Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant.
Mae'r Gwasanaethau i Blant yn darparu mathau gwahanol o ofal, cymorth a help i blant a phobl ifainc o bob oed ac o gefndiroedd gwahanol sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf.
I wneud hyn, mae rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth amdanat ti. Mae rhaid i ni ddweud wrthot ti sut rydyn ni'n gwneud hynny a'r hyn rydyn ni'n ei wneud gyda dy wybodaeth di, gan obeithio bod hynny'n egluro popeth i ti.
Os oes gen ti unrhyw gwestiynau mewn perthynas â'r hysbysiad preifatrwydd yma, efallai y byddai modd i un o dy rieni di neu dy gynhaliwr/gwarcheidwad dy helpu di i'w ddeall. Os nad oes modd i ti siarad â nhw, bydd modd i dy weithiwr cymorth dy helpu di hefyd.
Neu, os oes unrhywbeth hoffet ti ei wybod, mae modd cysylltu â ni a byddwn ni'n hapus i esbonio. Mae'n manylion ni ar waelod y dudalen yma.
1. Pwy yw Gwasanaethau i Blant?
Rydyn ni'n cynnig cyngor, help a chymorth i blant, pobl ifainc a'u teuluoedd.
Rydyn ni eisiau sicrhau bod plant a phobl ifainc yn ddiogel, yn iach, yn heini ac yn annibynnol.
2. Sut mae modd i ni dy helpu di?
Rydyn ni'n gwneud llawer o bethau, er enghraifft;
- Rhoi cymorth i blant.
- Helpu rhieni â gofal plant.
- Trefnu ymweliadau gan ymwelwyr iechyd.
- Gweithio gyda thi a dy deulu pan fyddi di'n wynebu heriau.
- Dy helpu di i ddelio â phyderon neu broblemau yn y cartref cyn iddyn nhw waethygu.
- Cynnig help a chymorth os wyt ti'n berson ifanc sy'n gofalu neu'n edrych ar ôl rhywun arall.
- Rydyn ni yma'n gefn i ti os wyt ti'n blentyn neu'n berson ifanc ag anableddau (corfforol a dysgu).
- Rhoi mynediad i ti i Wasanaethau Ieuenctid, sy'n cynnwys clybiau a grwpiau.
- Sicrhau dy fod ti'n cael y gofal cywir a bod neb yn dy frifo di.
- Rhoi cymorth i ti os wyt ti'n cael anghenion emosiynol, seicolegol a meddyliol yn anodd.
- Sicrhau amgylchedd diogel a chynorthwyol i ti os wyt ti wedi cael dy fabwysiadu neu gyda theulu maeth, neu os wyt ti eisiau chwilio am dy berthnasau genedigol.
- Rhoi cymorth i ti os byddi di mewn trafferth gyda'r Heddlu.
3. Beth yw Gwybodaeth Bersonol?
Gwybodaeth amdanat ti, er enghraifft dy enw di, dy ddyddiad geni, ble rwyt ti'n byw, i ba ysgol rwyt ti'n mynd, dy grefydd di, unrhyw wybodaeth feddygol a gwybodaeth am dy deulu di.
4. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Byddwn ni'n cael yr wybodaeth yma'n uniongyrchol gennych chi, pan fyddwch chi'n cwrdd ac yn siarad â'n gweithwyr cymdeithasol/cymorth neu pan fyddwch chi'n cwblhau un o'n harolygon.
Os wyt ti'n ifanc iawn, efallai na fyddi di'n gwybod yr wybodaeth yma i gyd felly byddwn ni'n gofyn i oedolyn arall/aelod o'r teulu sy'n dy adnabod di.
Byddwn ni hefyd yn gofyn i bobl sy'n dy adnabod di, fel dy athrawon di dy ddoctor a dy nyrs di, Heddwas neu unrhyw un arall sy'n dy helpu di.
5. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda dy wybodaeth bersonol?
Rydyn ni'n cadw dy wybodaeth di er mwyn cofio sut aethon ni ati i dy helpu di. Mae hefyd yn ein helpu ni i benderfynu sut i barhau i dy helpu di.
6. Sut y byddwn ni'n gwneud hyn?
Byddwn ni'n gweithio allan pa gymorth rwyt ti ei angen ac yn llunio cynllun gofal a chymorth (os oes angen un).
Byddwn ni'n sicrhau dy fod ti'n ddiogel ac wedi diogelu rhag unrhyw niwed neu gam-drin. Byddwn ni'n edrych yn fanwl i mewn i bethau os byddwn ni'n amau dy fod ti'n wynebu risg (o bosibl bydd hynny'n golygu siarad â'r heddlu).
Byddwn ni'n ateb unrhyw gwestiynau ac yn delio ag unrhyw gwynion sydd gen ti.
Mae rhaid i ni ysgrifennu adroddiadau ar gyfer sefydliadau i fonitro'r Cyngor, i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud yr hyn sy'n i'w ddisgwyl ohonon ni.
7. I wneud hyn oll, efallai y bydd rhaid i ni rannu dy wybodaeth di.
Efallai y bydd raid i ni rhannu dy wybodaeth di ag adrannau eraill y Cyngor neu gyda gweithwyr proffesiynol a fydd yn gallu rhoi cymorth i ti a dy deulu pe bai angen.
Dyma rai enghreifftiau o'r mathau o bobl y bydd rhaid i ni rhannu dy wybodaeth di â nhw o bosibl:
- Adrannau eraill yn y Cyngor megis carfanau Cymorth Tai, carfanau Diogelu, carfanau Gofal Plant Preswyl, y Gwasanaeth Ieuenctid (YEPs), y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid
- Carfan Gyfreithiol y Cyngor os oes rhaid i ni gael cyngor ynghylch ymholiad am ddiogelu plentyn, neu os ydyn ni'n paratoi achos am y Llys.
- Dy ysgol, coleg, prifysgol di a Gyrfa Cymru.
- Dy Ddoctor, Nyrs di, yr ysbyty, gwasanaethau cwnsela - unrhyw un sydd o bosibl yn dy helpu di os oes gen ti unrhyw anghenion meddygol/iechyd.
- Yr Heddlu neu unrhyw wasanaeth brys os ydyn ni'n meddwl dy fod ti mewn perygl.
Rhestr fer yn unig yw hon gan fod llawer iawn o bobl yn ein helpu ni i dy helpu di, dydy hi ddim yn bosibl eu rhestru nhw i gyd.
Serch hynny, dim ond os oes rheswm da i wneud hynny y byddwn ni'n rhannu dy wybodaeth di, a chaiff hynny ei wneud mewn modd diogel.
8. Y rheswm cyfreithiol y mae angen eich gwybodaeth bersonol arnon ni:
Mae rhaid i ni lynu wrth gyfreithiau'r Cyngor sy'n caniatáu i ni weld a rhannu dy wybodaeth di.
Enw'r prif un yw;
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Mae'r rheolau yma'n llym iawn ac rydyn ni'n gwneud yn siŵr bod pawb yn eu dilyn nhw'n iawn.
9. Am faint byddwn ni'n cadw'r wybodaeth?
Bydd hynny'n dibynnu ar y cymorth sydd ei angen arnat ti oddi wrthon ni. Er enghraifft:
- Os wyt ti a dy deulu wedi cael ychydig o gymorth yn unig wrthon ni, efallai mai am 10 mlynedd yn unig y byddwn ni'n cadw dy wybodaeth di.
- Os wyt ti wedi gofyn am fwy o gymorth, byddwn ni'n cadw'ch gwybodaeth am 75 mlynedd.
- Os wyt ti wedi cael eich mabwysiadu, mae rhaid i ni gadw dy wybodaeth di am 100 mlynedd (amser hir!)
10. Beth alli di ei wneud gyda dy wybodaeth?
Mae'r rheolau yn rhoi'r hawl i ti i gael perchnogaeth dros dy wybodaeth. Enw'r rheolau yma yw 'Dy hawliau gwybodaeth'
Mae'n meddwl bod modd i ti ofyn i weld yr wybodaeth sydd gyda ni ar ein systemau amdanat ti.
Mae modd i ti ofyn i ni gywiro gwybodaeth, os ydyn ni wedi gwneud camgymeriad.
Neu mae modd i ti ofyn i ni ddileu dy wybodaeth di.
Serch hynny, efallai na fydd modd i ni roi'r holl wybodaeth rwyt ti wedi gofyn amdani i ti, na'i newid chwaith. Mae hyn oherwydd dyw'r deddfau ddim, o bosibl, ddim yn caniatáu i ni wneud hynny, ond byddwn ni'n esbonio hynny wrthot ti.
Am ragor o wybodaeth am 'dy hawliau' di, clicia yma
11. Gyda phwy galli di gysylltu i ofyn cwestiynau?
Pe hoffet ti wybod rhagor am y ffordd mae'r Gwasanaethau i Blant yn defnyddio dy wybodaeth di, mae croeso i chi ebostio, ffonio neu anfon llythyr aton ni:
E-bost: gwrando.cwynion@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Ffôn: 01443 425003
Anfonwch lythyr:
Carfan Gwella Gwasanaeth a Chwynion
Tŷ Elái,
Dwyrain Dinas Isaf,
Trewiliam
Tonypandy.
CF40 1NY