Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd am Ddibenion Carfan Gofal a Chymorth Tymor Byr RhCT (Gwasanaethau i Oedolion)

Sut rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion Carfan Gofal a Chymorth Tymor Byr RhCT (Gwasanaethau i Oedolion)

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion asesu a chomisiynu Carfan Gofal a Chymorth Tymor Byr RhCT (Gwasanaethau i Oedolion). Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1.     Pwy ydyn ni, beth rydyn ni'n ei wneud.

Mae'r Garfan Gofal a Chymorth Tymor Byr wedi'i ddatblygu i gynnal asesiad a darparu offer neu gomisiynu gwasanaethau i ddiwallu'ch anghenion.

Yn dilyn atgyfeiriad i'r Garfan Gofal a Chymorth Tymor Byr o Un Pwynt Mynediad y Cyngor neu gan weithwyr proffesiynol eraill bydd Carfan Gofal a Chymorth Tymor Byr yn cysylltu â chi ac yn:

  • Trefnu ymweliad â chi;
  • Darparu gwybodaeth, cyngor neu gymorth, a / neu offer;
  • Cynnal asesiad o'ch anghenion chi neu anghenion eich cynhaliwr, a allai arwain at argymhellion ar gyfer gwasanaethau eraill - er enghraifft, gwasanaethau cymunedol, gofal yn y cartref neu wasanaethau cartrefi gofal.

Weithiau bydd gweithwyr proffesiynol eraill, gan gynnwys  staff ysbytai, nyrsys ardal, meddygon teulu neu'r Hwb Diogelu Amlasiantaethol (MASH) yn cysylltu â ni os oes ganddyn nhw bryderon bod angen cymorth ychwanegol ar yr unigolyn i'w helpu gyda bywyd bob dydd.

Yn bennaf, mae pobl yn cysylltu â ni am gymorth ychwanegol pan fyddan nhw'n ei chael yn anodd rheoli eu hanghenion gofal a chymorth oherwydd anabledd, salwch neu eiddilwch neu oherwydd eu bod yn heneiddio.

Mae cynhalwyr yn cysylltu â ni pan fydd angen gwybodaeth, cyngor neu gymorth arnynt gyda'u rôl ofalu.

 2.     Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Mae'r wybodaeth rydyn ni'n ei chasglu amdanoch chi, eich teulu a'ch ffrindiau yn cynnwys (ond nid yw'n gyfyngedig i):

  • enw, cyfeiriad, dyddiad geni, rhif ffôn, a chyfeiriad e-bost.
  • enw, cyfeiriad a manylion cyswllt aelodau o'r teulu a ffrindiau sy'n ymwneud â'ch gofal o ddydd i ddydd.
  • enw, cyfeiriad, manylion cyswllt eich meddyg teulu.
  • manylion am eich anghenion gofal a chymorth a sut y dylid diwallu'r rhain.
  • manylion am yr help a'r cymorth sydd eu hangen i gynnal neu wella eich annibyniaeth, diogelwch a lles.
  • manylion canlyniad unrhyw asesiadau risg ac asesiadau codi a chario sydd wedi'u cynnal.
  • manylion am unrhyw anawsterau y gallech chi, eich cynhaliwr neu ein staff fod wedi'u cael wrth ddiwallu'ch anghenion.
  • manylion am unrhyw ddamweiniau a digwyddiadau a fu wrth i'n staff geisio diwallu'ch anghenion. 

Er mwyn sicrhau ein bod yn deall eich holl anghenion, mae'n bosibl bydd raid i ni ofyn i chi, eich teulu a gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol eraill am wybodaeth bersonol a sensitif iawn am eich:

  • anabledd, cyflwr neu salwch.
  • anghenion golwg, clyw a chyfathrebu.
  • anghenion ymataliaeth.
  • iechyd meddwl a gwybyddiaeth.
  • symudedd, deheurwydd a'r angen am gymhorthion ac offer.
  • meddyginiaethau.
  • gofynion dietegol (os yw'n briodol).
  • diddordebau cymdeithasol, anghenion crefyddol a diwylliannol (os yw'n addas).
  • cartref, a sut mae'ch cartref yn addas ar gyfer eich anghenion.
  • teulu a sut maen nhw'n eich cefnogi chi.

 3.     O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Rydyn ni'n derbyn ein prif ffynhonnell wybodaeth wrth:

  • Eich galwad gwreiddiol chi, neu'r alwad gan aelod o'ch teulu, cynhaliwr neu ffrind, ac unrhyw gyswllt wedi hynny

neu wrth

  • Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gan gynnwys meddygon teulu
  • Gofal yn y Cartref, Cartrefi Gofal, Tai neu ddarparwyr gwasanaethau eraill
  • Gwasanaethau eraill y Cyngor, gan gynnwys y Garfan Ymateb Brys, Un Pwynt Mynediad RhCT. Hwb Diogelu Amlasiantaeth neu'r gwasanaeth Tai ac ati.

Byddwn ni hefyd yn casglu gwybodaeth o'n trafodaethau gyda chi a chyda eraill sy'n eich cefnogi chi. Rydyn ni'n cadw cofnod o'r asesiad, o'r offer sy'n cael ei ddarparu, a'r deilliannau rydyn ni wedi'ch helpu chi i gyflawni, a chofnodi'r pethau rydych chi wedi holi i ni, gan gynnwys:

  • ceisiadau am wybodaeth a chyngor.
  • ceisiadau am asesiadau pellach neu ofal a chymorth, gan gynnwys offer.
  • canmoliaeth a chwynion.

4.     Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth i gynnal asesiad ac i gomisiynu'r gwasanaethau sy'n addas i chi.

Weithiau, dyw'r gwasanaethau mae'r Cyngor yn eu darparu ddim y rhai mwyaf addas ar gyfer diwallu'ch deilliannau. Yn yr achosion hynny, mae'n bosibl bydd angen i ni rannu eich gwybodaeth gyda darparwyr neu wasanaethau eraill a all eich cefnogi chi'n well.

Er enghraifft, mae modd i hyn gynnwys:

  • Cynnal asesiad o'ch anghenion:
    • Prosesu eich atgyfeiriad.
    • Cynnal asesiad o'ch anghenion personol ar gyfer asesiad pellach neu er mwyn trefnu gwasanaethau.
    • Darparu offer i chi.
    • Cyd-weithio gyda gwasanaethau eraill y Cyngor a sefydliadau eraill i gasglu'r wybodaeth sydd ei hangen i gynnal asesiad cywir o'ch anghenion neu argymhellion ar gyfer addasu eich cartref.
    • Cofnodi sut rydyn ni wedi bodloni'ch deilliannau ac unrhyw anhawsterau y cawson ni wrth fodloni'r deilliannau hynny.
    • Cadw cofnod o unrhyw ymwneud neu gysylltiad gyda chi, eich teulu a sefydliadau eraill sy'n rhan o'ch gofal.
    • Adolygu eich asesiad a gweld sut mae'r gwasanaeth wedi diwallu eich deilliannau/anghenion ac i sicrhau eich bod yn fodlon â'r gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu.
    • Nodi eich anghenion a datblygu'ch deilliannau.
  • Trefnu gwasanaethau cynnal sy'n cael eu hamlygu yn eich asesiad:
    • Gweithio gyda gwasanaethau eraill y Cyngor a sefydliadau partner eraill i drefnu'r gofal a chymorth sydd eu hangen arnoch.
    • Comisiynu unrhyw wasanaethau gofal a chymorth sydd eu hangen gan drydydd parti.
    • Trefnu mynediad i gartref gofal (e.e. ar sail cam i fyny neu ar gyfnod o seibiant) (lle bo angen).
    • Monitro safon y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan ddarparwyr.

Nodwch fod hi'n bosibl i ni ddefnyddio'r wybodaeth yma i lunio gwybodaeth reoli ac adroddiadau i'n helpu i wella ein gwasanaethau a sicrhau ein bod yn eu rhedeg yn gywir. Fel arfer, bydd yr adroddiadau hyn yn cynnwys ffeithiau a ffigyrau yn hytrach na gwybodaeth sy'n gwneud hi'n bosibl eich adnabod. Rydyn ni'n defnyddio gwybodaeth bersonol i lunio'r ffigyrau hynny.

Mae'n bosibl y byddwn ni hefyd yn defnyddio'r wybodaeth yma i gynnal archwiliadau ffeiliau achos yn rhan o'n prosesau hyfforddi a goruchwylio.

5.     Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

Mae ein sylfaen gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn cynnig gwasanaeth cymorth yn y cartref i chi ac i fodloni gofynion y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) fel a ganlyn:

Gwybodaeth Bersonol:

Erthygl 6 1. (c), (e) - i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a statudol o dan:

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
  • Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.
  • Deddf Safonau Gofal 2000.
  • Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. 

Gwybodaeth Categori Arbennig (h.y. gwybodaeth  am hil, tarddiad ethnig, gwleidyddiaeth, crefydd, aelodaeth undeb llafur, geneteg, biometreg, iechyd, bywyd neu gyfeiriadedd rhyw):

Erthygl 9 2. (g) - i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a statudol o dan:

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
  • Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.
  • Deddf Safonau Gofal 2000.
  • Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Erthygl 9 2.(h) - Cefnogi darparu meddygaeth ataliol neu alwedigaethol, diagnosis meddygol, darparu triniaeth iechyd neu ofal cymdeithasol neu reoli systemau a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Sylwch, er bod modd i ni ofyn am eich caniatâd (o dan gyfraith gyffredin Dyletswydd Cyfrinachedd a'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) i rannu eich gwybodaeth bersonol ag eraill sy'n ymwneud â'ch gofal, dyw caniatâd ddim yn sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'ch gwybodaeth o dan y gyfraith diogelu data.  

6.     Gyda phwy mae'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol?

Bydd yr wybodaeth rydych chi ac eraill yn ei rhannu â ni yn cael ei chofnodi yn eich asesiad a'ch cynllun. Bydd peth o'r wybodaeth yma yn cael ei rhannu gyda'r staff os bydd angen cynnal asesiad pellach neu ddarparu cefnogaeth i chi.

Mae rhannu'r wybodaeth yn eich asesiad yn golygu does dim angen i chi ddarparu'r un wybodaeth dro ar ôl tro i'r staff neu'r asiantaethau sy'n ymwneud â'ch gofal a'ch cefnogaeth. Dyw hyn ddim yn golygu y byddwn yn rhannu popeth rydych chi ac eraill wedi'i rannu gyda ni. Byddwn ond yn rhannu'r wybodaeth sydd ei hangen i ddarparu gofal a chymorth neu wasanaethau cymunedol diogel a phriodol i chi.

Byddwn ond yn rhannu eich gwybodaeth bersonol ag adrannau eraill yn y Cyngor neu sefydliadau allanol sy'n gweithio mewn partneriaeth â'r Cyngor a'i Wasanaethau Gofal Cymdeithasol i'r Gymuned ac i Blant. Mae modd i hyn gynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i:

  • Gweithiwr Cymdeithasol
  • Hwb Diogelu Amlasiantaeth
  • Darparwyr offer
  • Darparwyr Tai
  • Darparwr Gofal
  • Meddyg Teulu
  • Nyrs
  • unrhyw berson neu sefydliad a all helpu i ddiwallu eich anghenion gofal a chymorth

 7.     Am faint o amser bydd fy ngwybodaeth yn cael ei chadw?

Mae cofnodion sy'n ymwneud ag Oedolion yn cael eu cadw at ddibenion gweinyddol am o leiaf 7 mlynedd ar ôl i'w cysylltiad ag unrhyw wasanaeth gofal cymdeithasol ddod i ben. 

Mae cofnodion am anghenion iechyd unigolyn yn cael eu cadw am o leiaf 10 mlynedd ar ôl i'w gysylltiad ag unrhyw wasanaeth gofal cymdeithasol ddod i ben.

 8.     Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaeth yn ei chadw amdanoch chi.

Edrychwch ar ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.

 9.     Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

Drwy e-bost: gwasanaethaucymdeithasol@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Ffôn: 01443 425527

Trwy lythyr: Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Tŷ Elái, Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, Rhondda Cynon Taf.  CF40 1NY