Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Cwmni Vision Products - Partneriaeth Gwasanaeth Offer Cymunedol

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol ar gyfer Cwmni Vision Products - Partneriaeth Gwasanaeth Offer Cymunedol.

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Cwmni Vision Products - Partneriaeth Gwasanaeth Offer Cymunedol. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1.    Pwy ydyn ni, beth rydyn ni'n ei wneud.

Mae Cwmni Vision Products ynfusnes sy'n derbyn cymorth ac yn rhan o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae'r gwasanaeth yn darparu cymhorthion ac offer syml a chymhleth, fel sgwteri symudedd a gwelyau arbennig, i ddefnyddwyr gwasanaeth ag anableddau / anghenion penodol. 

Mae Vision Products yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o Fyrddau Iechyd Lleol a Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Phlant mewn nifer o Awdurdodau Lleol yn Ne-ddwyrain Cymru, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i Rondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr a Chwm Taf Morgannwg.Ar eu rhan, rydyn ni'n cyflenwi cymhorthion ac offer arbenigol i bobl maen nhw wedi'u hasesu a nodi'n rhai sydd angen cymhorthion ac offer i gynnal eu hannibyniaeth.

Am ein bod yn defnyddio gwybodaeth bersonol pobl, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.

2.    Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am ddefnyddwyr gwasanaeth y gorffennol a'r presennol sydd wedi derbyn cymhorthion ac offer gennym ni.

Mae modd i'r wybodaeth sydd gennym ni gynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i:

  • Manylion cyswllt defnyddwyr y gwasanaeth, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.
  • Gwybodaeth feddygol defnyddwyr y gwasanaeth a gwybodaeth am eu hanghenion gofal a chymorth.
  • Manylion cyswllt ar gyfer cynhalwyr, aelodau o'r teulu neu ffrindiau sy'n ymwneud â gofal defnyddwyr y gwasanaeth ac sy'n gallu cymryd y camau angenrheidiol pe na bai defnyddwyr y gwasanaeth yn gallu gwneud hynny, e.e. cysylltu â ni os oes problemau gyda'r gwasanaeth neu os oes angen rhannau ac ati.
  • Gwybodaeth am y cymhorthion a'r offer sydd wedi'u cyflenwi.  
  • Gwybodaeth sydd ei hangen i ddarparu'r cymhorthion a'r offer sydd eu hangen, er enghraifft:
    • Manylion atgyfeiriad a'r person wnaeth yr atgyfeiriad,
    • Cyfeiriad dosbarthu,
    • Gofynion a chyfyngiadau er mwyn dosbarthu, e.e. cyfyngiadau o ran mynediad i'r eiddo.

Efallai y bydd peth o'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chasglu neu yn ei dderbyn am ddefnyddwyr y gwasanaeth a'u cynhalwyr yn ddata 'categori arbennig' sensitif.  Mae categorïau arbennig o ddata yn cynnwys gwybodaeth am iechyd corfforol a meddyliol, cyfeiriadedd rhywiol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, data biometreg a data arall. Mae'n bosibl bod y math yma o wybodaeth yn cael ei chasglu er mwyn darparu gwasanaethau diogel ac addas ar gyfer eu hanghenion i ddefnyddwyr y gwasanaeth a'u cynhalwyr.

3.    O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Rydyn ni'n derbyn gwybodaeth am ddefnyddwyr y gwasanaeth gan weithiwr proffesiynol perthnasol sydd wedi asesu eu hanghenion, e.e. Gweithiwr Cymdeithasol, Meddyg, Ffisiotherapydd a Therapyddion Galwedigaethol.

4.    Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth bersonol yma am ddefnyddwyr y gwasanaeth er mwyn: 

  • Prosesu unrhyw archeb am gymhorthion ac offer a gwneud trefniadau ar gyfer eu danfon.
  • Cadw cofnod o'r cymhorthion a'r offer sydd wedi'u harchebu a'u cyflenwi.
  • Delio ag unrhyw ymholiadau neu faterion a allai fod gan ddefnyddwyr y gwasanaeth am y cymhorthion a'r offer sydd wedi'u harchebu a'u cyflenwi.
  • Asesu, rheoli a chofnodi unrhyw bryderon neu ddigwyddiadau iechyd a diogelwch sy'n gysylltiedig â chyflenwi a danfon unrhyw gymhorthion ac offer.
  • Rhedeg ein gwasanaeth a darparu gwybodaeth ystadegol i drydydd parti - er enghraifft, Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol neu Lywodraeth Cymru - am y bobl sy'n defnyddio ein gwasanaeth, eu hanghenion a'r cymhorthion a'r offer sy'n cael eu cyflenwi. Nodwch, fydd neb yn cael eu henwi mewn unrhyw adroddiadau byddwn yn eu hysgrifennu nac mewn data ystadegol byddwn yn ei gynhyrchu. Byddan nhw'n tynnu sylw at y gwaith a wnawn, a'r gwasanaethau rydyn ni wedi'u darparu dros gyfnod penodol o amser.

5.    Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny. 

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol wrth ddarparu cymhorthion ac offer yw cyflawni'r rhwymedigaethau cytundebol sydd rhyngom ni a'r sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol i allu darparu'r cymhorthion a'r offer sydd eu hangen ar ddefnyddiwr y gwasanaeth.

6.    Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Efallai y bydd raid i ni rannu enwau, cyfeiriadau a manylion cyswllt defnyddwyr y gwasanaeth â chwmnïau dosbarthu trydydd parti i ddarparu'r cymhorthion a'r offer, os fydd dim modd i ni wneud hynny ein hunain. 

Efallai y byddwn hefyd, gyda'ch caniatâd chi, yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â'ch teulu, cynrychiolwyr neu ffrindiau os ydyn nhw'n cyfrannu at y gwaith o ofalu amdanoch chi, ac efallai y bydd angen gwybodaeth am ddefnyddio'r cymhorthion a'r offer arnyn nhw ar gyfer adegau pan maen nhw'n diwallu'ch anghenion gofal a chymorth.

7.    Am faint o amser bydd fy ngwybodaeth yn cael ei chadw?

Am resymau gweinyddol ac ariannol, mae cofnodion yn cael eu cadw am o leiaf 7 mlynedd.

8.    Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi. 

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

9.    Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod: 

Drwy e-bost: VisionProductsBusiness@rctcbc.gov.uk

Drwy ffonio: 01443 229988 

Drwy anfon llythyr at: 

CWMNI VISION PRODUCTS, Ystad Ddiwydiannol Lôn Coedcae, Pont-y-clun, Taf-Elái, CF72 9GP