Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Chynllun Cartrefi i Wcráin y DU

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol ar gyfer Cynllun Cartrefi i Wcráin 

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Wrth wneud y gwaith yma, rhaid i ni gasglu gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw, defnyddio'r wybodaeth yma, a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i'r angen i gasglu gwybodaeth bersonol am unigolion, a'i defnyddio, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth rydyn ni am ei wneud gyda'r wybodaeth yma, a gyda phwy y mae hawl gyda ni i'w rhannu. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol mewn perthynas â Chynllun Cartrefi i Wcráin y DU. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1. Pwy ydyn ni? Beth ydyn ni'n ei wneud?

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn sefyll mewn undod â phobl Wcráin.

Mae nifer o bobl ledled y Fwrdeistref Sirol eisiau helpu a dangos cefnogaeth i bobl Wcráin yn y cyfnod torcalonnus yma. Mae yna lawer o sefydliadau sy'n helpu yn yr argyfwng ac apêl dyngarol.

Mae Cyngor RhCT wedi ymrwymo i dderbyn pobl Wcráin drwy gynllun Uwch-Noddwyr Llywodraeth Cymru.

Bydd y cynllun yma'n cefnogi pobl Wcráin gyda Thai, Addysg, Iechyd ac integreiddio i'r gymuned, yn ogystal â rhoi cymorth i'r sefydliadau sy'n gweithio gyda ni i roi llety a phrydau bwyd i bobl o Wcráin a'u teuluoedd.

Rhaid nodi bod yn rhaid i Gynghorau newid y ffordd y maen nhw'n gweithio yn gyflym yn ystod y cyfnod yma er mwyn parhau i ddarparu'r cymorth a'r gwasanaethau sydd eu hangen arnoch chi.  Byddwn ni bob amser yn dilyn cyngor ac arweiniad gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wrth wneud unrhyw newidiadau i’r ffordd rydyn ni'n darparu’r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

2. Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy? 

Os ydych chi'n dod o Wcráin neu'n berson/teulu sy'n noddi rhywun o Wcráin, bydd y mathau o wybodaeth amdanoch chi y bydd y Cyngor yn eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys, ond fyddan nhw ddim yn gyfyngedig i:

Pobl o Wcráin

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Manylion cyswllt gan gynnwys rhif ffôn a chyfeiriad e-bost,
  • Dyddiad geni
  • Gwybodaeth Fisa / Pasbort
  • Gwybodaeth am aelodau'r teulu, gan gynnwys unrhyw blant
  • Gwybodaeth am anabledd ac iechyd
  • Ethnigrwydd
  • Gwybodaeth yn ymwneud ag unrhyw bryderon diogelu
  • Enw'r ysgol y bydd unrhyw blant yn mynd iddi
  • Crefydd

Teulu sy'n Darparu Llety/Noddi

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Manylion aelodau'r teulu sy'n byw yn yr eiddo, gan gynnwys oedrannau, rhyw ac anableddau a dewisiadau personol
  • Manylion cyswllt gan gynnwys rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
  • Gwybodaeth yn ymwneud ag unrhyw faterion diogelu, gwiriadau diogelwch ac asesiadau i'r cartref sydd eu hangen ar gyfer eich addasrwydd i roi cymorth. 
  • Manylion Banc i brosesu'r taliad o ddiolch bob mis.

Mae angen yr wybodaeth yma er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth ar waith a bod pobl yn derbyn cymorth priodol

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth? 

Yn rhan o gynllun Cartrefi i Wcráin, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf (fel yr Awdurdod Lleol cyfrifol), yn derbyn gwybodaeth gan y Swyddfa Gartref ar bob person sy’n cael ei groesawu i RCT. 

O dan y cynllun Uwch-Noddwyr byddwn ni'n derbyn eich gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru.  Byddwn ni'n casglu unrhyw wybodaeth ychwanegol gennych chi pan fyddwn ni'n cysylltu â chi i drafod eich cais a chynnal asesiad o'ch cartref

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol? 

Pobl o Wcráin

Byddwn ni'n cynnal asesiad i sefydlu pa gymorth y mae modd i ni ddarparu i chi a'ch teulu, gan gynnwys unrhyw gymorth ariannol fel taliad dros dro gwerth £200. 

Byddwn ni'n cadw cofnod o'r cymorth y byddwn ni'n ei ddarparu i chi, ac o bosib yn cynnal adolygiadau rheolaidd i ddadansoddi a yw'r rhaglen yn gweithio i chi, neu a oes angen i ni newid unrhyw beth er mwyn eich helpu chi.  

Bydd hyn yn cynnwys, datblygu cynlluniau cymorth ar ôl cyrraedd gyda sefydliadau gan gynnwys gwasanaethau iechyd a chymorth, ond nid yw'n gyfyngedig i hynny. 

Teulu sy'n darparu llety/noddi

Byddwn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth i gynnal unrhyw asesiad/gwiriadau perthnasol ac i'ch cynorthwyo i roi cymorth i bobl/teulu Wcreineg.

5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma? 

Mae'r ddeddfwriaeth Diogelu Data yn nodi ein bod ni'n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny. 

Mae ein sylfaen gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn cynnig gwasanaeth cymorth yn y cartref i chi ac i fodloni gofynion y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) fel a ganlyn: 

Gwybodaeth Bersonol

Erthygl 6(1)(c) - Rhwymedigaeth gyfreithiol: i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â darparu tai, addysg, cymorth budd-daliadau ac ati.

Erthygl 6(1)(e) -cyflawni tasg sydd er budd y cyhoedd neu er mwyn, yn rhan o'n swyddogaethau swyddogol, ddarparu'r lefel briodol o gymorth i bob teulu sy'n cael ei adleoli i RCT. 

Gwybodaeth Categori Arbennig

Erthygl 9 2(g) - prosesu gwybodaeth am gategorïau arbennig megis hil, ethnigrwydd, iechyd i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a statudol fel y manylir uchod.

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall? 

Mae'n bosibl y bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu â phartneriaid ac adrannau mewnol ac allanol, yn dibynnu ar y cymorth sydd ei angen arnoch chi. 

Mae modd i hyn gynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i:  

Gwasanaethau Mewnol y Cyngor 

  • Addysg
  • Gwasanaethau Ariannol
  • Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Gwasanaethau Cyflogaeth
  • Adnoddau Dynol
  • Materion Tai/Digartrefedd 

Gwasanaethau Allanol 

  • Darparwr Gwasanaeth Cymorth (Cyngor Ffoaduriaid Cymru)
  • Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru (WSMP)
  • Asiantaethau’r Llywodraeth (Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru)
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (Gwasanaethau Iechyd)
  • Heddlu De Cymru
  • Ysgolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
  • Awdurdodau Lleol eraill
  • Sefydliadau Gwirfoddol Lleol a grwpiau ffydd
  • Y Groes Goch Brydeinig – sy’n gweinyddu’r taliad dros dro gwerth £200 ar ran RhCT.  Byddwn ni'n cadarnhau enwau'r unigolion sydd wedi dod drwy gynllun noddi gyda'r Groes Goch Brydeinig fel bod modd i'r mudiad roi cymorth uniongyrchol.
  • Darparwyr llety ac arlwyo.
  • Cyfiawnder Tai Cymru

7. Am ba mor hir caiff fy ngwybodaeth ei chadw?

Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol dim ond am y cyfnod sy’n angenrheidiol i roi’r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau 

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi. 

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.  

9. Cysylltu â ni 

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os hoffech chi wybod rhagor am sut rydyn ni'n trin gwybodaeth bersonol, mae modd i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio'r dulliau isod: 

Anfon e-bost: CymorthiWcrain@rctcbc.gov.uk 

Drwy ffonio: 01443 425640

Drwy lythyr: Gary Black, Rheolwr Gwasanaeth – Cymunedau Diogel a Phartneriaethau Strategol, Tŷ Elái, Trewiliam, Tonypandy, CF40 1NY