Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd RhCT.
Cyflwyniad
Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw rhoi gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (y cyfeirir ato fel ‘CBSRhCT’, ‘Cyngor’, ‘Awdurdod Lleol’, ‘ni’) yn defnyddio (neu’n ‘prosesu’) data personol am unigolion at ddibenion y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd. Ein gweledigaeth yw torri'r cylch tlodi a chael effaith gadarnhaol ar benderfynyddion iechyd ehangach yn RhCT trwy greu diwylliant ymchwil bywiog, wedi'i ategu gan system dystiolaeth sy'n hwyluso'r broses gwneud penderfyniadau gwybodus.
Mae modd i chi ymgysylltu â ni drwy sefydliad partner, neu mae'n bosibl y byddwch chi'n dymuno ymuno â ni a chithau'n ddinesydd RhCT.
Dyma'r sefydliadau rydyn ni'n gweithio mewn partneriaeth â nhw:
Interlink
Prifysgol Caerdydd
Bwrdd Iechyd
Iechyd Cyhoeddus
Dylech chi ddarllen yr isod ynghyd â'r hysbysiad yma:
Y Rheolydd Data
Y Cyngor yw'r rheolydd data ar gyfer y data personol sy'n cael eu prosesu at ddibenion Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd RhCT.
Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru yn rheolydd data â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Ei gyfeirnod yw Z4870100.
Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma
Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â Charfan y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd.
E-bost: CYBI@rctcbc.gov.uk
Drwy anfon llythyr: CBSRhCT, Tŷ Elái, Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, Tonypandy, CF40 1NY
Dyma pwy ydyn ni a'r hyn rydyn ni'n ei wneud
Bydd Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd RhCT yn dod â'r gymuned leol (trwy drigolion/dinasyddion sy'n ymchwilwyr) a'r sefydliadau canlynol ynghyd, i gynnal gwaith ymchwil i ddeall beth yw'r ffordd orau o fynd ati i wella iechyd a lles pobl leol. Bydd y canlyniadau'n llywio'r ffordd y caiff tystiolaeth ei datblygu, ei chyrchu a'i defnyddio ac yna'n cael eu defnyddio er mwyn gwneud penderfyniadau a chynllunio gwasanaethau:
- Prifysgol Caerdydd
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
- Interlink RhCT
- Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICW)
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Bydd y pum sefydliad sy’n cymryd rhan yn gweithio gyda’r Dinasyddion sy'n Ymchwilwyr ar chwe phecyn gwaith allweddol a fydd yn:
- Cynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i bobl sy’n byw yn RhCT weithio gydag eraill a chymryd rhan mewn gwaith ymchwil,
- Dod â phobl sydd â phrofiadau a sgiliau gwahanol at ei gilydd, gan gynnwys pobl o’r gymuned, i nodi lle mae angen rhagor o dystiolaeth, a sicrhau ei bod yn ddefnyddiol ac yn ystyrlon, i lywio’r broses o wneud penderfyniadau,
- Cefnogi pobl sy'n byw ac yn gweithio yn RhCT i ddatblygu sgiliau ymchwil er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb yn deall sut i ddefnyddio tystiolaeth ac ymchwil i wella iechyd a lles pobl,
- Helpu pobl o'n cymunedau, y Cyngor Lleol, Bwrdd Iechyd y GIG a Phrifysgolion Cymru i adeiladu rhwydweithiau sy’n cydweithio i ddatblygu syniadau ymchwil a gwneud cais am gyllid,
- Gwella’r ffordd y mae cymunedau a sefydliadau’n cydweithio i gael mynediad at dystiolaeth a’i defnyddio i lywio penderfyniadau Cynghorau Lleol a chynllunio gwasanaethau yn RhCT.
Data personol pwy rydyn ni'n eu prosesu?
Rydyn ni'n prosesu data personol sy’n ymwneud â’r unigolion canlynol er mwyn: cydweithio ac ymgynghori drwy weithio'n frwd gyda thrigolion Rhondda Cynon Taf i wrando ar farn y bobl, eu cynnwys yn briodol wrth fynd ati i ddeall a llunio ymchwil, a hynny er mwyn galluogi'r Cyngor i wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
- Ar gyfer y rheiny sy'n gweithio, yn byw neu'n chwarae yn RhCT, gan gynnwys:
- Trigolion RhCT
- Dinasyddion sy'n Ymchwilwyr
- Grŵp o gynrychiolwyr y gymuned
Y categorïau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu
Mae’n bosibl y byddwn ni'n prosesu’r categorïau canlynol o ddata personol er mwyn cydweithio ac ymgynghori drwy weithio'n frwd gyda thrigolion Rhondda Cynon Taf i wrando ar farn y bobl, eu cynnwys yn briodol wrth fynd ati i ddeall a llunio ymchwil, a hynny er mwyn galluogi'r Cyngor i wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
- Enw
- Cyfeiriad
- Manylion cyswllt megis rhif ffôn/cyfeiriad e-bost
- Gwybodaeth ariannol: os cewch chi eich dewis ac rydych chi'n ymuno â ni yn rhan o gytundeb achlysurol, bydd modd i ni eich ad-dalu chi ar gyfer eich amser i chi.
- Ceisiadau hygyrchedd, megis mynediad i gadeiriau olwyn
- Er nad yw Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd RhCT yn bwriadu casglu data categori arbennig (iechyd) neu ddata am faterion troseddol, os byddwch chi'n datgelu'r wybodaeth yma i ni yn rhan o ymgynghoriad, grŵp ffocws, neu wybodaeth am deulu a ffrindiau, byddwn ni'n cadw'ch gwybodaeth yn ddiogel.
- Os byddwch chi, a chithau'n Ddinesydd sy'n Ymchwilydd, yn cytuno i ymrwymo i gytundeb achlysurol gyda ni, mae'n bosibl y bydd gofyn i ni gwblhau gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd at ddibenion cyflogaeth.
Pam rydyn ni'n prosesu data personol?
Rydyn ni'n prosesu’r data personol i gydweithio ac ymgynghori. Mae modd i hyn gynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i'r gweithgareddau canlynol, pe baech chi'n dymuno cymryd rhan a rhannu eich gwybodaeth gyda ni;
- Ymgysylltu â'r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd er enghraifft er mwyn cymryd rhan mewn arolygon, polau piniwn, cofrestru ar gyfer cylchlythyr, ymgysylltu â'r wefan (naill ai cofrestru neu gyflwyno ymholiad), os ydych chi'n gofyn ein bod ni'n parhau i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf gyda chi pan fyddwch chi'n cysylltu â ni.
- Grwpiau Ffocws
- Cofrestru i gymryd rhan mewn prosiect penodol, fel tlodi, lle bydd modd i chi ddarparu gwybodaeth fanylach.
- Os cewch chi eich dewis, er mwyn ymuno â ni yn rhan o gytundeb cyflogaeth achlysurol er mwyn ein galluogi ni i ad-dalu dinasyddion sy'n ymchwilwyr am roi o'u hamser.
- Bydd Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd RhCT yn darparu cyfleoedd hyfforddi i ddinasyddion sy'n ymchwilwyr, grwpiau cymunedol a staff y Cyngor ar bynciau ymchwil a thystiolaeth. Mae'n bosibl y bydd y rhain yn cael eu darparu gan ein partneriaid megis Prifysgol Caerdydd a/neu bartneriaid allanol.
Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol
O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol i weinyddu Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd RhCT yw:
Trigolion RhCT
- Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i rhoi i'r rheolwr.
- Budd sylweddol i'r cyhoedd – Erthygl 9 (2) (g) – prosesu sy'n angenrheidiol er budd sylweddol y cyhoedd, ar sail cyfraith Undebol neu aelod-wladwriaeth sy'n gyfraneddol i'r nod, yn parchu hanfod hawliau diogelu data ac yn darparu mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau sylfaenol a buddion y person y mae'r data amdano.
Dinesydd sy'n Ymchwilydd
- Rhwymedigaeth Gyfreithiol (c) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer rwymedigaeth gyfreithiol sydd wedi'i rhoi i'r rheolwr.
- Cytundeb (b) – mae angen prosesu'r wybodaeth er mwyn llunio cytundeb gyda’r unigolyn
Gan bwy rydyn ni'n cael data personol, neu o ble?
Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan unigolion neu sefydliadau yn y categorïau canlynol;
- Chi eich hun, a chithau'n Drigolyn/Dinesydd sy'n Ymchwilydd wrth gymryd rhan yn y gwaith, ymunwch â ni yn rhan o gytundeb achlysurol fel bod modd i ni eich ad-dalu chi am roi o'ch amser.
- Gan gynrychiolydd o Grŵp Cymunedol neu un o'n partneriaid
- Drwy gydweithio â Sefydliadau Partner, os byddwch chi'n datgelu unrhyw beth i'n Partneriaid a'u bod yn teimlo bod angen i ni wybod, byddan nhw'n rhannu'r wybodaeth yma gyda ni
Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?
Nodwch: bydd y rhan fwyaf o’r data sy'n cael ei rannu gyda’r sefydliadau canlynol yn ddata dienw ond mae'n bosibl y bydd rhai achosion lle bydd data personol yn cael ei rannu a byddwn ni ond yn rhannu’r isafswm sydd ei angen.
Pwy
|
Diben
|
Prifysgol Caerdydd
|
Sefydliad partner yn rhan o'r prosiect yma yn ogystal â darparu hyfforddiant ac ymchwil
|
Interlink
|
Sefydliad partner yn rhan o'r prosiect yma
|
Bwrdd Iechyd
|
Sefydliad partner yn rhan o'r prosiect yma
|
Iechyd y Cyhoedd
|
Sefydliad partner yn rhan o'r prosiect yma
|
Dinasyddion sy'n Ymchwilwyr
|
Os ydyn nhw'n cael eu dewis, bydd modd i Ddinasyddion sy'n Ymchwilwyr ymuno â ni mewn nifer o ffyrdd, er enghraifft trwy roi adborth i ni, cymryd rhan mewn tasgau ymchwil y prosiect neu ddod yn rhan o Fyrddau Llywodraethu'r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd.
|
Cydweithrediadau Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd eraill. Mae modd i hyn gynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i, Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Gogledd Swydd Efrog
|
Mae 30 Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd yn y DU ac mae'n bosibl y byddwn ni'n cydweithio i ddarparu rhagor o wybodaeth neu brosiectau ar y cyd, megis hyfforddiant.
|
Byrddau Llywodraethu, er enghraifft y Bwrdd Goruchwylio Strategol, Grŵp Cyflawni Gweithredol
|
Bwrdd Goruchwylio Strategol: Pwrpas y Bwrdd Goruchwylio Strategol yw goruchwylio’r broses o gyflawni gwaith Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf yn ystod cyfnod ariannu’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR).
Grŵp Cyflawni Gweithredol: Pwrpas y Grŵp Cyflawni Gweithredol yw cynnwys staff Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd RhCT, Arweinwyr Pecynnau Gwaith, cynrychiolwyr o’r system penderfynyddion iechyd lleol, sefydliadau partner fel y Cyngor Gwirfoddol Cymunedol (CVC), cynrychiolwyr Interlink a Dinasyddion sy'n Ymchwilwyr a fydd yn cydweithio er mwyn monitro cynnydd y pecynnau gwaith, gan sicrhau bod nodau ac amcanion y Cynllun Busnes yn cael eu cyflawni.
|
Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd
|
Cydymffurfio â gofynion archwilio ac ariannu
|
Efallai y bydd angen i ni gyfeirio eich achos chi at adrannau eraill yn y Cyngor, er enghraifft Gwasanaethau Cymdeithasol os oes gennym ni unrhyw bryderon diogelu am eich lles chi neu eraill yn eich cartref. Mae gan swyddogion ddyletswydd gyfreithiol i wneud hyn ac os hoffech chi wybod mwy am pam a sut y byddwn ni'n gwneud hyn, darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant.
Proseswyr data:
Mae prosesyddion data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan. Dim ond yn unol â’n cyfarwyddyd ni mae ein prosesyddion data yn gweithredu. Does dim hawl ganddyn nhw i wneud unrhyw beth â’r data personol ac eithrio ein bod ni'n eu cyfarwyddo i wneud hynny. Fyddan nhw ddim yn rhannu'r data personol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn eu defnyddio at eu dibenion eu hunain. Byddan nhw'n cadw'r data yn ddiogel ac yn dal gafael arnyn nhw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.
Dyma'r categorïau o broseswyr data rydyn ni'n eu defnyddio;
- Systemau TG
Am ba mor hir y byddwn ni'n dal gafael ar y data personol?
Rydyn ni'n cadw'r data personol sydd wedi'u cynnwys yn rhan o gofnodion y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd am:
Faint o amser
|
Rheswm
|
10 mlynedd
|
Gofyniad statudol fel sydd wedi'i nodi yn rhan o gytundeb y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd sy'n nodi y bydd data'n cael ei gadw am gyfnod 5 mlynedd y prosiect ac am 5 mlynedd ar ôl cwblhau'r prosiect.
|
7 mlynedd
|
Bydd data cytundebau cyflogaeth achlysurol yn cydymffurfio â gofynion AD, sy'n golygu y bydd y data'n cael ei gadw am gyfnod o 7 mlynedd
|
Yn unol ag egwyddor storio data Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Dydyn ni ddim yn dal gafael ar y data yn eu cyfanrwydd. Dim ond data personol sy'n berthnasol i'r cofnod sy'n cael eu cadw am y cyfnod cadw cyfan. Mae gwybodaeth nad oes iddi werth hirdymor neu dystiolaethol yn cael ei dinistrio yn ôl y drefn arferol.
Eich hawliau'n ymwneud â diogelu data
Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w harfer nhw.
Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data
Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn nad ydyn ni wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da.
Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â'r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd yn uniongyrchol gan ddefnyddio un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu ebost:
E-bost: CYBI@rctcbc.gov.uk
Drwy anfon llythyr: CBSRhCT, Tŷ Elái, Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, Tonypandy, CF40 1NY
Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostio Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.
Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data
Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.
Mae modd cysylltu â'r ICO fel a ganlyn:
- Cyfeiriad: Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
- Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
- Gwefan: https://www.ico.org.uk