Skip to main content

Hysbysiad preifatrwydd - System Teledu Cylch Cyfyng mewn Mannau Agored Cyhoeddus

Cyflwyniad

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu 'brosesu') data personol am unigolion y mae eu delwedd wedi'i chasglu gan system Teledu Cylch Cyfyng 'Mannau Agored Cyhoeddus' y Cyngor.

Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

Ynglŷn â system Teledu Cylch Cyfyng mewn Mannau Agored Cyhoeddus y Cyngor

Mae'r Cyngor yn gweithredu rhwydwaith o gamerâu Teledu Cylch Cyfyng ledled y Fwrdeistref Sirol.

Mae'r camerâu Teledu Cylch Cyfyng yn monitro mannau sy'n agored i'r cyhoedd megis canol trefi, parciau, meysydd parcio, hewlydd ac ati, a hynny at y dibenion sydd wedi'u nodi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma. Cliciwch yma i fwrw golwg ar y map o'n camerâu Teledu Cylch Cyfyng mewn Mannau Agored Cyhoeddus. 

Mae arwyddion wedi'u gosod wrth fynedfeydd ac allanfeydd canol trefi a meysydd parcio, i nodi bod delweddau'n cael eu casglu at ddibenion atal troseddau ac er budd diogelwch y cyhoedd.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y system Teledu Cylch Cyfyng mae’r Cyngor yn ei ddefnyddio mewn Mannau Agored Cyhoeddus. 

Rheolwr Data

Y Cyngor yw'r rheolwr data ar gyfer y data personol sy'n cael ei gasglu gan y system Teledu Cylch Cyfyng mewn Mannau Agored Cyhoeddus.

Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru yn rheolwr gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Ei gyfeirnod yw Z4870100.

Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Pe hoffech chi holi unrhyw gwestiynau neu wneud ymholiadau am yr hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch ag adran Teledu Cylch Cyfyng y Cyngor:

Drwy E-bost: YmwelyddCCTV@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Drwy ffonio: 01443 425005

Drwy'r post: Canolfan Rheoli Teledu Cylch Cyfyng (CCTV), Tŷ Elai, Trewiliam, Tonypandy, RhCT, CF40 1NY

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Rydyn ni'n prosesu delweddau unigolion sydd wedi'u casglu gan system Teledu Cylch Cyfyng mewn Mannau Agored Cyhoeddus y Cyngor. 

Dydyn ni ddim yn casglu sain drwy'r system Teledu Cylch Cyfyng mewn Mannau Agored Cyhoeddus. 

Er nad ydyn ni'n mynd ati'n fwriadol i gasglu unrhyw ddata personol arall, mae'n bosibl y bydd y teledu cylch cyfyng yn casglu gwybodaeth bellach anuniongyrchol am unigolion megis problemau iechyd neu drosedd.

Data personol pwy ydyn ni'n ei brosesu?

Rydyn ni'n prosesu data personol unigolion y mae eu delweddau wedi'u casglu gan y system Teledu Cylch Cyfyng mewn Mannau Agored Cyhoeddus. Mae modd i hyn gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Preswylwyr RhCT
  • Ymwelwyr â'r ardal
  • Unigolion sy'n gweithio yn yr ardal

Pam rydyn ni'n prosesu data personol?

Rydyn ni'n prosesu data personol sydd wedi'i gasglu gan ein system Teledu Cylch Cyfyng mewn Mannau Agored Cyhoeddus at ddibenion atal troseddau ac er budd diogelwch y cyhoedd. Mae hyn yn benodol at y dibenion canlynol:

  • helpu i leihau ofn trosedd
  • helpu atal troseddau
  • helpu canfod troseddau
  • cynorthwyo i gefnogi achosion sifil a fydd yn helpu i ganfod troseddau
  • darparu deunydd tystiolaeth mewn achosion llys
  • cynorthwyo i reoli canol trefi
  • gwella diogelwch y cyhoedd, cynorthwyo i ddatblygu lles economaidd yr ardal ac annog mwy o ddefnydd o ganol trefi, mannau siopa, meysydd parcio ac ati.
  • cynorthwyo'r Cyngor yn ei swyddogaethau gorfodi a rheoleiddio 

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol

O dan Reoliadau Diogelu Data Cyffredinol a Deddf Diogelu Data 2018, ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol sy'n cael ei gasglu gan ein system Teledu Cylch Cyfyng mewn Mannau Agored Cyhoeddus yw:

Data Personol

  • Rhwymedigaeth gyfreithiol (c) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer rwymedigaeth gyfreithiol sydd wedi'i rhoi i'r rheolwr.
  • Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.

Data Categori Arbennig

  • Budd sylweddol i'r cyhoedd – Erthygl 9 (2) (g) – prosesu sy'n angenrheidiol er budd sylweddol y cyhoedd, ar sail cyfraith Undebol neu aelod-wladwriaeth sy'n gyfraneddol i'r nod, yn parchu hanfod hawliau diogelu data ac yn darparu mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau sylfaenol a buddion y person y mae'r data amdano.
  • Deddf Diogelu Data, Atodlen 1, Rhan 2, 6 - at ddibenion Statudol a Llywodraeth
  • Deddf Diogelu Data, Atodlen 1, Rhan 2, 10 - Atal a chanfod gweithredoedd anghyfreithlon

Data Tramgwyddau Troseddol

  • Erthygl 10 - o dan reolaeth awdurdod swyddogol

Mae'r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a'r canllawiau sylfaenol sy'n ategu hyn yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i; 

  • Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus - Mae Adran 163 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 yn creu'r pŵer i awdurdodau lleol gael darpariaeth teledu cylch cyfyng dros unrhyw dir yn eu hardal at ddibenion atal trosedd neu er budd lles dioddefwyr ac mae hefyd yn cael ei ystyried yn fenter angenrheidiol o dan Ddeddf Trosedd ac Anrhefn 1998.
  • Deddf Gweithdrefn ac Ymchwiliadau Troseddol 1996
  • Deddf Hawliau Dynol 1998
  • Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000
  • Cod Ymarfer Camerâu Goruchwyliaeth

Gan bwy neu o ble rydyn ni'n casglu data personol?

Rydyn ni'n cael y data personol yn uniongyrchol gan yr unigolion y mae eu delweddau yn cael eu casglu gan ein camerâu Teledu Cylch Cyfyng mewn Mannau Agored Cyhoeddus.

Gyda phwy mae data yn cael eu rhannu?

Gan ein bod ni'n monitro'n Teledu Cylch Cyfyng mewn Mannau Agored Cyhoeddus mewn amser real, rydyn ni'n rhannu gwybodaeth sy'n cael ei gasglu gan ein system gyda'r Heddlu, asiantaethau gorfodi'r gyfraith eraill, y gwasanaethau brys a charfanau gorfodi'r Cyngor fel mater o drefn er mwyn:

  • Atal a chanfod troseddau
  • Dal troseddwyr
  • Trefnu ymateb ar frys e.e. i ddigwyddiad traffig y ffordd
  • Olrhain pobl sydd ar goll

Yn ogystal, efallai y bydd trydydd parti yn gofyn am fynediad i ddeunydd Teledu Cylch Cyfyng sydd wedi'i recordio fesul achos. Mae'n bosibl y byddwn ni'n datgelu i'r trydydd parti hyn, lle mae'r gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny. Dyma restr o'r ceisiadau mwyaf cyffredin rydyn ni'n eu derbyn am ddeunydd wedi'i recordio. (Dydy'r rhestr yma ddim yn gynhwysfawr)

Pwy

Diben

Yr Heddlu ac asiantaethau eraill sy'n gorfodi'r gyfraith

Mae'n bosibl y bydd data personol sy'n cael eu recordio gan ein system teledu cylch cyfyng ar gyfer Mannau Agored Cyhoeddus yn cael eu rhannu gyda'r heddlu at y dibenion canlynol:

  • Atal a chanfod troseddau
  • Dal neu erlyn tramgwyddwyr
  • Achos cyfreithiol

Carfanau Gorfodi'r Awdurdod Lleol

Mae'n bosibl y bydd data personol sy'n cael eu recordio gan ein system teledu cylch cyfyng ar gyfer Mannau Agored Cyhoeddus yn cael eu rhannu gyda charfanau gorfodi'r Awdurdod Lleol at y dibenion canlynol:

  • Atal a chanfod troseddau
  • Prosesu troseddau sifil e.e. cŵn yn baeddu, taflu sbwriel, tipio anghyfreithlon
  • Dal neu erlyn tramgwyddwyr
  • Achos cyfreithiol

Y Llysoedd

Mae'n bosibl y bydd data personol sy'n cael eu recordio gan ein system teledu cylch cyfyng ar gyfer Mannau Agored Cyhoeddus yn cael eu rhannu gyda'r Llysoedd at y dibenion canlynol:

  • Achos cyfreithiol
  • Gorchymyn llys

Cyfreithwyr a chynrychiolwyr cyfreithiol ac ati

Mae'n bosibl y bydd data personol sy'n cael eu recordio gan ein system teledu cylch cyfyng ar gyfer Mannau Agored Cyhoeddus yn cael eu rhannu gyda Chynrychiolwyr Cyfreithiol at y dibenion canlynol:

  • Achos cyfreithiol
  • Gorchymyn llys

Cwmnïau yswiriant, pobl sy'n ymdrin â honiadau ac ati

Mae'n bosibl y bydd data personol sy'n cael eu recordio gan ein system teledu cylch cyfyng ar gyfer Mannau Agored Cyhoeddus yn cael eu rhannu gyda chwmnïau yswiriant at y dibenion canlynol:

  • Achos cyfreithiol

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Mae'n bosibl y bydd data personol sy'n cael eu recordio gan ein system teledu cylch cyfyng ar gyfer Mannau Agored Cyhoeddus yn cael eu rhannu â'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac asiantaethau perthnasol i gefnogi archwiliad.

Proseswyr Data

Mae proseswr data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan. Mae ein proseswyr data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig. Does dim hawl ganddyn nhw i wneud unrhyw beth â’r data personol ac eithrio ein bod ni'n eu cyfarwyddo i wneud hynny. Fyddan nhw ddim yn rhannu'r data personol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn eu defnyddio at eu dibenion eu hunain. Byddan nhw'n eu cadw'n ddiogel am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.

Y categori proseswr data rydyn ni'n eu defnyddio at ddibenion cynnal a chadw'r system yw;

  • Contractwyr a chyflenwyr cynnal a chadw system teledu cylch cyfyng

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?

Mae'r Cyngor yn dal gafael ar ddeunydd sydd wedi'i recordio gan ein system Teledu Cylch Cyfyng mewn Mannau Agored Cyhoeddus am gyfnod o 31 diwrnod o'r dyddiad y cafodd y deunydd ei recordio. 

Lle mae cais am recordiad yn dod i law, mae'n bosibl y bydd y deunydd yn cael ei gadw am gyfnod hirach, hyd nes y bydd y cais wedi'i gwblhau. 

Os yw'r recordiad yn destun archwiliad gan yr Heddlu neu archwiliad iechyd a diogelwch neu rywbeth tebyg, mae'n bosibl y bydd copi o'r recordiad yn cael ei gadw am ragor o amser at y dibenion hyn.

Eich hawliau o ran diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld eu data personol. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w harfer nhw. 

Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data

Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn ein bod ni ddim wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da. 

Mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Rhoi sylwadau, canmol a chwyno) neu e-bostiwch Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.

Eich hawl i gyflwyno cwyn am ddiogelu data i'r ICO

Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

Mae modd cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn: