Skip to main content
Access and Inclusion 

Hysbysiad Preifatrwydd Penodol i'r Gwasanaeth

Sut rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. Wrth i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.

Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma ar y cyd â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1.    Pwy ydyn ni a'r hyn rydyn ni'n ei wneud

Mae'r Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant yn gweithio gyda phlant a phobl ifainc sydd ag anghenion addysgol arbennig neu sy'n ddisgyblion agored i niwed, ac yn rhoi cymorth iddyn nhw.

Ein nod yw sicrhau bod plant a phobl ifainc sydd ag anghenion addysgol arbennig neu rwystrau i ddysgu yn cael cyfleoedd i gyflawni'u potensial mewn amgylchedd cefnogol sy'n eu paratoi ar gyfer bywyd fel oedolyn ac yn sicrhau:

  • eu bod nhw'n iach
  • eu bod nhw'n aros yn ddiogel
  • eu bod nhw'n mwynhau bywyd ac yn llwyddo
  • eu bod nhw'n gwneud cyfraniad cadarnhaol
  • eu bod nhw'n cyflawni llesiant economaidd

Mae'r gwasanaeth yn darparu 3 maes allweddol o gymorth:

  • Gwasanaeth Seicoleg Addysg (sy'n cynnwys y garfan Plant sy'n Derbyn Gofal)

Mae'r Gwasanaeth Seicoleg Addysg yn gweithio gyda phlant a phobl ifainc er mwyn cefnogi eu datblygiad, llesiant, gwytnwch, dysgu a chyflawniad mewn ystod o sefyllfaoedd a lleoliadau. Maen nhw'n defnyddio amrywiaeth o ddulliau gweithredu gydag unigolion, grwpiau, ysgolion a systemau ehangach fel Awdurdodau Lleol a'r gymuned. Mae gweithio mewn partneriaeth gyda rhieni/gwarcheidwaid, teuluoedd a phobl eraill yn bwysig er mwyn sicrhau bod yr un dull gweithredu yn cael ei ddefnyddio gan bawb. Mae Seicolegwyr Addysg yn canolbwyntio ar y plentyn / person ifanc, yn ymdrechu i wrando arno a hyrwyddo hynny. 

  • Gwasanaeth Cynnal Dysgu sy'n cynnwys Dysgu, y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a'r Gwasanaeth Cynnal Ymddygiad

Mae’r gwasanaethau yma'n gweithio mewn partneriaeth gyda phlant a phobl ifainc sydd ag anghenion addysgol arbennig, eu teuluoedd, ysgolion a gweithwyr proffesiynol o asiantaethau eraill er mwyn eu cynorthwyo. Mae’r anghenion yma'n cynnwys nam ar y golwg, nam ar y clyw, anhwylderau ar y sbectrwm awtistig, anawsterau lleferydd ac iaith, anawsterau dysgu cymhleth ac anawsterau dysgu penodol (Dyslecsia) ac Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol. Maen nhw hefyd yn gweithio gyda phlant a phobl ifainc y mae'r Saesneg yn iaith ychwanegol iddyn nhw.

  • Gwasanaeth Cymorth Gweinyddol

Mae'r gwasanaeth yma'n gweithio'n agos gyda'r Seicolegwyr Addysg a'r Gwasanaeth Cynnal Dysgu i ddarparu cymorth gweinyddol ar gyfer ysgolion, rhieni/gwarcheidwaid, disgyblion a gweithwyr proffesiynol eraill mewn perthynas â phlant a phobl ifainc sydd ag anghenion addysgol arbennig.

Paneli Mynediad a Chynhwysiant

Yn rhan o broses penderfynu'r Awdurdod Lleol, mae paneli arbenigol yn cyfarfod i drafod achosion unigol. Mae'r paneli yma bob amser yn cynnwys gweithwyr proffesiynol Mynediad a Chynhwysiant. Fe allan nhw gynnwys gweithwyr proffesiynol eraill hefyd, er enghraifft, Penaethiaid, athrawon arbenigol ac arbenigwyr iechyd. Swyddogaeth y panel yw trafod anghenion addysgol arbennig y plentyn / person ifanc neu'i rwystrau dysgu er mwyn cytuno ar yr ymateb mwyaf addas i ddiwallu'u hanghenion.

(Mae hwn yn drosolwg cyffredinol o'r paneli Mynediad a Chynhwysiant - os oes angen gwybodaeth arnoch chi am banel penodol, yna cysylltwch â'r Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant am ragor o fanylion - gweler Adran 9)

Mae rhagor o fanylion am y gwasanaeth ar gael ar y wefan:- https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/SchoolsandLearning/AccessandInclusiontoEducation/AccessandInclusiontoEducation.aspx

 2.    Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy? 

Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:

Gwybodaeth am yr unigolyn sy'n cael ei atgyfeirio (hynny yw, y plentyn / person ifanc):

  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn
  • Dyddiad geni
  • Rhyw
  • Statws 'Plant sy'n Derbyn Gofal' (os yw'n berthnasol)
  • Gwybodaeth am gyflawniad addysgol (er enghraifft, canlyniadau arholiad), diogelu a llesiant (er enghraifft, pryderon ynglŷn â diogelwch)

Rydyn ni hefyd yn cadw gwybodaeth sy'n ddata 'categori arbennig' - mae hyn yn cynnwys:

  • Gwybodaeth am iechyd (er enghraifft, cyflyrau meddygol, geneteg)
  • Tras Ethnig
  • Crefydd
  • Hil
  • Cyfeiriadedd rhywiol / bywyd rhywiol (dim ond pan fydd yr wybodaeth yma'n cael ei rhoi gan y plentyn / person ifanc)

Gwybodaeth am rieni/gwarcheidwaid neu gynhaliwr y plentyn / person ifanc:

  • Manylion cyswllt (gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost)
  • Dyddiad geni
  • Rhyw

3.    O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth? 

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth gyfredol (a gwybodaeth o'r gorffennol) am blant / pobl ifainc sydd wedi cael eu hatgyfeirio i'r Gwasanaeth am gymorth, arweiniad neu gyngor arbenigol sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig.

Mae'r wybodaeth uchod yn cael ei darparu gan ystod o wasanaethau gan gynnwys:

  • Y plentyn / person ifanc yn uniongyrchol (er enghraifft, yn ystod sesiynau cymorth)
  • Rhieni/gwarcheidwaid (er enghraifft, pan fyddwn ni'n ymgynghori â nhw am atgyfeiriad y plentyn / person ifanc ac yn trafod y cymorth y bydd ei angen ar y plentyn / person ifanc ac ati)
  • Ysgolion (er enghraifft, cynnydd yn y dosbarth, sut mae unrhyw anghenion ychwanegol yn effeithio arno yn yr ysgol, y cymorth sydd ei angen)
  • Gwasanaethau eraill o fewn yr Awdurdod Lleol (er enghraifft, Gwasanaethau i Blant)
  • Gwasanaethau Iechyd, Meddyg Teulu, Ymgynghorwyr (er enghraifft, gwybodaeth am unrhyw ddiagnosis meddygol, anableddau corfforol ac ati)
  • Ysgolion blaenorol y plentyn / person ifanc (er enghraifft, cynnydd yn y dosbarth, sut roedd angen dysgu wedi effeithio arno yn yr ysgol, cymorth a gafodd ei ddarparu)
  • Awdurdodau Lleol Eraill (er enghraifft, ffeil anghenion addysgol arbennig os yw'r plentyn / person ifanc wedi symud i RhCT o'r tu allan i'r ardal)
  • Rydyn ni hefyd yn creu ein gwybodaeth ein hunain wrth ymgysylltu â'r plentyn / person ifanc (er enghraifft, deilliannau panel, asesu, adroddiadau cynnydd, gohebiaeth gyda rhieni/gwarcheidwaid ac asiantaethau).

4.    Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol? 

Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth bersonol yma er mwyn:

  • Nodi, asesu ac adolygu anghenion addysgol arbennig plentyn / person ifanc neu'i rwystrau i ddysgu, a rhoi'r cymorth priodol. Wrth i ni wneud hyn, mae'n bosibl y byddwn ni'n:
    • Adolygu/asesu anghenion addysgol arbennig plentyn / person ifanc.
    • Asesu'r plentyn / person ifanc yn erbyn y meini prawf statudol er mwyn cael datganiad Anghenion Addysgol Arbennig.
    • Cael gwybodaeth gan Feddygon Teulu, y Bwrdd Iechyd Lleol ac ati ynghylch anghenion meddygol y plentyn / person ifanc er mwyn ein helpu ni i gynnal ein hasesiad.
    • Gweithio gyda rhieni/gwarcheidwaid i nodi a chytuno ar y ffordd orau posibl o gynorthwyo'r plentyn / person ifanc.
    • Trefnu cymorth ar gyfer y plentyn / person ifanc yn yr ysgol.
    • Adolygu cynnydd y plentyn / person ifanc yn rheolaidd ac asesu ei gyflawniad.
    • Rhoi cyngor ac arweiniad i'r ysgol ynglŷn â sut y gall gynorthwyo'r plentyn / person ifanc i gyflawni'i botensial.
    • Trafod anghenion addysgol arbennig y plentyn / person ifanc yn y paneli, fforymau a sesiynau cynnig cyngor amrywiol priodol (er enghraifft, panel lleoli, panel Anghenion Addysgol Arbennig, sesiwn gyngor y Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig, fforwm blynyddoedd cynnar).

Nodwch nad yw'r rhestr uchod yn un gynhwysfawr.

5.    Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma? 

Mae cyfraith Diogelu Data yn nodi y cawn ni ddefnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

Dyma ein seiliau cyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol at y dibenion uchod:

Rhwymedigaeth gyfreithiol

  • Cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Addysg 2002 a Chod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2004.
  • Wrth brosesu data sy'n deillio o atgyfeiriadau â chaniatâd, ymgysylltu ac ymyriadau ac ati.

Tasg Gyhoeddus

  • Cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol yn rhinwedd ein swyddogaeth fel corff cyhoeddus.

Caniatâd

  • Gweithwyr proffesiynol arbenigol allanol:

Weithiau, er mwyn i ni wneud penderfyniad gwybodus am asesiad plentyn / person ifanc, efallai y bydd angen i ni gael gwybodaeth gan weithwyr proffesiynol arbenigol allanol megis gweithwyr iechyd preifat a gweithwyr addysgol sydd efallai wedi bod yn gysylltiedig (ac eithrio asesiad statudol).

Pan fydd angen i ni gael y fath wybodaeth gan y gweithwyr proffesiynol arbenigol allanol yma, byddwn ni'n ceisio caniatâd y plentyn / person ifanc / rhiant / gwarcheidwad (fel y bo'n briodol) i wneud hynny.

  • Plant o dan ddwy flwydd oed:

O dan y gyfraith, rhaid i ni gael caniatâd y rhiant/gwarcheidwad ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â phlant o dan ddwy flwydd oed.

6.    Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall? 

Er mwyn i'r Gwasanaeth ymgymryd â'i ddyletswyddau mewn perthynas â rhoi cymorth yn unol â chyfraith addysg bresennol, mae'n ofynnol i ni rannu gwybodaeth â'r canlynol:

Gwasanaethau eraill y Cyngor:

  • Gweithwyr proffesiynol y Gwasanaethau Cymuned a'r Gwasanaethau i Blant (er enghraifft, gweithwyr cymdeithasol)
  • Gweithwyr proffesiynol y Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant (er enghraifft, athrawon arbenigol)
  • Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc
  • Asiantau/asiantaethau wedi'u comisiynu (er enghraifft, Seicolegwyr Addysg Locwm, therapyddion lleferydd preifat, ffisiotherapyddion preifat ac ati)
  • Paneli apeliadau (er enghraifft, gwaharddiadau ysgol)

Sefydliadau eraill:

  • Ysgolion
  • Gwasanaethau Eirioli (er enghraifft, SNAP Cymru)
  • Gwasanaethau Iechyd (er enghraifft, Meddyg Teulu, Ymgynghorwr)
  • Awdurdodau Lleol eraill
  • Yr Heddlu
  • Gyrfa Cymru
  • Tribiwnlysoedd (er enghraifft, Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru – TAAAC)

Os yw amgylchiadau yn codi sy'n ymwneud â phryderon am lesiant a diogelwch plentyn / person ifanc, fe all fod yn angenrheidiol i rannu gwybodaeth heb yn wybod i'r rhiant/gwarcheidwad neu heb ei ganiatâd.

7.    Am faint o amser bydd fy ngwybodaeth yn cael ei chadw? 

Yn unol â pholisi cadw'r Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant, rydyn ni'n cadw cofnodion hyd nes i'r plentyn / person ifanc gael ei ben-blwydd yn 50 oed.

8.    Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Cliciwch yma www.rctcbc.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau a sut i'w harfer nhw.

9.    Cysylltwch â ni 

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

E-bost: CynaMyn@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Ffôn: 01443 744456

Trwy lythyr: Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ