Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd - Cyflawni Gofal Plant

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Cyflawni Gofal Plant

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Cyflawni Gofal Plant. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1. Pwy ydyn ni? Beth ydyn ni'n ei wneud?

Mae'r Garfan Cyflawni Gofal Plant yn goruchwylio safon lleoliadau gofal plant ar gyfer lleoliadau sy'n cael eu rheoli gan y Cyngor a lleoliadau sydd wedi'u comisiynu (allanol). 

Yn y lleoliadau dan adain yr awdurdodau lleol, mae'r Garfan Cyflawni Gofal Plant wedi'i chofrestru i ddarparu'r gwasanaeth gofal plant o dan Arolygiaeth Gofal Cymru ac o'r herwydd rydyn ni'n sicrhau bod yr holl ofynion cyfreithiol ar gyfer casglu a chadw data yn unol â safonau a rheoliadau Arolygiaeth Gofal Cymru.

2. Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am blant yn ein gofal a'u teuluoedd. Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys;

Gwybodaeth am y plentyn/plant

  • Enw llawn
  • Dyddiad Geni
  • Cyfeiriad
  • Rhywedd
  • Tras Ethnig
  • Iaith Gyntaf y Teulu
  • Crefydd/Diwylliant
  • unrhyw alergedd / gofynion dietegol / cyflyrau meddygol neu os yw ef/hi wedi'i gofrestru ag anabledd
  • Dyddiad eu prawf clyw diwethaf
  • Imiwneiddiadau diweddar

Gwybodaeth am y rhieni

  • Enw'r ddau riant a'u perthynas â'r plentyn
  • Os yw'r rhiant wedi'i enw ar y Dystysgrif Geni
  • Os ydyn nhw o dan 25 oed
  • Manylion cyswllt - cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol a rhif cartref a rhif gwaith, os ydyn nhw ar gael 
  • Cyfeiriad, os yw'n wahanol i gyfeiriad y plentyn
    • Rydyn ni'n gofyn i'r rhieni os oes ganddyn nhw unrhyw anableddau
    • Rydyn ni'n gofyn a oes unrhyw berson(au) NAD oes ganddyn nhw hawl gyfreithiol i'r plentyn
    • Rydyn ni'n gofyn am enwau a manylion cyswllt y gweithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â'r plentyn, e.e:
      • Ymwelydd Iechyd, Meddyg, Deintydd ac unrhyw weithwyr proffesiynol eraill y mae angen i ni wybod amdanyn nhw. 
      • Rydyn ni hefyd yn gofyn am enwau a rhif cyswllt dau oedolyn arall rhag ofn bod achos o argyfwng.

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Daw'r holl wybodaeth sydd gyda ni amdanoch chi a'ch plentyn/plant yn uniongyrchol oddi wrthoch chi wrth lenwi'r ffurflen Gofrestru i Rieni (gan garfan ganolog Dechrau'n Deg) a hefyd y ffurflen gofrestru ar gyfer lleoliadau unigol.

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Rydyn ni'n defnyddio'r wybodaeth i gynllunio ar gyfer anghenion unigol eich plentyn yn ogystal â'u diwallu tra'i fod yn y lleoliad.

5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae cyfraith Diogelu Data yn dweud ein bod yn cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol lle mae gyda ni resymau priodol a chyfreithlon dros wneud hynny yn unig.

Mae gan y Cyngor ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu lleoliadau gofal plant yn unol â Mesur Plant a Theuluoedd Cymru 2010 a rheoliadau eraill ar gyfer Gwarchod Plant sydd i'w gweld ar wefan Arolygiaeth Gofal Cymru.

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Ydy. Byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth pan fydd eich plentyn yn symud i leoliad addysgol neu ddarparwr arall yn rhan o broses pontio.

Dim ond ar ôl derbyn caniatâd gennych chi (y rhiant) y mae gwybodaeth yn cael ei rhannu â sefydliadau allanol megis gwasanaethau iechyd.  Fodd bynnag, os oes gan aelod o staff unrhyw bryderon ynghylch diogelwch plentyn, neu os yw'r plentyn mewn perygl, bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda'r asiantaethau perthnasol heb ganiatâd y rhiant. 

7. Am ba mor hir caiff fy ngwybodaeth ei chadw?

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw yn unol â'r ddeddfwriaeth a fydd hi ddim yn cael ei chadw am gyfnod yn hirach na'r angen neu'r rheswm y caiff ei chasglu'n wreiddiol. 

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Mae modd i chi weld rhagor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw yma.

9.  Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

  • Drwy e-bostio: Rachael.ceshion@rctcbc.gov.uk
  • Drwy ffonio: 01443 281437
  • Drwy lythyr: Rheolwr y Garfan Cyflawni Gofal Plant, Tŷ Trevithick, Abercynon, RhCT, CF45 4U