Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Credydwyr (Taliadau)
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Credydwyr (Taliadau). Rydyn ni'n casglu a phrosesu'r wybodaeth yma er mwyn rheoli'r cysylltiadau â gweithwyr. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.
1. Pwy ydyn ni a'r hyn rydyn ni'n ei wneud.
A ninnau'n Adran Taliadau'r Cyngor, rydyn ni'n casglu a chadw gwybodaeth benodol amdanoch chi. Rydyn ni'n defnyddio'r wybodaeth yma i brosesu a gweinyddu taliadau i'ch cyflenwr. Mae hyn yn cynnwys yr angen i brosesu eich gwybodaeth i gysylltu â chi a chyfrif y swm i'ch talu chi am y gwaith sydd wedi'i gyflawni.
Os ydych chi'n dod o dan Gynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS), mae'ch gwybodaeth hefyd yn cael ei defnyddio i gyfrif a thalu trethi i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar eich rhan.
Mae rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni'n defnyddio'ch data personol isod.
|
2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am gyflenwyr.
Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:
- Enw, cyfeiriad, rhif ffôn, a chyfeiriad e-bost.
- Manylion adnabod gan gynnwys rhif TAW, rhif yswiriant gwladol a Chyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
- Manylion eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu
- Gwybodaeth talu gan gynnwys TAW
|
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Rydyn ni'n cael peth o'r wybodaeth gennych chi'n uniongyrchol, er enghraifft manylion ynghylch newid cyfrif banc/cymdeithas adeiladu pan fo'n digwydd.
Mae adrannau'r Cyngor yn darparu'r wybodaeth arall wrth wneud cais i sefydlu cyflenwr newydd, ac mae'r ffurflen creu credydwr yn cael ei chwblhau gan yr adran sy'n defnyddio'r wybodaeth rydych chi wedi'i rhoi i'r adran wreiddiol.
- Mae gwybodaeth bersonol yn cynnwys enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhif yswiriant gwladol
|
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Byddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol er mwyn gwneud y canlynol :
- Eich talu chi yn ôl yr anfoneb
- Talu'ch trethi i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi os ydych chi'n rhan o Gynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS)
- Cydymffurfio â goblygiadau cyfreithiol
Yn achlysurol, byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth bersonol â chyrff llywodraethu eraill megis Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) er mwyn cydymffurfio â'n goblygiadau cyfreithiol, er enghraifft cydymffurfio â'r Fenter Twyll Genedlaethol (NFI).
|
5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae angen i ni brosesu'ch data er mwyn eich talu chi ar gyfer y gwaith sydd wedi'i gyflawni.
Mewn rhai achosion, mae angen i ni brosesu'ch data personol i sicrhau ein bod ni'n cydymffurfio â'n goblygiadau cyfreithiol. Er enghraifft, didynnu treth. Bydd eich gwybodaeth bersonol fel arfer yn un o'r canlynol:
- Mae angen i ni brosesu'ch gwybodaeth bersonol i'ch talu chi
- Mae angen i ni brosesu'ch gwybodaeth bersonol er mwyn bodloni ein goblygiadau cyfreithiol gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
|
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?
Mae'n bosibl y bydd angen i ni rannu'ch data personol gyda thrydydd partïon, er mwyn i'r gwasanaeth gyflawni'i ddyletswyddau. Er enghraifft, mae gyda ni oblygiad cyfreithiol i rannu'ch gwybodaeth bersonol â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi os ydych chi'n rhan o Gynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) at dibenion trethi.
Mae sefydliadau eraill rydyn ni'n rhannu gwybodaeth â nhw yn cynnwys:
Adrannau eraill o'r Cyngor:
Sefydliadau eraill:
- Archwiliwr Allanol
- Swyddfa'r Cabinet - at ddibenion y Fenter Twyll Genedlaethol
- Cwmni argraffu, Gwasanaethau Postio ac Argraffu (MPS)
Mae'n bosibl y byddwn ni'n rhannu'ch gwybodaeth bersonol â thrydydd partïon sy'n prosesu data ar ein rhan, fel ein cyflenwyr meddalwedd dibynadwy, er enghraifft CIVICA Financials ac AP Forensics.
|
7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?
Byddwn ni ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag y bydd arnon ni ei angen i weinyddu taliadau ac i ddelio ag unrhyw gwestiynau neu gwynion y gallwn ni eu derbyn am hyn, oni bai fod y gyfraith yn ei gwneud hi'n ofynnol i ni ei chadw am gyfnod hwy. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu ei bod hi'n bosibl i'ch gwybodaeth bersonol gael ei chadw cyhyd ag y byddwch chi'n darparu gwasanaethau i'r Cyngor.
|
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
9. Cysylltwch â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:
Anfonwch ebost at : TaliadauCredydwyr@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Dros y ffôn: 01443 680302, 680390, 680572, 680502
Trwy lythyr: CBSRhCT, Adran y Gyflogres, Oldway House, Heol y Porth, Y Porth, CF39 9ST
|