Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc Cwm Taf.
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yna. O ganlyniad i gasglu a chadw gwybodaeth bersonol am unigolion, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc Cwm Taf. Dylid darllen yr wybodaeth yma ar y cyd â hysbysiad preifatrwydd Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant a hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.
1. Pwy ydyn ni a'r hyn rydyn ni'n ei wneud.
Mae Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc Cwm Taf yn gweithio gyda phlant rhwng 8 a 17 oed, eu teuluoedd a dioddefwyr troseddau, a hynny er mwyn lleihau nifer yr achosion o droseddu, aildroseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Bydd Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc yn ymyrryd pan fydd person ifanc:
- Mewn perygl o gyflawni troseddau
- Yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol
- Yn cael ei gyhuddo o drosedd ac yn gorfod mynd i'r llys
- Yn euog o drosedd ac yn cael dedfryd
Mae Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc hefyd:
- Yn cynnal rhaglenni atal troseddau lleol
- Yn cynnig rhaglenni cyfiawnder adferol a rhoi sicrwydd i'r gymuned
- Yn helpu rhieni / gwarcheidwaid plant sydd ynghlwm â Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc
- Yn rhoi cymorth i ddioddefwyr troseddau neu ymddygiad gwrthgymdeithasol a'u teuluoedd
Mae Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc Cwm Taf yn gweithio mewn partneriaeth â'r sefydliadau a'r asiantaethau canlynol:
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
- Heddlu De Cymru
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
- Gwasanaeth Prawf BAROD
2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Mae gan Wasanaeth Troseddau'r Ifainc oblygiad cyfreithiol i gadw cofnod o bobl ifainc sydd wedi bod ynghlwm â Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc yn y gorffennol ac ar hyn o bryd.
Mae ein ‘gwasanaethau atal’ hefyd yn cadw cofnodion am unigolion a'r ymyraethau wedi'u cynnig i gefnogi'u hamcanion ac atal troseddu.
Mae ein gweithwyr yn gwneud gwaith allgymorth yn rheolaidd yn y gymuned ac yn rhan o'r gwaith yma, maen nhw'n cofnodi gwybodaeth sylweddol am unrhyw blentyn sy'n gweithio gyda'r Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc. Mae'r wybodaeth yma o bosibl yn cynnwys manylion am unrhyw bryderon o ran diogelwch a lles, ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddu, neu ymddygiad sy'n rhoi eraill mewn perygl.
Byddwn ni hefyd yn cadw cofnodion am ddioddefwyr troseddau. Mae gyda ni oblygiad yn unol â’r 'cod ymarfer ar gyfer dioddefwyr' i gadw gwybodaeth dioddefwyr ar wahân i wybodaeth yr unigolyn sydd wedi troseddu. Mae'r wybodaeth rydyn ni'n ei chasglu yn cael ei defnyddio i ddarparu gwasanaeth cyfannol i ddioddefwyr sy'n cytuno i weithio gyda'r Gwasanaeth.
Mae'r math o wybodaeth rydyn ni'n ei chasglu a'i defnyddio yn amrywio gan ddibynnu ar anghenion ac amgylchiadau pob person ifanc, ei deulu/gwarcheidwaid ac unrhyw ddioddefwyr.
Fel arfer, mae'r wybodaeth rydyn ni'n ei chadw yn cynnwys;
- Enw, cyfeiriad, dyddiad geni, manylion cyswllt, hil, rhywedd, tarddiad ethnig a chrefydd ac ati
- Manylion am unrhyw broblemau iechyd blaenorol a/neu bresennol ac am unrhyw anghenion gofal a chymorth posibl sydd ganddyn nhw
- Gwybodaeth addysg megis; adroddiadau ysgol, gwaharddiadau, gwaharddiadau dros dro, cyflawniadau ac unrhyw fewnbwn gan y Gwasanaeth Seicoleg Addysg
- Manylion unrhyw ymgysylltiad cyfredol (neu yn y gorffennol) gyda'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Blant neu'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion
- Gwybodaeth am unrhyw droseddau blaenorol ac unrhyw gyswllt blaenorol gyda gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau cymorth Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc
- Manylion euogfarnau a dedfrydu mewn perthynas ag unrhyw ymddygiad troseddu
- Gwybodaeth berthnasol am anghenion ac amgylchiadau personol unigolyn
- Gwybodaeth berthnasol am ymyraethau, amcanion a chyflawniadau a gynlluniwyd
- Arsylwadau a barn broffesiynol Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc.
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Yn gyffredinol, rydyn ni'n derbyn gwybodaeth gan:
- Y bobl ifainc rydyn ni'n gweithio gyda nhw a'u teuluoedd (dioddefwyr / rhieni / cynhalwyr ac ati)
- Yr Heddlu
- Carfan Cymunedau Diogel
- Y Llysoedd a'r Ganolfan Ieuenctid, er enghraifft os ydyn nhw'n gofyn am adroddiad gan Wasanaeth Troseddau'r Ifainc
- Gwasanaethau Prawf
- Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc mewn ardaloedd eraill (lle mae'r person ifanc wedi symud o un ardal i ardal arall ac mae ganddo/ganddi hanes o ymgysylltu â Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc arall)
- Lle bo angen, mae'n bosibl y byddwn ni'n gofyn am wybodaeth ac yn ei derbyn gan y bobl ganlynol:
- Ysgol / Athrawon y person ifanc
- Gweithwyr Ieuenctid y person ifanc
- Gweithwyr Cymdeithasol y person ifanc
- Gwasanaethau iechyd (megis Meddyg Teulu, CAMHS, Lleferydd ac Iaith ac unrhyw gorff perthnasol arall)
Byddwn ni hefyd yn cynhyrchu ein gwybodaeth bersonol am y person ifanc trwy ein profiad ac arsylwadau wrth weithio gyda nhw, er enghraifft wrth asesu eu hanghenion ac adolygu'u cynnydd
- Unrhyw weithiwr proffesiynol arall sy'n berthnasol i ddarparu gwybodaeth, megis Barnados (Better Futures Cymru), y Swyddfa Gartref (Asiantaeth Cymhwysedd Sengl).
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth sy'n cael ei rhannu â ni i fodloni ein dyletswyddau statudol. Ymhlith y gwasanaethau yma, mae:
- Cydlynu darpariaeth gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid ledled ardal Cwm Taf
- Prosesu atgyfeiriadau sy'n cael eu derbyn gan y gwasanaeth ac ymateb i anghenion y bobl ifainc, teuluoedd ac unrhyw ddioddefwyr rydyn ni'n rhoi cymorth iddyn nhw
- Rheoli a goruchwylio plentyn sydd ynghlwm â'r gwasanaeth yn effeithiol trwy gynnal asesiad, llunio ac adolygu cynlluniau a darparu ymyraethau perthnasol
- Asesu anghenion teuluoedd/cynhalwyr, llunio ac adolygu cynlluniau ac ymyraethau sy'n ymateb i anghenion
- Asesu anghenion dioddefwyr, llunio ac adolygu cynllun a darparu gwasanaethau cymorth perthnasol (gwybodaeth a chyngor)
- Rhannu gwybodaeth os oes risg o niwed iddyn nhw eu hunain neu i eraill
- Datblygu cynllun rheoli risg, ar y cyd â'r partneriaid uchod, i leihau'r risgiau wedi'u creu gan y plentyn trwy fynd i'r afael â'r ffactorau o blaid ac yn erbyn y broses ymatal rhag troseddu eto
- Monitro sut mae person ifanc yn ymdopi a rhoi gwybod am unrhyw broblemau sydd efallai gyda nhw wrth dderbyn cymorth neu tra'u bod nhw ar remánd neu yn y ddalfa
- Adolygu sut mae anghenion person ifanc wedi cael eu bodloni a sicrhau bod unrhyw wasanaethau mae'n eu derbyn yn parhau i fodloni'i anghenion.
- Os nad ydych chi wedi cael asesiad iechyd gan Wasanaeth Troseddau'r Ifainc o'r blaen, byddwn ni'n edrych ar eich cofnodion meddygol i gael gwybod a oes unrhyw anghenion iechyd gyda chi dydyn ni ddim eto'n gwybod amdanyn nhw.
5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.
Y ddeddfwriaeth sy'n nodi bod modd i ni wneud hyn yw;
- Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998
- Deddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004 Adran 54 (Mae hyn ar gyfer datgelu gwybodaeth wrth gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Troseddau)
- Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012
- Deddf Plant 2004
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Safonau Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Ebrill 2019
- Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014
- Adran 55 o Ddeddf Ffiniau, Dinasyddiaeth a Mewnfudo 2009 (a fydd yn cael ei henwi'n 'ddyletswydd adran 55' o hyn ymlaen)
Nodwch: Er efallai byddwn ni'n gofyn am eich caniatâd (o dan gyfraith gyffredin Dyletswydd Cyfrinachedd a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) i rannu'ch gwybodaeth bersonol ag eraill sydd ynghlwm â'ch gofal, nid yw caniatâd yn sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'ch gwybodaeth o dan ddeddfwriaeth diogelu data.
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?
Er mwyn darparu'r cymorth a'r gwasanaethau sydd eu hangen ar blant, eu teuluoedd/gwarcheidwaid a dioddefwyr troseddau, efallai bydd angen i ni rannu gwybodaeth bersonol â sefydliadau trydydd parti dibynadwy, asiantaethau a gweithwyr proffesiynol sy'n gallu helpu i leihau perygl aildroseddu/niwed i'w hunain ac eraill, a darparu mynediad i'r gwasanaethau sydd efallai eu hangen.
Efallai bod y rhain yn cynnwys:
Gwasanaethau eraill y Cyngor megis:
- Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol
- Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifainc
- Gwasanaethau Materion Tai
- Gwasanaethau Addysg (gan gynnwys Ysgolion a Gwasanaeth Seicoleg Addysg Anghenion Dysgu Ychwanegol)
- Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd
- Carfanau Diogelu Plant ac Oedolion Amlasiantaethol
Gwasanaethau iechyd a gweithwyr iechyd proffesiynol megis:
- Meddyg Teulu
- Gwasanaethau Nyrsio Cymunedol
- Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau
- Gwasanaethau Iechyd Meddwl
- Gwasanaeth Triniaeth ac Ymgynghori Fforensig y Glasoed Cymru Gyfan
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Niwroddatblygiad
- Lleferydd ac Iaith
Sefydliadau eraill megis:
- Sefydliadau Troseddau'r Ifainc (YOI)
- Canolfannau Hyfforddi Diogel (STC)
- Cartrefi Plant Diogel
- Gwasanaethau Troseddau'r Ifainc mewn ardaloedd eraill
- Heddlu (gan gynnwys Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig)
- Y Gwasanaeth Prawf
- Barnados (Better Futures Cymru a'r gwasanaeth Gwarcheidwaid Masnachu Plant Annibynnol (ICTGS))
- Gyrfa Cymru
- Darparwyr Addysg, Colegau a Hyfforddiant
- Darparwyr Chwaraeon a Hamdden e.e. Clybiau Bocsio, Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd
- Cyflogwyr
- Gwasanaethau Cymorth Cyffuriau ac Alcohol (e.e. BAROD neu unrhyw ddarparwr lleol arall)
- Asiantaeth Cymhwysedd Sengl
- Llwybrau Newydd
- Darparwyr Tai
- Gwasanaethau Cwnsela Exchange
- Victim Focus
Rheoleiddwyr a Chyrff Llywodraethu
- Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr (gweler isod)
- Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi (HMPPS)
- Llywodraeth Cymru
- Y Swyddfa Gartref
- Y Gwasanaeth Ieuenctid yn y Ddalfa (YCS)
Rydyn ni'n rhannu gwybodaeth benodol gyda'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid bob chwarter. Mae hyn yn cynnwys:
- Gwybodaeth bersonol y mae'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn gofyn amdani
- Gwybodaeth ad-hoc sydd ei hangen o bryd i'w gilydd gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid at ddibenion ymchwil ac i wella ymarfer, sydd efallai'n cynnwys:
- data lefel achos wedi'i allforio o systemau rheoli achosion Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc neu sydd wedi'i gasglu mewn fformat unigryw yn unol â chais y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid
- eich ffeiliau achos chi.
Caiff yr wybodaeth ei darparu i'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid er mwyn:
- Monitro sut mae'r system cyfiawnder ieuenctid yn gweithredu;
- Darparu gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid;
- Rhoi cyngor i'r Ysgrifennydd Gwladol ar faterion gweithredu'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid;
- Hyrwyddo arfer da;
- Comisiynu gwaith ymchwil;
- Asesu'r galw am lety diogel ac am lety arall yn flynyddol;
- Rhannu data sydd ddim yn bersonol â sefydliadau eraill.
7. Am ba mor hir gaiff fy ngwybodaeth ei chadw?
Bydd cofnodion wedi'u creu gan Wasanaeth Troseddau'r Ifainc yn cael eu cadw hyd at ben-blwydd y person ifanc yn 25 oed.
Bydd cofnodion wedi'u creu gan y Gwasanaethau i Blant yn cael eu cadw am 75 o flynyddoedd ar ôl pen-blwydd y person ifanc yn 18 oed.
Caiff cofnodion wedi'u creu gan y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion eu cadw am o leiaf 7 mlynedd ar ôl i unrhyw gyswllt ag unrhyw wasanaeth gofal cymdeithasol ddod i ben.
Caiff cofnodion dioddefwyr wedi'u creu gan Wasanaeth Troseddau'r Ifainc eu dileu o'r system ar ôl i waith gyda Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc ddod i ben.
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.
Cliciwch yma www.rctcbc.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau a sut i'w harfer nhw.
9. Cysylltu â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os hoffech chi wybod rhagor am sut rydyn ni'n trin eich gwybodaeth bersonol, mae modd i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio'r dulliau isod:
Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc Cwm Taf
Uned 2, Parc Busnes Hen Lofa'r Maritime
Ystad Ddiwydiannol Hen Lofa'r Maritime
Pontypridd
CF37 1NY
Ffôn: 01443 827300
E-bost: gwybgti@rctcbc.gov.uk