Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion y Gwasanaeth Adfywio
Cyflwyniad
Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu'n 'prosesu') data personol am unigolion at ddibenion Adfywio.
Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:
Y Rheolydd Data
Y Cyngor yw’r rheolwr data ar gyfer y data personol sy'n cael ei brosesu ar gyfer dibenion Adfywio.
Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolwr. Ei gyfeirnod yw Z4870100.
Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma
Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â'r Gwasanaeth Adfywio;
- E-bost: adfywio@rctcbc.gov.uk
- Drwy ffonio: 01443 281124
- Drwy'r post: Y Garfan Adfywio, Llawr 2, Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd, CF37 4TH
Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud
Mae'r Gwasanaeth Adfywio yn helpu i wella trefi a chymunedau yn Rhondda Cynon Taf. Dyma sut rydyn ni'n gwneud hyn:
- Cyflawni gwelliannau yng nghanol ein trefi
- Helpu busnesau lleol i dyfu a chael mynediad at gyllid
- Manteisio ar gyllid lleol er mwyn rhoi hwb i'r economi leol a chreu swyddi
- Cynnwys trigolion mewn prosiectau adfywio a chefnogi gweithgareddau diwylliannol a threftadaeth
Data personol pwy rydyn ni'n eu prosesu?
Rydyn ni'n prosesu data personol mewn perthynas ag unigolion sy'n cysylltu â'r Gwasanaeth Adfywio dros y ffôn, wyneb yn wyneb, ar-lein neu wrth ymgeisio am gyllid.
Y categorïau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu
Efallai y byddwn ni'n prosesu'r categoriau o ddata personol canlynol i ddarparu ein gwasanaethau:
- Manylion cyswllt – enw, cyfeiriad, cod post, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn
- Gwybodaeth ariannol - manylion cyfrif banc, cyfriflenni, prisiadau eiddo, tystiolaeth incwm, cynilion a gwariant
- Dogfennau'r Gofrestrfa Tir, gweithredoedd eiddo a manylion morgais er mwyn profi perchnogaeth eiddo
- Prawf o forgais hunan-adeiladu neu forgais adeiladu ar ddewis sy wedi'i gymeradwyo gan fanc neu gymdeithas adeiladu
- Prawf o warantî hunan-adeiladu arbenigol neu warantî adeiladu ar ddewis
- Prydles eiddo
- Prawf Adnabod Cenedlaethol megis Cyfeirnod Treth Unigryw Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (UTR)
- Cytundeb Cyflogaeth / P45
- Data Treth y Cyngor a Threthi Busnes
- Bil Cyfleustodau, Cofrestru ar y Gofrestr Etholiadol
- Eich cysylltiad/perthynas â Chynghorydd, Prif Swyddog y Cyngor, neu Swyddog Prosiect sy'n prosesu'r cais yma am grant
- Os ydych chi, (neu unrhyw un o'r Partneriaid/Cyfarwyddwyr/Cyd-berchnogion) erioed wedi eich cael yn euog o dwyll neu o unrhyw drosedd arall sy'n ymwneud ag anonestrwydd yn y 7 mlynedd ddiwethaf
- Os ydych chi (neu unrhyw un o'r Partneriaid/Cyfarwyddwyr/Cyd-berchnogion) wedi'ch gwahardd ar hyn o bryd rhag bod yn Gyfarwyddwr Cwmni
Pam rydyn ni'n prosesu data personol?
Mae data personol yn cael eu prosesu at ddibenion adfywio. Mae'n bosibl y bydd hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i'r gweithgareddau canlynol:
- Cynnig cyngor a chyfarwyddyd mewn perthynas â'r grantiau sydd ar gael a mathau eraill o gymorth busnes.
- Asesu, cymeradwyo a gwneud taliadau sy'n ymwneud â cheisiadau am gymorth grant neu gyllid.
- Casglu adborth gan gwsmeriaid sy'n ymwneud â cheisiadau am gyllid
- Ymgysylltu ag unigolion mewn perthynas â phrosiectau adfywio
- Darparu diweddariadau ac adborth mewn perthynas â phrosiectau adfywio
- Llunio adroddiadau er mwyn dangos bod cyllid yn cael ei ddyrannu yn unol â thelerau'r grant.
- Cofnodi'r grant sydd wedi'i ddyfarnu ar y Gronfa Ddata Rheoli Budd-daliadau yn unol â Rheoliadau Rheoli Budd-daliadau 2022.
- Cysylltu â chi am adborth er mwyn helpu i wella'r gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig.
- Cysylltu â chi er mwyn hyrwyddo'r gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig ac unrhyw wasanaethau rydyn ni'n meddwl y byddai o ddiddordeb i chi.
Bwriwch olwg ar ein hysbysiadau preifatrwydd uchod sy’n trafod gwasanaethau unigol i gael rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni'n prosesu eich data ar gyfer pob cynllun rydyn ni'n ei gynnig.
Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol
O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol at ddibenion gwasanaethau Adfywio yw:
- Rhwymedigaeth Gyfreithiol - Erthygl 6(1)(c) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer rhwymedigaeth gyfreithiol sydd wedi'i rhoi i'r rheolwr.
- Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (1)(e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.
Yn unol â Deddf Diogelu Data 2018, rydyn ni'n dibynnu ar yr amod canlynol er mwyn prosesu data troseddwyr
- Atodiad 1, Rhan 2 (6) Statudol a Dibenion y Llywodraeth.
Mae'r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a'r canllawiau sylfaenol sy'n ategu hyn yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:
- Deddf Tai ac Adfywio 2008
- Deddf yr Eglwys yng Nghymru 1914
- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
Gan bwy neu o ble rydyn ni'n cael data personol
Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan unigolion neu sefydliadau yn y categorïau canlynol:
- Ymgeiswyr
- Defnyddwyr Gwasanaeth
- Adrannau Mewnol Eraill y Cyngor
- Awdurdodau Lleol eraill
- Chwiliad y Gofrestrfa Tir
- Chwiliad Tŷ'r Cwmnïau
- Ymgynghoriadau / Arolygon / Deisebau
- Cyfryngau cymdeithasol
- Sefydliadau cyhoeddus eraill gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Bwrdd Iechyd Lleol, Adran Waith a Phensiynau
- Sefydliadau eraill y sector preifat gan gynnwys cyfreithwyr y testun data, darparwyr morgais, asiantau neu gyflogwyr, landlordiaid preifat neu gymdeithasol
Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?
Mae’n bosibl y byddwn ni'n rhannu'r data personol â’r sefydliadau/unigolion allweddol at ddibenion Adfywio:
Dim ond y lleiafswm o wybodaeth bersonol sy'n angenrheidiol ar gyfer y diben fydd yn cael ei rhannu.
|
Pwy
|
Diben
|
|
Adrannau Mewnol y Cyngor
- Cynllunio (gan gynnwys Gorfodi)
- Rheoli Adeiladu
- Eiddo
- Adran Gyllid
- Cyfreithiol
- Cyfathrebu
- Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned
- Priffyrdd, Gofal y Strydoedd a Thrafnidiaeth
|
- At ddibenion asesu. cymeradwyo, monitro a thalu grant.
- At ddibenion datblygu a darparu prosiectau adfywio.
|
|
Partneriaid allanol sydd wedi'u comisiynu gan Gyngor Rhondda Cynon Taf er mwyn darparu mewn perthynas â phrosiectau adfywio -
- Syrfewyr Meintiau Annibynnol
- Ymgynghorwyr
|
- Darparu unrhyw gyngor mewn perthynas â gwybodaeth ariannol sydd wedi'i darparu gan yr ymgeisydd.
- Cyflawni'r gwaith maen nhw wedi’u penodi i’w gyflawni.
|
|
Gweinyddwyr
|
- Hwyluso gwaith adhawlio'r grant os fo'r busnes yn ymddiddymu / mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
|
|
Llywodraeth Cymru
|
- Adrodd ar allbynnau a deilliannau yn unol â thelerau ac amodau ariannu.
|
|
Llywodraeth y Deyrnas Unedig
|
- Cofnodi categorïau penodol dyraniad grant ar y Gronfa Ddata Rheoli Budd-daliadau.
|
|
Unigolion eraill megis:
Cynghorwyr Lleol, Aelodau'r Senedd, Aelodau Seneddol
|
- Darparu cyngor a chyfarwyddyd wrth ymateb i ymholiadau.
|
Prosesyddion Data
Mae proseswr data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan. Mae ein proseswyr data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig. Does dim modd iddyn nhw wneud unrhyw beth gyda'r data personol oni bai ein bod ni wedi eu cyfarwyddo nhw i wneud hynny. Fyddan nhw ddim yn rhannu'r data personol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn eu defnyddio at eu dibenion eu hunain. Byddan nhw'n dal y data yn ddiogel ac yn eu cadw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.
Y categorïau proseswyr data rydyn ni'n eu defnyddio at ddibenion adfywio yw:
- Cyflenwyr TG
Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?
Byddwn ni dim ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag y bydd arnon ni ei hangen i ddarparu'r gwasanaeth perthnasol ac i fynd i'r afael ag unrhyw gwestiynau neu gwynion sy'n dod i law am hyn. Byddwn ni'n gwneud hyn am 10 mlynedd.
Yn unol â'r egwyddor storio data sydd wedi'i nodi yn y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Dydy'r holl ddata personol ddim yn cael eu cadw. Dim ond data personol sy'n berthnasol rydyn ni'n dal gafael arnyn nhw am y cyfnod cyfan. Caiff unrhyw wybodaeth sy'n amherthnasol yn y tymor hir neu sy'n amherthnasol yn dystiolaethol ei dinistrio yn rhan o arferion busnes arferol.
Eich hawliau'n ymwneud â diogelu data
Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn ei gadw amdanoch chi.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ynghylch eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w harfer nhw.
Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data
Os oes gyda chi bryder ynghylch y modd mae eich data wedi cael eu defnyddio, mae gyda chi'r hawl i gysylltu â'r Cyngor i godi cwyn.
Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â'r Gwasanaethau Adfywio yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.
- E-bost: adfywio@rctcbc.gov.uk
- Rhif ffôn: 01443 281124
- Drwy'r post: Y Garfan Adfywio, Llawr 2, Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd, CF37 4TH
Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostiwch Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.
Eich hawl i gysylltu â charfan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i leisio cwyn ynghylch diogelu data
Mae gyda chi'r hawl hefyd i gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG) i godi cwyn os ydych chi'n anfodlon â'r modd rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.
Mae modd cysylltu â'r SCG fel a ganlyn:
- Cyfeiriad: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF
- Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
- Gwefan: https://cy.ico.org.uk/