Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Budd-dal Tai
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau iddyn nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion treth y cyngor. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.
1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud
Fel Cyngor, rydyn ni'n gweinyddu'r cynllun Budd-dal Tai ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Mae gyda ni wybodaeth benodol amdanoch chi, ac rydyn ni'n ei defnyddio i gasglu ac adennill taliadau. Mae hyn yn cynnwys yr angen i brosesu eich gwybodaeth i gysylltu â chi, i wneud budd-dal Tai a Thaliadau Tai yn ôl Disgresiwn i chi, ac i adennill unrhyw ordaliadau Budd-dal Tai wrthych chi. Mae rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni'n defnyddio'ch data personol isod.
|
2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am drigolion y gorffennol a'r presennol sy wedi gwneud ceisiadau am Fudd-dal Tai i'r Cyngor.
Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:
- Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
- Manylion y cartref a'r incwm
- Gwybodaeth ariannol fel tystiolaeth o gynilion a chyfrifon banc ayb
- Manylion cyflogwr a chyflog
- Rhif Yswiriant Gwladol a dyddiad geni
- Gwybodaeth am eich hawl i Fudd-dal Tai - y cyfnod, y swm sy wedi cael ei ddyfarnu ac ati
- Manylion tenantiaeth - cyfnod eich tenantiaeth, eich cytundeb rhent ac ati
|
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Gall yr wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chasglu amdanoch chi ddod o amrywiaeth o wahanol ffynonellau fel sy'n cael eu rhestru isod:
- Gwybodaeth rydych chi'n ei darparu'n uniongyrchol er enghraifft ar ffurflen gais neu drwy ohebiaeth gyda ni
- Gwybodaeth gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) lle maen hi'n ein hysbysu'n uniongyrchol o newid yn eich hawl i fudd-dal nawdd cymdeithasol
- Gwybodaeth gan Refeniw a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) er enghraifft, eich lefel enillion
- Gwybodaeth rydyn ni wedi'i pharatoi wrth i ni ddelio â chi a phan rydyn ni'n cyfrifo'ch hawl i fudd-dal
- Gwybodaeth gan Wasanaethau eraill y Cyngor fel treth y cyngor i sicrhau bod dyfarniadau Budd-dal Tai yn gywir
- Gwybodaeth gan landlordiaid i helpu i weinyddu'ch hawliad
- Gwybodaeth gan Gyflogwyr i sicrhau bod gyda ni'r wybodaeth gywir am eich lefelau enillion
|
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth bersonol yma i weinyddu'r cynllun Budd-dal Tai. Gallai hyn gynnwys:
- Gwirio bod yr wybodaeth rydych chi wedi'i darparu ar eich cais yn gywir
- Asesu eich hawlia
- Adolygu eich hawliad
- Anfon gohebiaeth atoch chi
- Anfon taliadau Budd-dal Tai atoch chi
- Adennill unrhyw ordaliad Budd-dal Tai oddi wrthych chi (ydyn ni angen eu cyfeirio nhw at Hysbysiad Preifatrwydd Dyledion Amrywiol)?
- Dod o hyd i dwyll
|
5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae cyfraith Diogelu Data yn dweud ein bod yn gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol lle mae gyda ni resymau priodol a chyfreithlon dros wneud hynny yn unig.
Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r wybodaeth yma at y diben uchod yw:
- Cyflawni ein dyletswyddau statudol swyddogol a bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol fel Cyngor gweinyddol i'r Adran Gwaith a Phensiynau o dan y ddeddfwriaeth ganlynol:
- Deddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992.
|
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad arall?
O bryd i'w gilydd, byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth bersonol gydag ymgynghorwyr a darparwyr gwasanaethau fel y gallan nhw ein helpu i gyflawni ein dyletswyddau, ein hawliau a'n disgresiwn wrth ddelio â Gostyngiadau Treth y Cyngor. Gall y rhain gynnwys:
Asiantaethau a sefydliadau'r llywodraeth fel:
- Swyddfa'r Cabinet - at ddibenion y Fenter Twyll Genedlaethol
- Gwasanaethau Llys ei Mawrhydi - at ddibenion delio ag apeliadau
- Adran Gwaith a Phensiynau - at ddibenion gweinyddu Budd-dal Tai
Darparwyr Prosesu Taliadau
- Gwasanaeth Clirio Awtomataidd Bancio (BACS) - i weinyddu cyfarwyddiadau a thaliadau debyd uniongyrchol
Cyflenwyr a sefydliadau trydydd parti dibynadwy sy'n darparu gwasanaethau ar ein rhan:
- Cwmnïau argraffu - (MPS Ltd ar hyn o bryd) i argraffu, pacio a phostio dogfennau budd-dal tai
- Darparwyr Meddalwedd - (Capita Software Services Ltd ar hyn o bryd) i gynnal ein systemau Budd-dal Tai a charfan Netsol yn darparu cynnyrch i gynorthwyo wrth bennu cymhwysedd ar gyfer Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn.
- Dadansoddi data - (Datatank Ltd ar hyn o bryd) - at ddibenion adolygu hawl i ostyngiadau a rhyddhad
Gwasanaethau Mewnol y Cyngor:
- Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd talu rhent ac yn gwneud cais am Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn, mae modd i ni rannu eich manylion, gyda'ch caniatâd chi, â charfan Gwasanaethau Cymorth i Bobl y Cyngor, a all cynnig cymorth i chi.
Eraill:
- Landlordiaid, asiantau gosod ac ati
|
7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?
Byddwn ni'n cadw eich gwybodaeth bersonol am 7 mlynedd at ddibenion gweinyddu ac i ddelio ag unrhyw gwestiynau neu gwynion y gallwn ni eu derbyn am hyn. Byddwn ni'n gweithredu fel hyn oni bai bod y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni gadw'ch gwybodaeth am ragor o amser.
|
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
9. Cysylltwch â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:
E-bostio : refeniw@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Ffôn : 01443 425002
Trwy lythyr : Uwchadran Gwasanaethau Ariannol, Tŷ Bronwydd, Y Porth, CF39 9DL
|