Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion y Rhaglen Tracio Teuluoedd Incwm Isel (LIFT)
Cyflwyniad
Mae'r hysbysiad preifatrwydd yma yn esbonio sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ("y Cyngor") yn defnyddio gwybodaeth bersonol yn rhan o'r Rhaglen Tracio Teuluoedd Incwm Isel (LIFT). Mae'n egluro pa wybodaeth rydyn ni'n ei defnyddio, o ble rydyn ni'n ei chael, sut mae'n cael ei dadansoddi a'i pharu, gyda phwy rydyn ni'n ei rhannu, a'ch hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth yna.
Rydyn ni’n defnyddio'r Rhaglen Tracio Teuluoedd Incwm Isel (LIFT) i'n helpu i nodi aelwydydd a allai fod yn gymwys i gael budd-daliadau, cymorth ariannol, gwasanaethau'r Cyngor neu gymorth arall nad ydyn nhw'n ei dderbyn ar hyn o bryd. Mae hyn yn caniatáu inni wneud gwell defnydd o’r wybodaeth sydd eisoes gan y Cyngor i nodi ble y gallai cymorth fod ar gael a, lle bo'n briodol, cysylltu â thrigolion i'w gwneud yn ymwybodol ohono.
Pan fydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio ar gyfer budd-daliad, gwasanaeth neu fath o gymorth penodol, bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu mewn perthynas â sut mae eich data personol yn cael ei ddefnyddio yn yr hysbysiad preifatrwydd gwasanaeth perthnasol.
Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â phrif hysbysiad preifatrwydd y Cyngor.
Y Rheolydd Data
Y Cyngor yw'r rheolwr data ar gyfer y data personol sy'n cael ei brosesu yn rhan o'r Rhaglen Tracio Teuluoedd Incwm Isel (LIFT). Y Cyngor sy'n gyfrifol am benderfynu sut a pham y defnyddir gwybodaeth bersonol o fewn y Rhaglen Tracio Teuluoedd Incwm Isel (LIFT), gan gynnwys y dibenion y cynhelir paru a dadansoddi data ar eu cyfer.
Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru yn rheolwr gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Ei gyfeirnod yw Z4870100.
Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma
Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â'r Gwasanaeth Budd-daliadau.
Drwy e-bostio: CwestiynauBudd-dalTai@rctcbc.gov.uk
Drwy ffonio: 01443 425002
Drwy anfon llythyr at: Gwasanaeth Budd-daliadau, Swyddfeydd y Cyngor, Tŷ Oldway, Porth, CF39 9ST
Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud
Mae'r Cyngor yn defnyddio'r Rhaglen Tracio Teuluoedd Incwm Isel (LIFT) i helpu i nodi aelwydydd a allai fod yn colli allan ar fudd-daliadau, cymorth ariannol, gwasanaethau'r Cyngor neu gymorth arall.
Mae'r Rhaglen Tracio Teuluoedd Incwm Isel (LIFT) yn dwyn ynghyd ac yn dadansoddi gwybodaeth sydd eisoes gan y Cyngor, gan gynnwys gwybodaeth a ddarperir i'r Cyngor gan adrannau'r llywodraeth fel yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Mae'n ein helpu i nodi aelwydydd a allai fodloni'r meini prawf ar gyfer budd-daliadau, gwasanaethau neu gymorth penodol arall.
Nid yw'r wybodaeth a gynhyrchir gan y Rhaglen Tracio Teuluoedd Incwm Isel (LIFT) yn golygu'n awtomatig bod rhywun yn gymwys i gael budd-dal, gwasanaeth neu gymorth penodol. Os bydd aelwyd yn cael ei nodi, bydd gwiriadau priodol yn cael eu cynnal cyn gweithredu ar yr wybodaeth.
Lle bo'n briodol, mae modd i'r gwasanaeth perthnasol yn y Cyngor gysylltu â'r aelwyd er mwyn rhoi gwybod iddyn nhw am y cymorth sydd ar gael. Bydd unrhyw ddefnydd pellach o wybodaeth bersonol ar gyfer y budd-daliad, y gwasanaeth neu'r cymorth penodol hwnnw yn cael ei egluro yn yr hysbysiad preifatrwydd gwasanaeth perthnasol.
Data personol pwy ydyn ni'n eu prosesu?
Bydd yr unigolion y byddwn ni'n prosesu eu data personol yn amrywio yn dibynnu ar y budd-dal, y gwasanaeth neu'r cymorth y mae'r Rhaglen Tracio Teuluoedd Incwm Isel (LIFT) yn cael ei ddefnyddio i helpu i nodi cymhwysedd posibl ar ei gyfer.
Efallai y byddwn ni'n prosesu data personol sy'n ymwneud ag unigolion ac aelwydydd sy'n derbyn budd-daliadau, cymorth ariannol neu gymorth arall sy'n cael ei weinyddu gan y Cyngor.
Mae modd i hyn gynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i:
- Pobl sy'n derbyn Budd-dal Tai, Credyd Cynhwysol a/neu Ostyngiad Treth y Cyngor.
- Plant, partneriaid ac aelodau eraill o aelwyd lle mae eu gwybodaeth yn berthnasol o ran deall amgylchiadau'r aelwyd neu nodi cymhwysedd posibl ar gyfer budd-daliadau, gwasanaethau neu gymorth arall.
Y categorïau data personol rydyn ni'n eu prosesu
Bydd y data personol rydyn ni'n ei brosesu yn amrywio yn dibynnu ar y budd-dal, y gwasanaeth neu'r cymorth y mae'r Rhaglen Tracio Teuluoedd Incwm Isel (LIFT) yn cael ei defnyddio i helpu i nodi cymhwysedd posibl ar ei gyfer. Mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu'r categorïau data personol canlynol:
- Manylion personol, megis enw, cyfeiriad, cod post, dyddiad geni a rhifau cyfeirnod aelwyd.
- Gwybodaeth am y cartref, megis pwy sy'n byw yn y cartref a'u hamgylchiadau.
- Gwybodaeth am fudd-daliadau, lwfansau a chymorth ariannol arall y mae aelodau'r aelwyd yn eu derbyn.
- Gwybodaeth ariannol, megis incwm yr aelwyd, hawl i fudd-daliadau, dyled Treth y Cyngor, ôl-ddyledion a gwybodaeth arall am amgylchiadau ariannol.
- Gwybodaeth am dai, lle bo'n berthnasol i ddeall amgylchiadau’r aelwyd neu'r angen posibl am gymorth.
- Gwybodaeth am gyflogaeth, lle bo'n berthnasol i nodi cymhwysedd posibl ar gyfer cyflogaeth, hyfforddiant neu gymorth arall.
- Gwybodaeth gyfyngedig yn ymwneud ag iechyd neu anabledd, megis gwybodaeth sy'n dangos bod unigolyn yn derbyn budd-dal anabledd neu fudd-dal sy'n gysylltiedig ag iechyd .
- Gwybodaeth a gafodd ei greu drwy ddadansoddi a pharu data personol, megis arwyddion o hawl bosibl i fudd-daliadau, amgylchiadau ariannol neu gymhwysedd posibl ar gyfer gwasanaethau neu gymorth arall.
Pam rydyn ni'n prosesu data personol?
Rydyn ni'n prosesu data personol drwy'r Rhaglen Tracio Teuluoedd Incwm Isel (LIFT) er mwyn ein helpu ni i nodi unigolion ac aelwydydd a allai fod â hawl i gael cymorth ariannol, gwasanaethau'r Cyngor neu gymorth arall, ac elwa ar y rhain. Mae hyn yn cynnwys:
- Dod â gwybodaeth sydd eisoes gan y Cyngor ynghyd a'i dadansoddi er mwyn deall amgylchiadau’r aelwydydd yn well.
- Cynnal gwaith paru a dadansoddi data i nodi unigolion ac aelwydydd a allai fod yn gymwys i gael budd-daliadau, cymorth ariannol, gwasanaethau'r Cyngor neu gymorth arall.
- Nodi ble y mae modd i breswylwyr fod yn colli allan ar y cymorth sydd ar gael ar eu cyfer.
- Helpu'r Cyngor i nodi cyfleoedd i ddarparu cymorth yn gynharach, gan gynnwys lle mae modd i aelwyd fod yn profi anhawster ariannol.
- Darparu gwybodaeth i wasanaethau perthnasol yn y Cyngor am unigolion neu aelwydydd a allai elwa ar wasanaeth neu fath penodol o gymorth, er mwyn cynnal gwiriadau priodol a, lle bo'n briodol, cysylltu â nhw.
- Monitro canlyniadau gweithgaredd y Rhaglen Tracio Teuluoedd Incwm Isel (LIFT) er mwyn ein helpu ni i ddeall a yw ein hymgyrchoedd a'n hymyriadau yn effeithiol.
Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol
Yn unol â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR), mae ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol drwy'r Rhaglen Tracio Teuluoedd Incwm Isel (LIFT) fel â chanlyn:
- Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (1)(e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r Cyngor.
Bydd y ddeddfwriaeth a'r pwerau statudol sy'n cynorthwyo'r prosesu yn amrywio yn dibynnu ar y budd, y gwasanaeth neu'r gefnogaeth y mae'r Rhaglen Tracio Teuluoedd Incwm Isel (LIFT) yn cael ei ddefnyddio ar ei gyfer. Bydd y Cyngor yn sicrhau bod sail gyfreithiol briodol a phŵer statudol cyn defnyddio data personol at ddiben penodol.
Gan bwy neu o ble rydyn ni'n cael data personol
Bydd y data personol a ddefnyddiwn yn amrywio yn dibynnu ar y budd-dal, y gwasanaeth neu'r gefnogaeth y mae'r Rhaglen Tracio Teuluoedd Incwm Isel (LIFT) yn cael ei ddefnyddio i helpu i nodi cymhwysedd posibl ar ei gyfer.
Efallai y byddwn ni'n derbyn data personol gan y canlynol:
- Gwybodaeth sydd eisoes gan y Cyngor mewn cysylltiad â budd-daliadau, cymorth ariannol neu wasanaethau neu gymorth eraill sy'n cael eu darparu i chi neu eich aelwyd.
- Adrannau’r llywodraeth a sefydliadau’r sector cyhoeddus, gan gynnwys yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), lle mae gwybodaeth wedi’i darparu i’r Cyngor a lle mae ei defnydd yn cael ei ganiatáu gan y gyfraith.
- Gwybodaeth gafodd ei greu drwy'r paru a'r dadansoddi a gynhaliwyd yn rhan o'r Rhaglen Tracio Teuluoedd Incwm Isel (LIFT), megis arwyddion o hawl posibl i fudd-daliadau, amgylchiadau ariannol neu gymhwysedd posibl ar gyfer gwasanaethau neu gymorth arall.
Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?
Bydd gwasanaethau’r Cyngor rydyn ni’n rhannu data personol â nhw’n amrywio yn dibynnu ar y budd-dal, y gwasanaeth neu’r cymorth y mae'r Rhaglen Tracio Teuluoedd Incwm Isel (LIFT) yn cael ei ddefnyddio i helpu i nodi cymhwysedd posibl ar ei gyfer.
Efallai y byddwn ni'n rhannu data personol gyda'r canlynol:
- Gwasanaethau perthnasol y Cyngor, lle mae'r Rhaglen Tracio Teuluoedd Incwm Isel (LIFT) yn nodi y mae modd i unigolyn neu aelwyd fod yn gymwys i gael budd-dal, gwasanaeth neu fath penodol o gymorth, ac elwa arnyn nhw.
Byddwn ni ond yn rhannu'r lleiafswm o wybodaeth bersonol sydd ei hangen at y diben.
Pan fydd data personol yn cael ei drosglwyddo i wasanaeth Cyngor ar gyfer budd-dal, gwasanaeth neu fath o gymorth penodol, bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu mewn perthynas â sut mae'r gwasanaeth hwnnw'n defnyddio'r wybodaeth yn hysbysiad preifatrwydd y gwasanaeth perthnasol.
Proseswyr Data
Prosesydd data yw cwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan. Dim ond yn ôl ein cyfarwyddiadau y mae ein proseswyr data yn gweithredu a rhaid iddyn nhw gadw data personol yn ddiogel.
Y prosesydd data rydyn ni'n ei ddefnyddio i ddarparu a chynorthwyo'r Rhaglen Tracio Teuluoedd Incwm Isel (LIFT) yw:
- Polisi ar Waith – yn darparu llwyfan y Rhaglen Tracio Teuluoedd Incwm Isel (LIFT) ac yn cynnal paru data, dadansoddi a phrosesu cysylltiedig ar ran y Cyngor.
Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?
Bydd hyd yr amser y bydd data personol yn cael ei gadw yn dibynnu ar sut y caiff ei ddefnyddio.
Dim ond cyhyd ag y bo'n ofynnol at ddibenion y Rhaglen Tracio Teuluoedd Incwm Isel (LIFT) y bydd data personol a brosesir o fewn y Rhaglen Tracio Teuluoedd Incwm Isel (LIFT) yn cael ei gadw, a hynny yn unol â threfniadau cadw cytunedig y Cyngor.
Pan fydd gwybodaeth a nodwyd drwy'r Rhaglen Tracio Teuluoedd Incwm Isel (LIFT) yn cael ei defnyddio gan wasanaeth Cyngor ar gyfer budd-dal, gwasanaeth neu fath o gymorth penodol, caiff ei chadw yn unol â threfniadau cadw'r gwasanaeth hwnnw. Mae rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu yn yr hysbysiad preifatrwydd gwasanaeth perthnasol.
Eich hawliau o ran diogelu data
Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i weld data personol mae'r Cyngor yn ei gadw amdanoch chi.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ynghylch eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w harfer nhw.
Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data
Os oes gyda chi bryder ynghylch y modd mae eich data wedi cael eu defnyddio, mae gyda chi'r hawl i gysylltu â'r Cyngor i godi cwyn.
Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â'r Gwasanaeth Budd-daliadau yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.
- Drwy e-bostio: CwestiynauBudd-dalTai@rctcbc.gov.uk
- Drwy ffonio: 01443 425002
- Drwy anfon llythyr at: Gwasanaeth Budd-daliadau, Swyddfeydd y Cyngor, Tŷ Oldway, Porth, CF39 9ST
Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostio Swyddog Diogelu Data'r Cyngor drwy'r Garfan Rheoli Gwybodaeth: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk
Eich hawl i gysylltu â charfan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i leisio cwyn ynghylch diogelu data
Mae gyda chi'r hawl hefyd i gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG) i godi cwyn os ydych chi'n anfodlon ar y modd rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.
Mae modd cysylltu â'r SCG fel a ganlyn:
· Cyfeiriad: Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
· Rhif y llinell gymorth: 0303 123 1113
· Gwefan: https://cy.ico.org.uk