Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Dyledion Amrywiol
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau iddyn nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion dyledion amrywiol. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor
1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud
Efallai bydd tâl yn cael ei godi ar rai o'r nwyddau a'r gwasanaethau mae'r Cyngor yn eu darparu i chi. Er enghraifft, os ydych chi'n rhentu rhandir oddi wrthyn ni neu'n defnyddio ein gwasanaethau gofal.
Pan fydd gwasanaethau'n codi tâl, mae gyda ni ddyletswydd gyfreithiol i adennill y costau yma oddi wrthych chi. Mae'r rhain yn cael eu galw'n 'Ddyledion Amrywiol'.
Mae gyda'r Cyngor garfan ganolog sy'n gyfrifol am adennill y ffioedd yma ar ran gwasanaethau eraill yn y Cyngor. Mae rhagor o wybodaeth am sut mae'r cyngor yn defnyddio gwybodaeth bersonol i adennill y costau i'w gweld yn yr hysbysiad yma.
|
2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am gwsmeriaid y gorffennol a'r presennol sy wedi cael gwasanaeth mae modd codi tâl ei gyfer gan y Cyngor.
Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:
- Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
- Manylion ariannol fel rhif cyfrif banc os ydych chi'n talu trwy Ddebyd Uniongyrchol
- Manylion am y gwasanaeth a oedd wedi cael ei ddarparu i chi h.y. dyddiadau'r gwasanaeth, lleoliad y gwasanaeth
- Gwariant y cartref os oes gyda chi ôl-ddyledion ac rydych chi wedi gwneud trefniadau talu arbennig gyda'r Cyngor
- Manylion am eich cyflogwr ac enillion os oes gyda chi ôl-ddyledion er mwyn gallu adennill y ddyled yn uniongyrchol o'ch cyflog
|
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Gall yr wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chasglu amdanoch chi ddod o amrywiaeth o ffynonellau gwahanol fel y rhai sy'n cael eu rhestru isod:
- Gwybodaeth rydych chi wedi'i darparu'n uniongyrchol er enghraifft pan fyddwch chi'n cofrestru am wasanaeth mae modd ailhawlio tâl ar ei gyfer
- Gwybodaeth rydyn ni'n ei pharatoi wrth i ni lunio'r anfoneb ac adennill yr arian
- Gwybodaeth gan wasanaethau eraill y Cyngor - er mwyn gallu llunio'r anfoneb ac adennill arian
- Gwybodaeth sy'n cael ei darparu gan sefydliad trydydd parti dibynadwy yr ydyn ni'n gweithio'n agos gyda nhw neu sy'n darparu gwasanaeth ar ein rhan e.e. Adran Gwaith a Phensiynau, Asiantaethau Gorfodi, Llysoedd
|
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth bersonol yma i weinyddu a chasglu dyledion amrywiol. Gall hyn gynnwys y canlynol:
- Llunio'r anfoneb
- Anfon nodyn atgoffa atoch chi a chymryd camau i adennill yr arian os dydych chi ddim yn talu
- Gwneud asesiad modd os ydych chi'n cael anhawster talu
- Adennill unrhyw arian sy'n ddyledus gan ddefnyddio ein pwerau cyfreithiol er enghraifft mynd â chi i'r llys, cyfeirio'r ddyled i'r beilïaid i'w chasglu
- Cymryd taliadau yn uniongyrchol wrth eich cyflogwr neu eich budd-dal nawdd cymdeithasol lle mae gyda ni orchymyn llys sy'n ein galluogi i wneud hynny
- Delio â chwynion neu bryderon
- Adennill arian sy'n ddyledus i chi o wasanaethau eraill y Cyngor
|
5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae cyfraith Diogelu Data yn dweud ein bod yn gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol lle mae gyda ni resymau priodol a chyfreithlon dros wneud hynny yn unig.
Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r wybodaeth yma at y dibenion uchod yw:
- Ein rhwymedigaeth gyfreithiol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a Deddf Nawdd Cymdeithasol a Gweinyddu 1992 i brosesu eich gwybodaeth bersonol at ddibenion casglu dyledion amrywiol a gordaliadau budd-dal tai
|
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad arall?
O bryd i'w gilydd, byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth bersonol gydag ymgynghorwyr a darparwyr gwasanaethau fel y gallan nhw ein helpu i gyflawni ein dyletswyddau, ein hawliau a'n disgresiwn wrth ddelio â dyledion amrywiol.
Er enghraifft:
Gwasanaethau Mewnol y Cyngor fel y gallwn ni lunio'r anfoneb ar gyfer y gwasanaeth mae modd ailhawlio tâl ar ei gyfer ac adennill y ddyled.
Asiantaethau a sefydliadau'r llywodraeth fel:
- Gwasanaethau Llys ei Mawrhydi - i adennill dyledion / anfonebau sydd heb eu talu
- Adran Gwaith a Phensiynau - i adennill gordaliadau budd-daliadau tai / tynnu arian yn uniongyrchol o fudd-daliadau nawdd cymdeithasol
- Swyddfa'r Cabinet - at ddibenion y Fenter Twyll Genedlaethol
Darparwyr Prosesu Taliadau:
- Gwasanaeth Clirio Awtomataidd Bancio (BACS) - i weinyddu cyfarwyddiadau a thaliadau debyd uniongyrchol
Cyflenwyr a sefydliadau trydydd parti dibynadwy sy'n darparu gwasanaethau ar ein rhan:
- Asiantaethau Gorfodi - (Andrew James Enforcement Ltd, Marston recovery ar hyn o bryd) i orfodi gorchmynion llys am ddyledion sydd heb eu talu
- Cwmnïau argraffu - (MPS Ltd ar hyn o bryd) i argraffu, pacio a phostio anfonebau a dogfennau dyledwyr
Eraill:
- Eich cyflogwr - i adennill arian sy'n ddyledus yn uniongyrchol wrth eich cyflogwr lle mae Gorchymyn Llys
|
7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?
Byddwn ni'n cadw eich gwybodaeth bersonol am 6 mlynedd o'r dyddiad mae eich dyled yn cael ei thalu'n llawn at ddibenion gweinyddu ac i ddelio ag unrhyw gwestiynau neu gwynion gallwn ni eu derbyn am hyn. Byddwn ni'n gweithredu fel hyn oni bai bod y gyfraith yn ei gwneud hi'n ofynnol i ni gadw'ch gwybodaeth am ragor o amser.
|
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael mynediad i'r wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.
Edrychwch ar fanylion pellach am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw
9. Cysylltwch â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:
E-bostio: refeniw@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Ffôn: 01443 425008
Trwy lythyr: Director of Finance & Digital Services, Oldway House, Porth, CF39 9ST