Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion GostyngiadauTreth y Cyngor
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion gostyngiadau Treth y Cyngor. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor
1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud.
Fel Cyngor, rydyn ni'n gweinyddu cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor i helpu pobl sydd ar incwm isel gyda Threth y Cyngor. Yn ddibynnol ar eich incwm a'ch sefyllfa unigol, mae modd cael Gostyngiadau Treth y Cyngor i dalu rhan o'r swm sydd angen i chi ei dalu, neu dalu'r swm llawn ar eich rhan.
Mae gyda ni wybodaeth benodol amdanoch chi rydyn ni'n ei defnyddio i weinyddu cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor. Mae hyn yn cynnwys yr angen i brosesu eich gwybodaeth i gysylltu â chi, i wneud taliadau Gostyngiadau Treth y Cyngor i chi ac i adennill unrhyw ordaliadau Gostyngiadau Treth y Cyngor wrthych chi. Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut rydyn ni'n defnyddio'ch data personol yn cael ei darparu isod.
2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am drigolion y gorffennol a'r presennol sy wedi gwneud ceisiadau i'r Cyngor am Ostyngiadau Treth y Cyngor.
Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:
- Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhifau ffôn a chyfeiriad e-bost
- Manylion y cartref a'r incwm
- Manylion cyflogwr a chyflog
- Rhif Yswiriant Gwladol a dyddiad geni
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Gall yr wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chasglu amdanoch chi ddod o amrywiaeth o ffynonellau gwahanol fel y rhai sy'n cael eu rhestru isod:
- Gwybodaeth rydych chi wedi'i rhoi i ni yn uniongyrchol wrth wneud cais
- Gwybodaeth rydyn ni wedi'i llunio er enghraifft pan fyddwn ni'n prosesu'ch cais
- Gwybodaeth gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i wirio'ch incwm
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth bersonol yma i weinyddu'r cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor. Gall hyn gynnwys y canlynol:
5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.
Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r wybodaeth yma at y dibenion uchod yw:
- Cyflawni ei dyletswyddau swyddogol fel Cyngor a bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y ddeddfwriaeth:
- Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
Mewn rhai amgylchiadau, bydd gofyn i ni brosesu gwybodaeth am iechyd unigolyn. Caiff yr wybodaeth yma ei dosbarthu fel data categori arbennig a bydd yn cael ei phrosesu fel rhan o'n rhwymedigaeth gyfreithiol o dan y ddeddfwriaeth ganlynol:
- Rhyddhad Personau Anabl (awdurdod statudol - Rheoliadau Treth y Cyngor (Lleihau Anableddau) 1992)
- Eithriad / Diystyru ar gyfer pobl sydd â nam meddyliol difrifol (awdurdod statudol - Gorchymyn Treth y Cyngor (Anheddau Eithriedig) 1992; Gorchymyn Treth y Cyngor (Diystyru Gostyngiad) 1992)
- Eithrio / Diystyru ar gyfer trigolion cartrefi gofal a nyrsio (awdurdod statudol - Gorchymyn Treth y Cyngor (Anheddau Eithriedig) 1992; Gorchymyn Treth y Cyngor (Diystyru Gostyngiad) 1992)
- Eithrio / Diystyru ar gyfer darparwyr gofal (awdurdod statudol - Gorchymyn Treth y Cyngor (Anheddau Eithriedig) 1992; Gorchymyn Treth y Cyngor (Diystyru Gostyngiad) 1992)
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?
O bryd i'w gilydd, byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth bersonol gydag ymgynghorwyr a darparwyr gwasanaethau fel bod modd iddyn nhw ein helpu i gyflawni ein dyletswyddau, ein hawliau a'n disgresiwn wrth ddelio â Gostyngiadau Treth y Cyngor. Gall y rhain gynnwys:
Gwasanaethau Mewnol y Cyngor fel:
- Gwasanaeth Treth y Cyngor
- Asiantaethau a sefydliadau'r llywodraeth fel:
- Gwasanaethau Llys ei Mawrhydi - at ddibenion delio ag apeliadau
- Swyddfa'r Cabinet - at ddibenion y Fenter Twyll Genedlaethol - cliciwch yma am ragor o wybodaeth
Cyflenwyr a sefydliadau trydydd parti dibynadwy sy'n darparu gwasanaethau ar ein rhan:
- Cwmnïau argraffu - (MPS Ltd ar hyn o bryd) i argraffu, pacio a phostio dogfennau Treth y Cyngor
- Darparwr meddalwedd - (Capita Software Services Ltd ar hyn o bryd) i gynnal ein systemau Treth y Cyngor
- Dadansoddi data - (Datatank Ltd ar hyn o bryd) - at ddibenion adolygu hawl i ostyngiadau a rhyddhad
7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?
Byddwn ni'n cadw eich gwybodaeth bersonol am 7 mlynedd at ddibenion gweinyddu ac i ddelio ag unrhyw gwestiynau neu gwynion y gallwn ni eu derbyn am hyn. Byddwn ni'n gweithredu fel hyn oni bai bod y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni gadw'ch gwybodaeth am ragor o amser.
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.
Edrychwch ar fanylion pellach am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw
9. Cysylltu â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:
E-bostio: refeniw@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Ffôn: 01443 425002
Trwy lythyr: Uwchadran Gwasanaethau Ariannol, Tŷ Bronwydd, Y Porth, CF39 9DL