Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Awdurdod Arweiniol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Cyflwyniad

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu 'brosesu') data personol am unigolion, ac yntau'n awdurdod arweiniol ar gyfer dyraniad de-ddwyrain Cymru o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Er ein bod ni wedi ceisio gwneud yr hysbysiad preifatrwydd yma mor glir a chryno â phosibl, mae'n bosibl y bydd y categorïau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu yn amrywio yn dibynnu ar ganllawiau monitro gan Lywodraeth San Steffan.

Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:

  • Hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor
  • Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU - GOV.UK (www.gov.uk)

Y Rheolwr Data

Y Cyngor yw'r rheolwr data ar gyfer y data personol a gaiff eu prosesu at ddibenion Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn rheolwr o dan gyfeirnod Z47870100.

Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â'r [Gwasanaeth Adfywio]:

E-bost: CFfG.DEDDWYRAINCYMRU@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 281122

Anfon llythyr: Gwasanaethau Adfywio, Heol Sardis, Pontypridd, CF37 1DU

 Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn ganolog i agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU. Bydd y gronfa yn darparu cyllid ar gyfer buddsoddiadau lleol tan fis Mawrth 2025.  Diben y gronfa yw annog trigolion i ymfalchïo yn eu cymunedau lleol a chynnig cyfleoedd bywyd gwell i bobl trwy fuddsoddi mewn cymunedau a chefnogi busnesau, pobl a sgiliau.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yw'r awdurdod arweiniol dynodedig ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn ne-ddwyrain Cymru. Bydd yn derbyn dyraniad cyllid yr ardal ac yn ymgymryd â rheolaeth strategol o’r gronfa ar ran y 10 awdurdod lleol yn ne-ddwyrain Cymru.

A ninnau'r awdurdod arweiniol, byddwn ni'n ymrwymo i femorandwm cyd-ddealltwriaeth ffurfiol gyda Llywodraeth y DU, yn derbyn ac yn dosbarthu dyraniad cyllid yr ardal i bartneriaid awdurdodau lleol ac yn cyflawni gofynion monitro ac adrodd ariannol a chyflawniad rheolaidd y gronfa. 

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

A ninnau'r awdurdod arweiniol ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu data personol mewn perthynas â'r canlynol

  • Buddiolwyr y gronfa. (Unigol/Busnes/Staff)

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

A ninnau'r awdurdod arweiniol ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu'r categorïau canlynol o ddata personol

Unigolion

  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
  • Manylion personol, gan gynnwys dyddiad geni, rhif yswiriant gwladol a rhif cyflogres.
  • Data ariannol y gyflogres
  • Amgylchiadau personol unigol gan gynnwys profiad cyflogaeth a chyrhaeddiad addysgol.

Busnesau

  • Rhif Cofrestru'r Cwmni
  • Enwau, rhifau ffôn a chyfeiriad e-bost gweithwyr
  • Data ariannol y gyflogres
  • Manylion eich cyfrif banc

Pam rydyn ni'n prosesu data personol?

A ninnau'r awdurdod arweiniol ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, fyddwn ni'n prosesu'r data personol. Mae'n bosibl y bydd hyn yn cynnwys ond heb ei gyfyngu i'r gweithgareddau canlynol:

  • Prosesu taliadau grant i awdurdodau lleol yn ne-ddwyrain Cymru.
  • Cwblhau gwiriadau monitro i sicrhau bod y cyllid sydd wedi'i ddyrannu'n cael ei wario yn unol â chytundeb cyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
  • Gwirio allbynnau a deilliannau'r prosiect
  • Darparu adroddiadau cryno i'r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau
  • Rhannu data â phartneriaid 3ydd parti, sydd wedi'u comisiynu gan Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, i gwblhau gwerthusiad o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol

O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol yw;

  • Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.

Mae'r ddeddfwriaeth sylfaenol, rheoliadau a chanllawiau sy'n ategu hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i; 

  • Deddf Lleoliaeth 2011
  • Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Gan bwy neu o ble rydyn ni'n casglu data personol?

Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan unigolion neu sefydliadau yn y categorïau canlynol:

  • Awdurdodau Lleol yn ne-ddwyrain Cymru sy'n destun cyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?

Mae'n bosibl y byddwn ni'n rhannu'r data personol gyda'r sefydliadau allweddol canlynol i gyflawni rhwymedigaethau'r Cyngor fel yr awdurdod arweiniol ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. 

Dim ond y lleiafswm o wybodaeth bersonol sydd ei hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael ei rhannu. 

Pwy 

Diben

Llywodraeth DU

  • Yr Adfan Ffyniant Bro, Tai a Chymundeau

Dibenion Monitro a Gwerthuso

Adrannau eraill y Cyngor:

• Cyllid 

Cyhoeddi taliadau grant Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Parteriaid Gwerthuso

  • Cwmni BMG Research

Mae gofyn i'r Awdurdod Arweiniol rannu data gyda phartneriaid gwerthuso sydd wedi'u comisiynu gan Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol? 

Rydyn ni'n cadw data personol sydd wedi’i gynnwys yng nghofnodion Cynllun Buddsoddi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU am:

Faint o amser

Rheswm

Bydd data personol yn cael ei gadw am hyd at 7 mlynedd o'r adeg y caiff Cynlluniau Buddsoddi eu cymeradwyo. Mae disgwyl i hyn fod ym mis Ionawr 2030.

Gofyniad wedi'i osod gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau 

Er mwyn dilyn egwyddor storio data Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.  Dydy'r holl ddata personol ddim yn cael ei gadw. Dim ond data personol sy'n berthnasol i'r cofnod sy'n cael ei gadw am y cyfnod cadw cyfan. Mae gwybodaeth nad oes iddi werth hirdymor neu dystiolaethol yn cael ei dinistrio yn ôl y drefn arferol. 

Eich hawliau yn ymwneud â diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn ei gadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data

Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn ein bod ni ddim wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da. 

Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â'r Gwasanaethau Adfywio yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.

  • E-bost: CFfG.DEDDWYRAINCYMRU@rctcbc.gov.uk
  • Ffôn: 01443 281122
  • Neu trwy ysgrifennu at: Gwasanaethau Adfywio, Heol Sardis, Pontypridd, CF37 1DU

Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostiwch Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.

Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data

Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

Mae modd cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:           

  • Cyfeiriad: Information Commissioner's Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113

Gwefan: https://www.ico.org.uk