Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Ardrethi Annomestig (NDR).
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Ardrethi Annomestig (NDR). Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma a hefyd hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor
1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni’n ei wneud.
A ninnau'n Awdurdod Bilio ar gyfer Ardrethi Annomestig, rydyn ni'n cadw gwybodaeth benodol amdanoch chi rydyn ni'n ei defnyddio i weinyddu a chasglu Ardrethi Annomestig. Mae hyn yn cynnwys yr angen i brosesu eich gwybodaeth i gysylltu â chi, cyfrifo'ch atebolrwydd a chasglu unrhyw ordaliadau Ardrethi Annomestig wrthych chi. Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut rydyn ni'n defnyddio'ch data personol yn cael ei darparu isod.
|
2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am drigolion y gorffennol a'r presennol sy'n agored i dalu Ardrethi Annomestig yn y Fwrdeistref Sirol.
Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:
-
Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.
-
Manylion ariannol fel rhif cyfrif banc os ydych chi'n talu Ardrethi Annomestig trwy Ddebyd Uniongyrchol.
-
Mewn rhai achosion, bydd y Cyngor yn defnyddio gwybodaeth am eich busnes neu sefydliad er mwyn cefnogi cais am gymorth neu ryddhad ardrethi.
|
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Gall yr wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chasglu amdanoch chi ddod o amrywiaeth o ffynonellau gwahanol fel y rhai sy'n cael eu rhestru isod:
-
Gwybodaeth rydych chi'n ei darparu'n uniongyrchol er enghraifft ar ffurflen gais neu drwy ohebiaeth gyda ni
-
Gwybodaeth sy'n cael ei darparu gan asiantaethau eraill y llywodraeth, megis Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA).
-
Asiantaethau trydydd sector dibynadwy a sefydliadau megis Cyngor ar Bopeth (os ydy'r sefydliad/asiantaeth yn gweithredu ar eich rhan chi).
-
Gwybodaeth rydyn ni wedi'i pharatoi wrth i ni ddelio â chi.
-
Gwybodaeth gan randdeiliaid megis asiantwyr ardrethi.
-
Gwybodaeth gan Wasanaethau eraill y Cyngor - megis Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, Gwasanaethau Cynllunio a Gwasanaethau'r Priffyrdd er mwyn sicrhau bod y Swyddfa Brisio yn cael gwybod am ddatblygiadau a bod y datblygiadau yma'n cael eu nodi ar y rhestr ardrethi lleol.
-
Gwybodaeth sy'n cael ei darparu gan aelod arall o'r cyhoedd e.e. cwyn neu bryder.
|
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth bersonol yma i weinyddu a chasglu Ardrethi Annomestig. Gall hyn gynnwys y canlynol:
-
Anfon hysbysiadau gorchymyn Ardrethi Annomestig
-
Anfon negeseuon atgoffa mewn perthynas â thaliadau
-
Prosesu unrhyw ostyngiadau neu ryddhad ardrethi mae modd i chi wneud cais amdanyn nhw neu rydych chi'n gymwys i'w derbyn
-
Prosesu'ch taliadau e.e. debyd uniongyrchol, cerdyn credyd/debyd, taliadau ag arian parod
-
Adennill unrhyw arian sy'n ddyledus gan ddefnyddio ein pwerau cyfreithiol er enghraifft mynd â chi i'r llys, cyfeirio'r ddyled i'r beilïaid i'w chasglu
-
Delio â chwynion neu bryderon
-
Dod o hyd i dwyll
|
5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol yn unig lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.
Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r wybodaeth yma at y dibenion uchod yw:
|
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad arall?
O bryd i'w gilydd, byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth bersonol gydag ymgynghorwyr a darparwyr gwasanaethau fel bod modd iddyn nhw ein helpu i gyflawni ein dyletswyddau, ein hawliau a'n disgresiwn wrth ddelio ag Ardrethi Annomestig. Mae modd i’r rhain gynnwys:
Gwasanaethau eraill y Cyngor, gan gynnwys
-
Adran y Priffyrdd
-
Yr Adran Gynllunio
-
Asiantaethau a sefydliadau'r llywodraeth gan gynnwys:
-
Gwasanaethau Llys ei Mawrhydi - i adennill Ardrethi Annomestig sydd heb eu talu.
-
Tribiwnlys Prisio Cymru - er mwyn cynnal y rhestr brisio eiddo.
-
Swyddfa'r Cabinet - at ddibenion y Fenter Twyll Genedlaethol. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth
Darparwyr Prosesu Taliadau:
Cyflenwyr a sefydliadau trydydd parti dibynadwy sy'n darparu gwasanaethau ar ein rhan:
-
Biwroau olrhain - (sef Experian ar hyn o bryd) er mwyn adennill unrhyw Ardrethi Annomestig sydd heb eu talu.
-
Asiantaethau Gorfodi - (sef Andrew James Enforcement Ltd, Swift Credit Services Ltd ar hyn o bryd) i orfodi gorchmynion llys am Ardrethi Annomestig sydd heb eu talu.
-
Cyfreithwyr - (sef Greenalgh Kerr Ltd ar hyn o bryd) i ddarparu arbenigedd cyfreithiol mewn perthynas â gweithdrefnau methdaliadau er mwyn adennill unrhyw Ardrethi Annomestig sydd heb eu talu
-
Cwmnïau argraffu - (MPS Ltd ar hyn o bryd) i argraffu, pacio a phostio dogfennau Ardrethi Annomestig.
-
Darparwr meddalwedd - (Capita Software Services Ltd ar hyn o bryd) i gynnal ein systemau Ardrethi Annomestig.
|
7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?
Byddwn ni'n cadw eich gwybodaeth bersonol am 6 mlynedd o'r dyddiad mae eich cyfrif yn cael ei thalu'n llawn at ddibenion gweinyddu ac i ddelio ag unrhyw gwestiynau neu gwynion gallwn ni eu derbyn am hyn. Byddwn ni'n gweithredu fel hyn oni bai bod y gyfraith yn ei gwneud hi'n ofynnol i ni gadw'ch gwybodaeth am ragor o amser.
|
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
9. Cysylltu â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:
E-bost: refeniw@rctcbc.gov.uk
Ffôn: 01443 425002
Trwy lythyr: Uwchadran Gwasanaethau Ariannol, Tŷ Bronwydd, Y Porth, CF39 9DL
|