Skip to main content

Harm Reduction Co-ordination within Cwm Taf Morgannwg Region

Hysbysiad preifatrwydd yn ymwneud â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddiben cydlynu gwaith lleihau niwed yn rhanbarth Cwm Taf Morgannwg 

Cyflwyniad

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu 'brosesu') data personol am unigolion at ddibenion cydlynu gwaith lleihau niwed yn rhanbarth Cwm Taf Morgannwg. 

Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:

  • Hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor

Y Rheolwr Data

Y Cyngor yw'r rheolwr data ar gyfer y data personol a gaiff eu prosesu at ddibenion cydlynu gwaith lleihau niwed yn rhanbarth Cwm Taf Morgannwg.

Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolwr. Ei gyfeirnod yw Z4870100.

Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â Charfan Camddefnyddio Sylweddau Bwrdd Cynllunio'r Ardal:

E-bost: contact@substancemisuserct.co.uk

Ffonio: 01443 425612

Neu trwy ysgrifennu at: Bwrdd Cynllunio Ardal Cwm Taf Morgannwg - Swyddog Arweiniol (Camddefnydd Sylweddau), CBSRhCT, Tŷ Elái, Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, Tonypandy, CF40 1NY

Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i nifer o sefydliadau partner gydweithio'n agosach i wella gwasanaethau camddefnyddio sylweddau i bobl ledled Cymru.

Mae'r sefydliadau canlynol yn gweithio gyda'i gilydd yn ardal Cwm Taf Morgannwg i ddarparu gwasanaeth i'r rheiny sy'n byw yn yr ardal ac sy'n dioddef o broblemau yn ymwneud â chyffuriau neu alcohol:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (CBSRhCT)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Heddlu De Cymru

Barod

Dyfodol

Mae'r gwasanaeth hefyd yn gweithio'n agos ag ystod o sefydliadau a phartneriaid mae modd ymddiried ynddyn nhw - mae esiamplau o'r sefydliadau a'r partneriaid yma wedi'u nodi yn rhan 6.

Un o ddibenion y gwasanaeth yw lleihau nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau a chodi ymwybyddiaeth am Naloxone. Rydyn ni'n gwneud hyn trwy adolygu achosion o wenwyn cyffuriau (gorddos) nad oedd yn angheuol, cynnig cyngor ac arweiniad ar leihau'r risg o orddos a chynnig hyfforddiant yn ymwneud â Naloxone. Mae hefyd modd inni eich cyfeirio chi at wasanaethau perthnasol pe dymunech chi hynny.

Mae'r defnydd o'r rhagenw 'ni' yn yr hysbysiad preifatrwydd yma'n cyfeirio at y gwasanaethau sy'n cael eu cynnig yng Nghwm Taf Morgannwg.

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Rydyn ni'n derbyn ac yn cadw gwybodaeth sy'n ymwneud ag oedolion a phobl ifainc sydd wrth risg o farwolaeth sy'n ymwneud â chyffuriau a'r rheiny sydd wedi profi achos o wenwyn cyffuriau nad oedd yn angheuol - gall hyn gynnwys achosion damweiniol o wenwyn cyffuriau. 

Mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu data personol yn ymwneud â'r unigolion canlynol sydd wrth risg o ddioddef marwolaeth sy'n gysylltiedig â chyffuriau a'r rheini sydd wedi profi achos o wenwyn cyffuriau nad oedd yn angheuol, sy'n gallu cynnwys achosion damweiniol;

  • Oedolion
  • Pobl ifainc

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu'r categorïau canlynol o ddata personol er mwyn galluogi'r garfan i gynnal ei swyddogaeth o leihau niwed;

  • Enw, cyfeiriad, dyddiad geni, manylion cyswllt
  • Tarddiad ethnig
  • Dyddiad, lleoliad ac amgylchiadau'r achos (pan fo'n hysbys)
  • Sylweddau a ddefnyddiwyd a'r driniaeth a dderbyniwyd (pan fo'n hysbys)
  • Gwybodaeth am ryddhad (pan fo'n berthnasol)
  • Gwybodaeth am unrhyw gefnogaeth rydych chi'n ei derbyn gan asiantaethau eraill ac a ydych chi wedi derbyn hyfforddiant Naloxone neu beidio
  • Unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol er mwyn lleihau'r niwed i chi

Pam rydyn ni'n prosesu data personol

Rydyn ni'n prosesu data personol fel bod modd i'r garfan gynnal ei swyddogaeth o leihau niwed.

Mae'n bosibl y bydd hyn yn cynnwys ond heb ei gyfyngu i'r gweithgareddau canlynol:

  • Caiff unrhyw wybodaeth am achosion/gorddosau nad oedd yn angheuol ei defnyddio er mwyn cysylltu â chi i ddarparu cyngor ac arweiniad er mwyn atal unrhyw achosion eraill o orddos neu farwolaeth.
  • Pan rydyn ni'n cael gwybod am achos o wenwyn cyffuriau nad oedd yn angheuol, byddwn ni'n rhannu eich enw, dyddiad geni (ac eich cyfeiriad mewn rhai achosion) gyda'n partneriaid mae modd ymddiried ynddyn nhw er mwyn gweld a ydych chi eisoes yn gweithio gydag un ohonyn nhw. Os ydych chi eisoes yn hysbys i un o'r sefydliadau, bydd y sefydliad hwnnw'n arwain ac yn cysylltu â chi i gynnig cymorth a chefnogaeth.
  • Os nad ydych chi'n hysbys i unrhyw sefydliad, bydd aelod o'n carfan ni'n cysylltu â chi trwy ymweld â'ch cartref neu siarad â chi ar y ffôn er mwyn cynnig cymorth a chefnogaeth a hyrwyddo'r Cynllun Achub Naloxone yn y Cartref.
  • Ym mhob achos eich penderfyniad chi yw manteisio ar y gefnogaeth a'r cymorth neu beidio.

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol

O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol i leihau niwed yw;

  • Rhwymedigaeth Gyfreithiol (c) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer rwymedigaeth gyfreithiol sydd wedi'i roi i'r rheolwr. 
  • Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.
  • Budd sylweddol i'r cyhoedd - Erthygl 9 (2) (g) - prosesu sy'n angenrheidiol er budd sylweddol y cyhoedd, ar sail cyfraith Undebol neu aelod-wladwriaeth sy'n gyfraneddol i'r nod, yn parchu hanfod hawliau diogelu data ac yn darparu mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau sylfaenol a buddion y person y mae'r data amdano.

Mae'r ddeddfwriaeth sylfaenol, rheoliadau a chanllawiau sy'n ategu hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i; 

  • Deddf Trosedd ac Anrhefn 1998 - Adrannau 6 ac 115
  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
    • Adran 15 Gwasanaethau Atal
    • Adran 17 Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth
    • Adran 19 Dyletswydd i asesu anghenion oedolyn am ofal a chefnogaeth
    • Adran 35 Dyletswydd i fodloni anghenion gofal a chefnogaeth oedolyn
    • Deddf Llywodraeth Leol 2000 - Adran 2

Gan bwy neu o ble rydyn ni'n casglu data personol?

Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan unigolion neu sefydliadau yn y categorïau canlynol:

  • Yn uniongyrchol gennnych chi, e.e. petaech chi'n siarad yn uniongyrchol ag aelod o'r garfan am achos
  • Gan eich teulu, ffrindiau neu aelodau'r cyhoedd, e.e. petaen nhw'n dweud wrth aelod o'r garfan am achos
  • Gan nifer o sefydliadau/gwasanaethau partner mae modd ymddiried ynddyn nhw, gan gynnwys:
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gan gynnwys adrannau damweiniau ac achosion brys e.e. petaech chi'n cael eich anfon i'r ysbyty oherwydd gorddos
  • Heddlu De Cymru, e.e. petai'r Heddlu'n rhan o'r achos o orddos
  • Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, e.e. petaech chi ar gyfnod prawf neu wedi cael dedfryd o garchar
  • Gwasanaethau Gofal a Chyfiawnder/Carchar Parc Ei Mawrhydi G4S, e.e. petaech chi wedi gwneud dedfryd o garchar yng Ngharchar Ei Mawrhydi- Parc
  • Partneriaid ym maes gwirfoddoli - petaech chi'n derbyn cymorth/gwasanaeth, e.e. Barod, Dyfodol, Kaleidoscope, Pobl, The Wallich
  • Adrannau eraill yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, e.e. Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwasanaethau Tai, Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?

Mae'n bosibl y byddwn ni'n rhannu data personol â'r sefydliadau allweddol canlynol er mwyn cydweithio'n effeithiol er eich lles a'ch gofal chi ac i leihau niwed.

Dim ond y lleiafswm o wybodaeth bersonol sydd ei hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael ei rannu.

Pwy

ddiben

Adrannau'r Cyngor megis Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwasanaethau Tai, Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc

Er mwyn lleihau niwed; yn benodol mewn perthynas ag achosion o wenwyn cyffuriau angheuol ac achosion nad oedden nhw'n angheuol

Awdurdodau Lleol eraill

Er mwyn lleihau niwed; yn benodol mewn perthynas ag achosion o wenwyn cyffuriau angheuol ac achosion nad oedden nhw'n angheuol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Er mwyn lleihau niwed; yn benodol mewn perthynas ag achosion o wenwyn cyffuriau angheuol ac achosion nad oedden nhw'n angheuol

Heddlu De Cymru

Er mwyn lleihau niwed; yn benodol mewn perthynas ag achosion o wenwyn cyffuriau angheuol ac achosion nad oedden nhw'n angheuol

Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi

Er mwyn lleihau niwed; yn benodol mewn perthynas ag achosion o wenwyn cyffuriau angheuol ac achosion nad oedden nhw'n angheuol

Gwasanaethau Gofal a Chyfiawnder/Carchar Parc Ei Fawrhydi G4S

Er mwyn lleihau niwed; yn benodol mewn perthynas ag achosion o wenwyn cyffuriau angheuol ac achosion nad oedden nhw'n angheuol

Partneriaid y sector gwirfoddoli, e.e. Barod, Dyfodol, Kaleidoscope, Pobl, The Wallich

Er mwyn lleihau niwed; yn benodol mewn perthynas ag achosion o wenwyn cyffuriau angheuol ac achosion nad oedden nhw'n angheuol

Rydyn ni hefyd yn rhannu gwybodaeth does dim modd ei hadnabod (anhysbys) sy'n ymwneud â'r gwasanaeth at ddibenion ystadegol ac ymchwil gyda Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Proseswyr Data

Mae proseswr data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan.  Mae ein proseswyr data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig. Does dim modd iddyn nhw wneud unrhyw beth gyda'r data personol oni bai ein bod ni wedi eu cyfarwyddo nhw i wneud hynny.  Fyddan nhw ddim yn rhannu'r wybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn ei defnyddio at eu dibenion eu hunain.  Byddan nhw'n dal y data yn ddiogel ac yn eu cadw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.

Dyma'r categorïau o broseswyr data rydyn ni'n eu defnyddio at ddibenion lleihau niwed;

-       Darparwyr Systemau TG, ayyb

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?

Rydyn ni'n cadw'r data personol sydd wedi'u cynnwys yn rhan o'n cofnodion am:

Faint o amser

Rheswm

Blwyddyn gyfredol + 6 mlynedd

 

Yn unol â pholisi cadw y Cyngor 

Er mwyn dilyn egwyddor storio data Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.  Dydy'r holl ddata personol ddim yn cael eu cadw. Dim ond data personol sy'n berthnasol sy'n cael eu cadw am y cyfnod cyfan.  Caiff unrhyw wybodaeth sy'n amherthnasol yn y tymor hir neu sy'n amherthnasol yn dystiolaethol ei dinistrio yn y cwrs busnes arferol. 

Eich hawliau yn ymwneud â diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data

Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn ein bod ni ddim wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da. 

Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â Charfan Camddefnyddio Sylweddau y Bwrdd Cynllunio Lleol yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.

  • E-bost: contact@substancemisuserct.co.uk
  • Ffonio: 01443 425612
  • Neu trwy ysgrifennu at: Bwrdd Cynllunio Ardal Cwm Taf Morgannwg - Swyddog Arweiniol (Camddefnydd Sylweddau), CBSRhCT, Tŷ Elái, Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, Tonypandy, CF40 1NY

Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostiwch Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.

Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data

Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

Mae modd cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:           

  • Cyfeiriad: Information Commissioner's Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
  • Gwefan: https://www.ico.org.uk