Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion Priffyrdd a Gofal y Strydoedd
Cyflwyniad
Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu 'brosesu') data personol am unigolion at ddibenion Priffyrdd a Gofal y Strydoedd.
Er ein bod ni wedi ceisio gwneud yr hysbysiad preifatrwydd yma mor glir a chryno â phosibl, mae'n bosibl y bydd y categorïau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu yn amrywio yn dibynnu ar y gwasanaeth rydyn ni'n ei ddarparu. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi yn ymwneud â Phriffyrdd a Gofal y Strydoedd, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.
Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:
Y Rheolwr Data
Y Cyngor yw'r rheolwr data ar gyfer y data personol a gaiff eu prosesu at ddibenion Priffyrdd a Gofal y Strydoedd.
Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolwr o dan gyfeirnod Z4870100.
Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd
Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â'r Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar y canlynol:
Drwy e-bostio: GwasanaethauiGwsmeriaid@rctcbc.gov.uk
Ffôn: 01443 425001
Llythyr: Tŷ Sardis, Heol Sardis, Pontypridd, CF37 1DU
Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud
Mae'r carfannau Priffyrdd a Gofal y Strydoedd yn darparu gwasanaethau rheng flaen uniongyrchol i gwsmeriaid yn y meysydd canlynol:
- Strategaeth y priffyrdd a chynnal a chadw rhwydwaith y priffyrdd, gan gynnwys darpariaeth goleuadau'r stryd a lleoli dodrefn stryd
- Rheoli sbwriel a glendid cyffredinol gan gynnwys gorfodaeth sbwriel neu faw cŵn
- Wardeniaid Cymunedol i roi cymorth i chi gyda chodi unrhyw broblemau / pryderon gofal y strydoedd
- Casglu gwastraff a deunydd i'w ailgylchu a chael gwared arnyn nhw, gan gynnwys casgliadau penodol megis cewynnau/casgliadau â chymorth/lwfans ychwanegol/gwastraff gwyrdd
- Rheoleiddio gorchmynion traffig gan gynnwys mesurau tawelu traffig a darpariaeth diogelwch ar y ffyrdd
- Adeiladu a chynllunio ffyrdd newydd lle mae angen ymgynghori gyda'r cyhoedd
- Draenio tir
- Cynnal a chadw cerbydau'r Cyngor
Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu
Efallai y byddwn ni'n prosesu data personol mewn perthynas â'r unigolion canlynol i ddarparu ein gwasanaethau i chi:
- Preswylwyr
- Busnesau / Sefydliadau
Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu
Efallai y byddwn ni'n prosesu'r categoriau o ddata personol canlynol i ddarparu ein gwasanaethau i chi:
- Enw
- Cyfeiriad
- Cyfeiriad e-bost
- Rhifau ffôn
- Lleoliad unrhyw ddigwyddiad neu lle mae camau i'w cymryd
- Beth yw'r weithred mae rhywun yn gofyn amdani, neu'r mater mae rhywun yn cwyno amdano.
- Pa gamau sy wedi'u cymryd i leihau effaith yr achos
- Pa swyddog / swyddogion sy wedi delio â'r cais
Pam rydyn ni'n prosesu data personol?
Rydyn ni'n prosesu'r data personol i ddarparu ein gwasanaethau i chi. Mae'n bosibl y bydd hyn yn cynnwys ond heb ei gyfyngu i'r gweithgareddau canlynol:
- Darparu gwasanaethau Priffyrdd a Gofal Stryd uniongyrchol i chi.
- Cyflwyno nodiadau atgoffa i chi am gasgliadau a rhybuddion am amhariadau gwasanaeth sy'n effeithio ar eich casgliad.
Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol
O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol yw:
- Rhwymedigaeth Gyfreithiol Erthygl 6 (c) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer rwymedigaeth gyfreithiol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.
- Tasg Gyhoeddus Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.
- Budd sylweddol i'r cyhoedd Erthygl 9 (2)(g) – prosesu sy'n angenrheidiol er budd sylweddol y cyhoedd, ar sail cyfraith undebol neu aelod-wladwriaeth sy'n gyfraneddol i'r nod, yn parchu hanfod hawliau diogelu data ac yn darparu mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau sylfaenol a buddion y person y mae'r data amdano.
Mae'r ddeddfwriaeth sylfaenol, rheoliadau a chanllawiau sy'n ategu hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i:
Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990
http://www.legislation.gov.uk/ukpga/1990/43/pdfs/ukpga_19900043_en.pdf
Y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014
http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2014/12/pdfs/ukpga_20140012_en.pdf
Deddf Priffyrdd 1980
http://www.legislation.gov.uk/ukpga/1980/66/pdfs/ukpga_19800066_en.pdf
Gan bwy neu o ble rydyn ni'n casglu data personol?
Efallai y byddwn ni'n derbyn data personol gan y canlynol:
- Chi, pan fyddwch chi'n cysylltu â Chanolfan Gyswllt y Cyngor, y wefan neu dudalennau'r Cyfryngau Cymdeithasol ac ati
- Wardeiniaid Cymunedol sy'n eich cynorthwyo i gofnodi unrhyw faterion wyneb yn wyneb.
- Swyddogion Gorfodi os bu digwyddiad o ollwng sbwriel, cŵn yn baeddu neu dipio anghyfreithlon.
- Aelodau lleol.
Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?
Mae’n bosibl y byddwn ni'n rhannu'r data personol â’r sefydliadau.
Dim ond y lleiafswm o wybodaeth bersonol sydd ei hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael ei rhannu.
Pwy
|
Diben
|
Adrannau Mewnol y Cyngor
|
- Rhoi cymorth gyda'ch cais / problemau
- I bennu eich cymhwysedd ar gyfer rhai o'n gwasanaethau.
- I brosesu hawliadau / cwynion a wnaed yn erbyn y Cyngor.
- Gweinyddu gorchmynion prynu gorfodol.
|
Contractwyr
|
- At ddibenion ymgynghori / cwynion yn ymwneud â phrosiectau Priffyrdd
|
Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)
|
- Adnabod perchnogion cerbydau
|
Aelodau Etholedig
|
- Rhoi cymorth gyda'ch cais / problemau
|
Sefydliadau Partner:
Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf Morgannwg
Gov.Notify
|
- Rhoi cymorth gyda chasgliadau, e.e. cewynnau
- Darparu nodiadau atgoffa am gasgliadau gwastraff drwy optio mewn.
|
Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
|
- Mewn argyfwng e.e gwaith carthion
|
Proseswyr data
Mae proseswr data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan. Mae ein proseswyr data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig. Does dim modd iddyn nhw wneud unrhyw beth gyda'r data personol oni bai ein bod ni wedi eu cyfarwyddo i wneud hynny. Fyddan nhw ddim yn rhannu'r wybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn ei defnyddio at eu dibenion eu hunain. Byddan nhw'n eu dal yn ddiogel ac yn eu cadw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.
Dyma'r categorïau o brosesyddion data rydyn ni'n eu defnyddio:
- GOSS – Darparwyr Systemau TG
Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol
Bydd data personol yn cael eu cadw a'u diweddaru yn unol â'n rhwymedigaethau ac yn unol â chyfnodau cadw statudol.
Er mwyn dilyn egwyddor storio data Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Dydy'r holl ddata personol ddim yn cael ei gadw. Dim ond data personol sy'n berthnasol sy'n cael ei gadw am y cyfnod cyfan. Caiff unrhyw wybodaeth sy'n amherthnasol yn y tymor hir neu sy'n amherthnasol yn dystiolaethol ei dinistrio yn rhan o arferion busnes arferol.
Eich hawliau yn ymwneud â diogelu data
Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld y data personol y mae'r Cyngor yn ei gadw amdanoch chi.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.
Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data
Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn ein bod ni ddim wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da.
Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â'r Gwasanaethau i Gwsmeriaid yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost;
- E-bost: GwasanaethauiGwsmeriaid@rctcbc.gov.uk
- Ffôn: 01443 425001
- Llythyr: Tŷ Sardis, Heol Sardis, Pontypridd, CF37 1DU
Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol drwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (rhoi sylwadau, canmol a chwyno ar-lein) neu mae modd i chi e-bostio Swyddog Diogelu Data'r Cyngor ar Rheoli.Gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.
Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data
Mae gyda chi hefyd yr hawl i gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Fodd bynnag, rydyn ni'n eich annog i gysylltu â ni yn y lle cyntaf a rhoi'r cyfle inni edrych ar eich pryder a cheisio unioni unrhyw gam.
Mae modd cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy:
- Cyfeiriad: Information Commissioner's Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
- Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
- Gwefan: http://www.ico.org.uk