Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Prosiect Cronfa Gymdeithasol Ewrop
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Prosiect Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor a polisi preifatrwydd Llywodraeth Cymru yma https://gov.wales/privacy_policy/?skip=1&lang=cy
1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud.
Mae'r Cyngor yn derbyn Cyllid gan Gronfa Cymdeithasol Ewrop i gyflawni'r prosiectau canlynol:
- Cymunedau am Waith
- Ysbrydoli i Weithio
- Cynllun Ignite
- Cynllun Platform 1
- Cadw’n Iach yn y Gwaith
Mae'r prosiectau yma yn darparu cymorth a hyfforddiant mentora, a hyfforddiant a chymwysterau i bobl sy'n 16 oed neu'n hŷn ac yn ddi-waith neu ddim mewn addysg na hyfforddiant sy'n chwilio am waith, hyfforddiant neu addysg bellach.
Mae prosiect Cadw’n Iach yn y Gwaith wedi’i greu i helpu unigolion ag anableddau neu gyflyrau sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio i ddychwelyd i’r gweithle yn dilyn absenoldeb o ganlyniad i salwch.
Er mwyn i ni gyflwyno'r prosiectau yma (yn ôl telerau cyllid y grant) ac i roi'r cymorth gorau posibl i chi, mae angen i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am y bobl sy'n defnyddio ein rhaglen.
2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am y bobl sy wedi cymryd rhan yn ein Prosiectau Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn y gorffennol a'r presennol.
Fel arfer bydd y mathau o wybodaeth sy'n cael eu casglu a'u defnyddio yn cynnwys:
- Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.
- Manylion adnabod, gan gynnwys dyddiad geni a rhif yswiriant gwladol.
- Gwybodaeth sy'n cadarnhau eich hawl i fyw a gweithio yn y DU fel pasbort, tystysgrif geni a Rhif Yswiriant Gwladol a manylion budd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau.
- Gwybodaeth am deulu, dibynyddion neu amgylchiadau personol y person, er enghraifft, statws priodasol, cyfrifoldebau gofalu.
- Gwybodaeth am iechyd y person, er enghraifft, cyflwr meddygol sy'n creu rhwystr wrth ddod o hyd i gyflogaeth.
- Addysg a Chymwysterau.
- Rydyn ni hefyd yn casglu a chadw gwybodaeth sy'n cael ei llunio tra bydd pobl yn cymryd rhan ym Mhrosiectau Cronfa Gymdeithasol Ewrop fel: hyfforddiant, cymorth sy wedi'i ddarparu; manylion sgyrsiau, ac unrhyw achlysuron rydych chi'n rhoi gwybod i ni amdanyn nhw.
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Rydyn ni'n cael yr wybodaeth bersonol yma yn uniongyrchol gan y person sy'n cymryd rhan yn y prosiect. Caiff ei chasglu trwy ffurflen gofrestru Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Efallai byddwn ni hefyd yn derbyn gwybodaeth (er enghraifft, manylion cyswllt) gan y sefydliad sy'n atgyfeirio person at Brosiect Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Rydyn ni hefyd yn llunio ein gwybodaeth ein hunain amdanoch chi tra'ch bod chi'n cymryd rhan mewn prosiect. Er enghraifft, manylion sgyrsiau, hyfforddiant, achlysuron rydych chi'n dweud wrthyn ni amdanyn nhw sy'n bwysig i chi a'r gefnogaeth rydyn ni'n ei darparu yn ogystal ag unrhyw gymwysterau rydych chi'n eu cyflawni.
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth yma er mwyn:
- Prosesu'r atgyfeiriad i'r prosiect sy wedi'i ddewis
- Darparu cyngor, cefnogaeth ac arweiniad
- Dod o hyd i hyfforddiant addas
- Trefnu lleoliadau gwirfoddoli neu brofiad gwaith
- Paratoi a darparu adroddiadau i Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i ddangos bod y Prosiect yn cael ei redeg yn gywir ac yn ôl telerau'r cyllid
- Gwerthuso prosiectau Cronfa Cymdeithasol Ewrop yn RhCT yn unol â gofynion y grant.
5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.
Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol i ddarparu Prosiect Cronfa Gymdeithasol Ewrop yw:
- Cyflawni ei dyletswyddau swyddogol fel Cyngor a bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y ddeddfwriaeth:
RHEOLIAD (EU) Rhif 1304/2013 O SENEDD EWROP A'R CYNGOR, 17 Rhagfyr 2013, ynglŷn â Chronfa Gymdeithasol Ewrop a diddymu Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 1081/2006
http://eur-lex.europa.eu/legal-content/EN/TXT/?uri=CELEX:32013R1304
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad arall?
Fel sy wedi'i grybwyll uchod, rydyn ni'n gweithio gyda nifer o sefydliadau partner dibynadwy i gyflawni'r prosiectau, cytuno ar gyllid a dangos bod y Prosiect yn cael ei redeg yn gywir ac yn ôl telerau'r cyllid:
- Darparwr cronfa'r prosiect - Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, sy’n Rheolwyr y Data.
- Rydyn ni'n gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, gyda'r Adran Gwaith a Phensiwn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru sy'n gweithredu fel 'rheolwyr cronfa'r prosiect'.
- Gwasanaethau Mewnol y Cyngor fel ein Hadran Gyllid.
- Weithiau byddwn ni'n gofyn i ddarparwyr eraill gyflawni rhai rhannau o'r Prosiectau, ac rydyn ni'n rhannu gwybodaeth gyda'r sefydliadau yma. Er enghraifft, y YMCA, Hyfforddiant y Lluoedd Arfog, Addysg Oedolion Cymru, ARC Training, Rubicon.
- Sefydliadau gwerthuso allanol.
7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?
Byddwn ni dim ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag y bydd arnon ni ei hangen i weinyddu'r Gronfa ac i ddelio ag unrhyw gwestiynau neu gwynion rydyn ni'n eu derbyn am hyn. Byddwn ni'n gweithredu fel hyn oni bai fod y gyfraith yn ei gwneud hi'n ofynnol i ni ei chadw am ragor o amser.
Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod modd i ni gadw'ch gwybodaeth bersonol cyhyd ag y bydd gyda chi (neu unrhyw fuddiolwr sy'n derbyn buddion ar ôl i chi farw) hawl i gael buddion o'r Gronfa ac am gyfnod o 15 mlynedd ar ôl i'r buddion hynny ddod i ben.
Mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru wedi rhoi gwybod i ni ei bod yn disgwyl i ni gadw ein cofnodion am 10 mlynedd ar ôl i'r Prosiect ddod i ben. Er enghraifft, os mai Rhagfyr 2020 yw dyddiad diwedd y prosiect, rhaid i ni gadw eich cofnod tan fis Rhagfyr 2030.
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.
Edrychwch ar ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.
9. Cysylltu â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:
E-bost : Syd.b.dennis@rctcbc.gov.uk (Rheolwr Rhaglen Cronfa Gymdeithasol Ewrop)
Ffôn : 01443 425751
Trwy lythyr : Tŷ Elái, Dwyrain Dinas Isaf, Tonypandy, CF40 1NY