn cael ei rhannu os oes gyda ni ganiatâd yr unigolyn.
7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?
Dydyn ni ddim yn gyfrifol am reoli'r data sydd ar system Niche yr Heddlu, ond byddwn ni'n cael gwared ar unrhyw wybodaeth rydyn ni yn unig yn ei chadw yn unol ag Amserlen a Pholisi Cadw Gwybodaeth a Chael Gwared ar Wybodaeth y Cyngor.
Am ragor o wybodaeth, gweler Polisi ac Amserlen Cadw Gwybodaeth a Chael Gwared ar Wybodaeth y Cyngor.
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.
Edrychwch ar ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.
9. Cysylltwch â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:
E-bost : cymunedaudiogel@rctcbc.gov.uk
Ffôn : 01443 425001
Trwy lythyr : Carfan Cymunedau Diogel RhCT, Tŷ Elái, Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, Tonypandy, CF40 1NY