Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol ar gyfer Cwmni Vision Products - Gwasanaeth Offer Cymunedol y Tu Allan i Oriau.
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Cwmni Vision Products - Gwasanaeth Offer Cymunedol y Tu Allan i Oriau. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.
1. Pwy ydyn ni, beth rydyn ni'n ei wneud.
Mae Cwmni Vision Products ynfusnes sy'n derbyn cymorth ac yn rhan o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Mae'r gwasanaeth yma'n darparu gwasanaeth y tu allan i oriau er mwyn darparu offer ar frys, atgyweirio a chynnal a chadw offer penodol a chymorth i adleoli offer yng nghartrefi defnyddwyr gwasanaeth. Mae'r gwasanaeth yma'n cael ei gynnig ar ôl 5pm a chyn 8am ar ddiwrnodau gwaith a 24 awr ar benwythnosau a Gwyliau Banc.
Mae'r gwasanaeth yma wedi'i gyfyngu i rai Partneriaid a mathau o offer penodol fel sydd wedi'u diffinio yn y cytundebau perthnasol sydd ar waith.
2. Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Er mwyn ymateb i anghenion defnyddwyr y gwasanaeth a chyflawni'r gwasanaethau yr ydyn ni'n cael eu comisiynu i'w gwneud, bydd angen i ni brosesu enw, cyfeiriad, manylion cyswllt a gwybodaeth am y cwsmer sy'n berthnasol i'r offer neu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt i ganiatáu i'r peiriannydd y tu allan i oriau drefnu ymweliad â'r cwsmer.
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Bydd Defnyddiwr y Gwasanaeth, aelodau o deulu'r defnyddiwr neu ei gynhalwyr yn rhoi gwybod am broblemau i Ganolfan Alwadau Cwsmeriaid RhCT i ddechrau. Bydd yr ymgynghorydd Gwasanaeth i Gwsmeriaid yn gofyn cwestiynau i'r cwsmer er mwyn casglu gwybodaeth am y broblem sydd wedi codi. Bydd yr wybodaeth yma'n cael ei throsglwyddo i un o'r peirianwyr y tu allan i oriau lle bo angen.
Fel arall, mae modd i weithiwr gofal cymdeithasol neu iechyd proffesiynol wneud Atgyfeiriad uniongyrchol gan gysylltu'n syth â'r peiriannydd a throsglwyddo'r wybodaeth sydd ganddo am ddefnyddiwr y gwasanaeth.
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Unwaith y bydd peiriannydd y tu allan i oriau wedi derbyn manylion y gwaith sydd ei angen, bydd y peiriannydd yn cysylltu â'r cwsmer ac yn trefnu ymweliad er mwyn gwneud y gwaith angenrheidiol.
Os na all y garfan fewnol ddiwallu'r angen yma, bydd yr wybodaeth yn cael ei throsglwyddo i isgontractwr sydd wedi'i gymeradwyo i ymgymryd â'r gwaith ar ein rhan.
Mae'r gwaith yma sydd wedi'i wneud yna'n cael ei gofnodi drwy system gyfrifiadurol i gadw cofnod o'r camau a gymerwyd.
5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.
Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol wrth ddarparu cymhorthion ac offer yw cyflawni'r rhwymedigaethau cytundebol sydd gennym ni gyda'r sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu'r cymhorthion, yr offer a'r gwasanaethau sydd eu hangen ar y cwsmer.
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?
Byddwn ar adegau yn rhannu eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt ag isgontractwr trydydd parti os bydd gofyn iddyn nhw gynorthwyo i gynnal a chadw neu atgyweirio offer y tu allan i oriau, neu i ddarparu'r gwasanaeth ar ein rhan os does dim modd i ni wneud hynny.
7. Am faint o amser bydd fy ngwybodaeth yn cael ei chadw?
Mae pob cofnod yn cael ei gadw am 7 mlynedd at ddibenion gweinyddu.
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
Mae'r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.
9. Cysylltu â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:
Drwy e-bostio: VisionProductsBusiness@rctcbc.gov.uk
Drwy ffonio: 01443 229988
Drwy anfon llythyr at: CWMNI VISION PRODUCTS, Ystad Ddiwydiannol Lon Coedcae, Pont-y-clun, Taf-Elai,CF72 9GP