Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd am Gwasanaeth Synhwyraidd RhCT (Gwasanaethau i Oedolion)

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Gwasanaeth Synhwyraidd RhCT (Gwasanaethau i Oedolion)

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yna. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw'n bwriad ni o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion asesu a chomisiynu Gwasanaeth Synhwyraidd (Gwasanaethau i Oedolion).  Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1.     Pwy ydyn ni, beth rydyn ni'n ei wneud.

Mae'r Gwasanaeth Synhwyraidd (Gwasanaethau i Oedolion) wedi'i ddatblygu i gynnal asesiad a darparu offer, adsefydlu neu gomisiynu gwasanaethau ataliol neu gymunedol priodol.

Yn dilyn atgyfeiriad i'r Gwasanaeth Synhwyraidd o Wasanaeth Un Pwynt Mynediad y Cyngor neu gan weithwyr proffesiynol eraill, bydd y Gwasanaeth Synhwyraidd yn cysylltu â chi a naill ai'n:

  • Cwblhau'r broses gofrestru ar gyfer Pobl â Nam ar eu Golwg, Nam ar eu Clyw neu sy'n Fyddar, neu;
  • Trefnu ymweliad â chi i gynnal asesiad arbenigol a darparu gwybodaeth, cyngor neu gymorth, a / neu offer a / neu raglen gymorth adsefydlu.

Weithiau bydd gweithwyr proffesiynol eraill, er enghraifft, staff ysbytai, nyrsys ardal neu feddygon teulu, yn cysylltu â ni os oes gyda nhw bryderon bod angen cymorth ychwanegol ar yr unigolyn i'w helpu gyda bywyd bob dydd.

Mae pobl yn cysylltu â ni yn bennaf i gael cymorth ychwanegol os ydyn nhw'n ei chael hi'n anodd rheoli eu hanghenion gofal a chymorth oherwydd anabledd, salwch neu eiddilwch neu oherwydd eu bod yn heneiddio.

Weithiau mae unigolion byddar yn ei chael hi'n haws cysylltu â ni trwy neges destun a byddwn yn ymateb drwy neges destun.

Byddwn yn comisiynu dehonglwyr ble'n addas i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i sicrhau ein bod yn cyfathrebu'n dda â chi.

 2.     Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Mae'r wybodaeth amdanoch chi, eich teulu a'ch ffrindiau rydyn ni'n ei chasglu yn cynnwys:

  • Enw, cyfeiriad, dyddiad geni, rhif ffôn, a chyfeiriad e-bost.
  • Enw, cyfeiriad a manylion cyswllt aelodau o'r teulu a ffrindiau sy'n ymwneud â'ch gofal o ddydd i ddydd.
  • Enw, cyfeiriad, manylion cyswllt eich meddyg teulu.
  • Manylion am eich anghenion gofal a chymorth a sut y dylid diwallu'r rhain.
  • Manylion am yr help a'r cymorth sydd eu hangen i gynnal neu wella eich annibyniaeth, diogelwch a lles.
  • Manylion canlyniad unrhyw asesiadau risg ac asesiadau codi a chario sydd wedi'u cynnal.
  • Manylion am unrhyw anawsterau y gallech chi, eich cynhaliwr neu ein staff fod wedi'u cael wrth ddiwallu'ch anghenion.
  • Manylion am unrhyw ddamweiniau a digwyddiadau sydd wedi digwydd wrth i'n staff ddiwallu'ch anghenion.

Er mwyn sicrhau ein bod yn deall eich holl anghenion, mae'n bosibl bydd raid i ni ofyn i chi, eich teulu a gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol eraill am wybodaeth bersonol a sensitif iawn am eich

  • anabledd, cyflwr neu salwch.
  • anghenion golwg, clyw a chyfathrebu.
  • anghenion ymataliaeth.
  • iechyd meddwl a gwybyddiaeth.
  • anghenion symudedd, deheurwydd a'r angen am gymhorthion ac offer.
  • meddyginiaethau.
  • gofynion dietegol (os yw'n briodol).
  • diddordebau cymdeithasol, anghenion crefyddol a diwylliannol (os yw'n addas)
  • cartref, a sut mae'ch cartref yn addas ar gyfer eich anghenion
  • teulu a sut maen nhw'n eich cefnogi chi.

 3.     O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Rydyn ni'n derbyn ein prif ffynhonnell wybodaeth wrth:

  • Galwad gychwynnol wrthoch chi neu wrth aelod o'ch teulu, cynhaliwr neu ffrindiau ac unrhyw gyswllt dilynol

neu wrth

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gan gynnwys meddygon teulu
  • Gofal yn y Cartref neu ddarparwyr gwasanaethau eraill
  • Gwasanaethau eraill y Cyngor, gan gynnwys y Garfan Ymateb Cyntaf, Un Pwynt Mynediad RhCT, Tai ac ati.

Byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth o'n trafodaethau gyda chi ac eraill sy'n eich cefnogi. Rydyn ni'n cadw cofnod o'r asesiad, yr offer gaiff ei ddarparu a'r deilliannau rydyn ni wedi'ch helpu chi i'w cyflawni a chofnod o'r pethau rydych chi efallai wedi gofyn i ni amdanyn nhw, pethau fel:

  • ceisiadau am wybodaeth a chyngor.
  • ceisiadau am ofal ychwanegol a chymorth, gan gynnwys offer.
  • canmoliaeth a chwynion.

4.     Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth i ddarparu cerdyn cofrestru a / neu asesiad i chi ac i gomisiynu gwasanaethau priodol.

Weithiau, dyw'r gwasanaethau mae'r Cyngor yn eu darparu ddim y rhai mwyaf addas ar gyfer diwallu'ch deilliannau. Yn yr achosion hynny, mae'n bosibl bydd angen i ni rannu eich gwybodaeth gyda darparwyr neu wasanaethau eraill a all eich cefnogi chi'n well.

Er enghraifft, mae modd i hyn gynnwys:

  • Cynnal asesiad o'ch anghenion:
    • Prosesu eich atgyfeiriad.
    • Cynnal asesiad o'ch anghenion personol ar gyfer asesiad pellach neu i gomisiynu gwasanaethau.
    • Darparu offer i chi.
  • Cyd-weithio gyda gwasanaethau eraill y Cyngor a sefydliadau eraill i gasglu'r wybodaeth sydd ei hangen i gynnal asesiad cywir o'ch anghenion neu argymhellion ar gyfer addasu eich cartref.
  • Cofnodi sut rydyn ni wedi diwallu eich deilliannau ac unrhyw anawsterau y gallem fod wedi'u cael wrth gyflawni'r canlyniadau hynny.
  • Cadw cofnod o unrhyw ymwneud neu gysylltiad gyda chi, eich teulu a sefydliadau eraill sy'n rhan o'ch gofal.
  • Adolygu eich asesiad a gweld sut mae'r gwasanaeth wedi diwallu eich deilliannau/anghenion ac i sicrhau eich bod yn fodlon â'r gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu.
    • Nodi'ch anghenion a datblygu'ch deilliannau.
  • Trefnu gwasanaethau cynnal sy'n cael eu hamlygu yn eich asesiad:
    • Gweithio gyda gwasanaethau eraill y Cyngor a sefydliadau partner eraill i drefnu'r gofal a chymorth sydd eu hangen arnoch.
    • Comisiynu unrhyw wasanaethau gofal a chymorth sydd eu hangen gan drydydd parti.
    • Trefnu mynediad i gartref gofal (e.e. ar sail cam i fyny neu ar gyfnod o seibiant) (lle bo angen).
    • Monitro safon y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan ddarparwyr.

Nodwch fod hi'n bosibl i ni ddefnyddio'r wybodaeth yma i lunio gwybodaeth reoli ac adroddiadau i'n helpu i wella ein gwasanaethau a sicrhau ein bod yn eu rhedeg yn gywir. Fel arfer, bydd yr adroddiadau hyn yn cynnwys ffeithiau a ffigyrau yn hytrach na gwybodaeth sy'n gwneud hi'n bosibl eich adnabod. Rydyn ni'n defnyddio gwybodaeth bersonol i lunio'r ffigyrau hynny.

Mae'n bosibl y byddwn ni hefyd yn defnyddio'r wybodaeth yma i gynnal archwiliadau ffeiliau achos yn rhan o'n prosesau hyfforddi a goruchwylio.

5.     Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond pan fo rheswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

Mae ein sylfaen gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn cynnig gwasanaeth cymorth yn y cartref i chi ac i fodloni gofynion y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) fel a ganlyn:

Gwybodaeth Bersonol:

Erthygl 6 1. (c), (e) - i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a statudol o dan:

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
  • Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.
  • Deddf Safonau Gofal 2000.
  • Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Gwybodaeth Categori Arbennig (h.y. gwybodaeth  am hil, tarddiad ethnig, gwleidyddiaeth, crefydd, aelodaeth undeb llafur, geneteg, biometreg, iechyd, bywyd neu gyfeiriadedd rhyw):

Erthygl 9 2. (g) - i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a statudol o dan:

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
  • Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.
  • Deddf Safonau Gofal 2000.
  • Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. 

Erthygl 9 2.(h) - Cefnogi darparu meddygaeth ataliol neu alwedigaethol, diagnosis meddygol, darparu triniaeth iechyd neu ofal cymdeithasol neu reoli systemau a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Sylwch, er bod modd i ni ofyn am eich caniatâd (o dan gyfraith gyffredin Dyletswydd Cyfrinachedd a'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) i rannu eich gwybodaeth bersonol ag eraill sy'n ymwneud â'ch gofal, dyw caniatâd ddim yn sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'ch gwybodaeth o dan y gyfraith diogelu data. 

6.     Gyda phwy mae'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol?

Bydd yr wybodaeth rydych chi ac eraill yn ei rhannu â ni yn cael ei chofnodi yn eich asesiad a'ch cynllun. Bydd peth o'r wybodaeth yma yn cael ei rhannu gyda'r staff os bydd angen cynnal asesiad pellach neu ddarparu cefnogaeth i chi.

Mae rhannu'r wybodaeth yn eich asesiad yn golygu does dim angen i chi ddarparu'r un wybodaeth dro ar ôl tro i'r staff neu'r asiantaethau sy'n ymwneud â'ch gofal a'ch cefnogaeth. Dyw hyn ddim yn golygu y byddwn yn rhannu popeth rydych chi ac eraill wedi'i rannu gyda ni. Byddwn ond yn rhannu'r wybodaeth sydd ei hangen i ddarparu gofal a chymorth neu wasanaethau cymunedol diogel a phriodol i chi.

Byddwn ond yn rhannu eich gwybodaeth bersonol ag adrannau eraill yn y Cyngor neu sefydliadau allanol sy'n gweithio mewn partneriaeth â'r Cyngor a'i Wasanaethau Gofal Cymdeithasol i'r Gymuned ac i Blant. Mae modd i hyn gynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i:

  • Gweithiwr Cymdeithasol
  • Dehonglwyr
  • Darparwyr offer
  • Darparwr Gofal
  • Meddyg Teulu
  • Nyrs
  • unrhyw berson neu sefydliad a all helpu i ddiwallu eich anghenion gofal a chymorth

7.     Am faint o amser bydd fy ngwybodaeth yn cael ei chadw?

Mae cofnodion sy'n ymwneud ag Oedolion yn cael eu cadw at ddibenion gweinyddol am o leiaf 7 mlynedd ar ôl i'w cysylltiad ag unrhyw wasanaeth gofal cymdeithasol ddod i ben. 

Mae cofnodion am anghenion iechyd unigolyn yn cael eu cadw am o leiaf 10 mlynedd ar ôl i'w gysylltiad ag unrhyw wasanaeth gofal cymdeithasol ddod i ben.

8.     Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaeth yn ei chadw amdanoch chi.

Edrychwch ar ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.

9.     Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

Drwy e-bostio: gwasanaethaucymdeithasol@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Ffôn: 01443 425527

Trwy lythyr: Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Tŷ Elái, Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, Rhondda Cynon Taf.  CF40 1NY