Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Gwresogi ac Arbed - Gwasanaeth yr Hwb Atgyfeirio

Sut rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol ar gyfer cyflwyno'r Gwasanaeth Hwb Atgyfeirio Ynni Gwresogi ac Arbed

 

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Wrth wneud y gwaith yma, rhaid i ni gasglu gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw, defnyddio'r wybodaeth yma, a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i'r angen i gasglu gwybodaeth bersonol am unigolion, a'i defnyddio, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth rydyn ni am ei wneud gyda'r wybodaeth yma, a gyda phwy y mae hawl gyda ni i'w rhannu. Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion y Gwasanaeth Hwb Atgyfeirio Ynni Gwresogi ac Arbed. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1. Pwy ydyn ni? Beth ydyn ni'n ei wneud?

Mae'r Gwasanaeth Gwresogi ac Arbed yn darparu cyngor a chymorth i breswylwyr am geisiadau grant effeithlonrwydd ynni ar gyfer eu cartrefi, sydd naill ai'n cael eu darparu gan y Cyngor neu gan ein partneriaid allanol.

Mae'r gwasanaeth gynghori'n hwb atgyfeirio cyswllt cyntaf. Mae'n darparu pecyn cymorth cyfannol i drigolion gan weithio gyda'i gilydd i asesu a ydyn nhw'n gymwys i dderbyn y grantiau sydd ar gael a'u hatgyfeirio'n uniongyrchol (lle bo angen) at bartneriaid eraill am gyngor pellach a/neu gymorth ariannol sydd ar gael drwy gynlluniau neu brosiectau allanol.

Mae'r Gwasanaeth yn rhoi cyngor diduedd i breswylwyr am ddim. Lle mae modd gwneud hynny, bydd y Gwasanaeth Gwresogi ac Arbed yn darparu'r gefnogaeth/cyngor sydd eu hangen arnoch chi neu bydd yn eich cyfeirio chi at yr asiantaeth/sefydliad mwyaf addas i'ch helpu chi. Mae pecynnau cymorth yn cynnwys asesu a ydych yn gymwys ar gyfer amrywiaeth o gynlluniau ariannol sydd ar gael ar yr adeg yna, sy’n helpu trigolion i osod mesurau effeithlonrwydd ynni yn eu cartrefi i leihau’r arian sy’n cael ei wario ar filiau ynni, lliniaru effaith tlodi tanwydd a sicrhau cynhesrwydd fforddiadwy. Rhaid i chi ddarparu gwybodaeth am amgylchiadau eich aelwyd, sy'n cynnwys gwybodaeth iechyd ac ariannol, ar gyfer cymorth grant er mwyn i ni asesu p'un a ydych chi'n gymwys ac yn bodloni'r meini prawf. Hyd yn oed pan does dim angen gwybodaeth ar gyfer pob grant, gall ein helpu ni i benderfynu pa gynlluniau sy fwyaf addas ar gyfer eich amgylchiadau chi.

2. Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Pan fyddwch chi'n cysylltu â'r gwasanaeth, byddwn ni'n cadw eich gwybodaeth chi (a gwybodaeth unrhyw un sy'n byw yn eich aelwyd pan fo'n berthnasol)

Mae'r mathau o wybodaeth yn cynnwys;

  • Enw a chyfeiriad
  • Gwybodaeth er mwyn cysylltu â chi, gan gynnwys rhif ffôn symudol neu rif ffôn tŷ a chyfeiriad e-bost
  • Dyddiad geni
  • Gwybodaeth Ariannol (lle bo'n berthnasol) i ddangos cymhwysedd gan gynnwys; datganiadau cyfrif banc, datganiadau cyfrif cynilo, tystiolaeth o enillion o fusnes a manylion hunanasesu, manylion morgais neu gytundebau rhentu, hawl i fudd-daliadau a gwybodaeth ategol fel sy'n berthnasol i bob maen prawf grant
  • Biliau Cyfleustodau
  • Manylion unigolion eraill sy'n gysylltiedig â'ch cais, gall hyn gynnwys eich partner a phobl eraill sy'n byw yn eich cartref.
  • Gwybodaeth am gyflwr iechyd sy'n ymwneud â chi/aelodau eraill o'ch cartref sy'n berthnasol i'ch cais

Efallai y byddwn ni'n derbyn/casglu'r wybodaeth ganlynol gan adrannau eraill y Cyngor, a gan bartneriaid, i gefnogi'ch cais: 

  • Tystysgrif Perfformiad Ynni (o gofrestr EPC genedlaethol neu gan Aseswr Ynni Domestig)
  • Data arolwg technegol o gwmni 3ydd partner yn ategu argymhellion ar gyfer mesurau ynni
  • Treth y Cyngor yn cadarnhau eich bod chi'n byw yn yr eiddo
  • Gwiriad gweithred teitl ynghylch perchnogaeth eiddo, lle bo'n berthnasol
  • Gwybodaeth yn ymwneud â pha welliannau y byddai modd eu gwneud i'ch cartref, megis arbedion/gostyngiadau ariannol, arbedion ynni
  • 3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Mae'r gwasanaeth yn cael eich gwybodaeth oddi wrth nifer o ffynonellau, megis:

  • Chi, yr ymgeisydd, pan fyddwch chi'n gwneud ymholiad dros y ffôn, e-bost, llythyr neu gais ar-lein
  • Chwiliad y Gofrestrfa Dir
  • Gwasanaethau eraill y Cyngor, megis Treth y Cyngor, Budd-daliadau Tai, Gwasanaethau Cyfreithiol, Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, y Garfan Gydnerth
  • Gwybodaeth gan osodwyr, cwmnïau ynni cyllidwyr ECO neu eu hasiantau
  • Cynlluniau cenedlaethol eraill megis cynlluniau NYTH ac Arbed am Byth Llywodraeth Cymru, neu gynlluniau y DU megis ECO Flex y DU
  • Gwybodaeth sy'n cael ei darparu gan sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus megis atgyfeiriadau gan wasanaethau iechyd sy'n cynnwys meddygon teulu, ymwelwyr iechyd, yn ogystal â'r Adran Gwaith a Phensiynau, Gofal a Thrwsio / Care & Repair, Cyngor ar Bopeth ac ati
  • 4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

I brosesu eich ymholiad, eich cais am grant ac asesu eich cymhwysedd i dderbyn y cymorth grant, byddwn ni yn:

  • Rhoi cyngor cyn ymgeisio a gwasanaeth brysbennu i'ch cyfeirio chi at y cymorth priodol yn seiliedig ar eich anghenion, eich amgylchiadau a'ch cymhwysedd
  • Gweinyddu cymorth grant ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni o'r Rhaglen Tai Cyfalaf
  • Gweinyddu ceisiadau am Gymhwysedd Hyblyg yn rhan o Rwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO Flex), i ganiatáu trigolion i gael mynediad at gyllid allanol o osodwyr, cwmnïoedd ynni neu eu hasiantau
  • Cysylltu â phartneriaid eraill i bennu'ch cymhwysedd ar gyfer mathau eraill o gymorth grant
  • Cofrestru eich manylion ar Gofrestrau Gwasanaeth Blaenoriaeth gyda chyflenwyr ynni a/neu weithredwyr rhwydwaith, a fydd yn sicrhau eich bod yn cael cymorth ychwanegol gan gyflenwyr ynni os byddwch yn profi toriad pŵer os ydych yn agored i niwed oherwydd eich oedran, iechyd neu anabledd
  • Gwneud taliad i chi neu'r contractwr o'ch dewis mewn perthynas â'ch cais am grant
  • Eich cyfeirio chi at adrannau neu asiantaethau allanol y Cyngor a all ddarparu cymorth neu wasanaethau yn seiliedig ar eich anghenion neu'ch amgylchiadau
  • Casglu adborth gan gwsmeriaid sy'n ymwneud â defnyddwyr y gwasanaeth a cheisiadau am grantiau
  • Cysylltu â chi (os ydych chi'n cytuno) at ddibenion ymchwil i'n galluogi ni i wella'r gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig
  • Cynnal rhestr mynegiant o ddiddordeb o breswylwyr sydd â diddordeb mewn cynlluniau ynni domestig, a defnyddio'r rhestr yma i ddatblygu cynlluniau a mentrau ynni posibl a rhoi gwybod i breswylwyr pan fydd cynlluniau ar gael
  • 5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Wrth i'r Garfan Gwresogi ac Arbed hyrwyddo a chyflawni gweithredoedd ac ymyriadau lleol i liniaru effeithiau tlodi tanwydd a datgarboneiddio yn unol ag amcanion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar gyfer y meysydd yma, bydd gwybodaeth sy'n dod i law o'r canlynol yn cael ei phrosesu os ydyn nhw'n berthnasol;

  • Deddf Tai (Cymru) 2014
  • Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996
  • Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai
  • Gorchymyn Diwygio rheoleiddio, Adnewyddu Tai y Sector Tai Preifat 2002
  • Polisi Tai Sector Preifat Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 2014
  • Gorchymyn Trydan a Nwy (Rhwymedigaeth Cwmni Ynni) 2014
  • Deddf Ynni 2016
  • Deddf Newid Hinsawdd ac Ynni Cynaliadwy 2016
  • Rheoliadau'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Diwygio) (Cymru) 2018
  • Deddf Cynllunio ac Ynni 2008
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
  • Deddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000
  • Strategaeth Twf Glân 2018 (BEIS)
  • Strategaeth Tlodi Tanwydd 2010 (LlC)
  • Strategaeth Defnyddwyr Agored i Niwed 2013
  • Ffyniant i Bawb Llywodraeth Cymru: Cymru Carbon Isel (2019);
  • Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Tai y DU: Addas ar gyfer y Dyfodol? Y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd (2019)

  • Cartrefi Gwell, Cymru Well, Byd Gwell Llywodraeth Cymru: Datgarboneiddio cartrefi presennol yng Nghymru (2019)

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Ydy. Efallai y bydd angen gwybodaeth ychwanegol amdanoch chi ar y Gwasanaeth Gwresogi ac Arbed er mwyn sicrhau ein bod ni'n rhoi'r cyngor cywir a'r grant ynni sy'n berthnasol i chi.

Os nad oes modd i'r Cyngor eich cynorthwyo trwy ddiwallu'ch anghenion, byddwn ni'n eich cyfeirio chi at un o'n partneriaid allanol a fydd yn gallu darparu'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Adrannau eraill y Cyngor:

  • Treth y Cyngor
  • Adran Budd-daliadau Tai
  • Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Ymateb Cyntaf/Gwasanaethau Cymdeithasol (os oes angen gofal cymdeithasol ychwanegol neu angen diogelu)
  • Iechyd yr Amgylchedd - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd
  • Safonau Masnach
  • Cymunedau am Waith
  • Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth

Sefydliadau eraill:

  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Llywodraeth Cymru
  • Llywodraeth Cymru (NEST ac Arbed am Byth)
  • Y Gwasanaeth Tân
  • Yr Asiantaeth Gofal a Thrwsio
  • Interlink
  • Yr Asiantaeth Cyngor ar Bopeth
  • Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth - cyflenwyr ynni a/neu weithredwyr rhwydwaith
  • Ymddiriedolaeth Arbed Ynni a Chynllun Power Up
  • Dŵr Cymru (Cynllun HelpU)
  • Cymru Cynnes (Prosiect Hyrwyddwr Ynni a Chynllun Talebau Cysylltiad Nwy)
  • National Energy Action - Cymru
  • Swyddfa'r Marchnadoedd Nwy a Thrydan
  • Banciau Bwyd
  • Age Concern
  • Yr Adran Ynni Busnes a Strategaeth Ddiwydiannol
  • Cyflenwyr Ynni a/neu eu Hasiantau Dynodedig (e.e. SWALEC/British Gas)
  • Speakeasy
  • Safleoedd cymharu costau tariff sy'n cael eu cymeradwyo gan Swyddfa'r Marchnadoedd Nwy a Thrydan

Unigolion eraill;

  • Contractwyr, Asiantaethau 3ydd parti sydd wedi'u henwebu/penodi gennych chi

7. Am ba mor hir bydd fy ngwybodaeth i'n cael ei chadw?

Byddwn ni dim ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag y bydd arnon ni ei hangen i ddarparu'r gwasanaeth perthnasol ac i fynd i'r afael ag unrhyw gwestiynau neu gwynion sy'n dod i law am hyn. Byddwn ni'n gwneud hyn am 10 mlynedd.

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.

9. Cysylltu â ni

Os oes unrhyw bryderon gyda chi neu os ydych chi eisiau gwybod rhagor am sut rydyn ni'n trin eich gwybodaeth bersonol, mae modd i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio'r dulliau isod:

Adran Ffyniant a Datblygu, Buddsoddiadau a Grantiau Tai

Tŷ Sardis

Heol Sardis

Pontypridd

CF37 1DU

 

Ffôn: 01443 281136