Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol er mwyn cynnig 30 awr o ofal plant Addysg Feithrin y Cyfnod Sylfaen a gofal plant ychwanegol wedi'i gyllido ar draws Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful.
Mae Llywodraeth Cymru yn cyllido 30 awr o Addysg Feithrin y Cyfnod Sylfaen a gofal plant ar hyd a lled Cymru i deuluoedd sydd â phlant 3 a 4 oed am 48 wythnos o'r flwyddyn. Mae Rhondda Cynon Taf yn gweinyddu'r cynllun yma ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Gweithdrefnau Cynnig Gofal Plant Cymru. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â Hysbysiad Preifatrwydd Corfforaethol y Cyngor.
1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud.
Mae Carfan Cynnig Gofal Plant RhCT yn gyfrifol am weinyddu'r Cynnig Gofal Plant ar ran Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
Mae hyn yn golygu bod y garfan yn prosesu ceisiadau gan rieni, asesu cymhwysedd plentyn, sicrhau darparwyr gofal plant i gymryd rhan yn y cynllun a phrosesu hawliadau cyllid gan ddarparwyr gofal plant. Rydyn ni'n hyrwyddo'r Cynnig ac yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am unrhyw gynnydd yn ôl yr angen
2. Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Rhieni/Cynhalwyr sy'n ymgymryd â'r Cynnig Gofal Plant
Mae'r math o wybodaeth rydyn ni'n ei chadw a'i phrosesu er mwyn prosesu'ch cais a gwirio'ch cymhwysedd fel arfer yn cynnwys;
- Enw a Chyfeiriad
- Ethnigrwydd
- Rhif Yswiriant Gwladol
- Manylion cyswllt y cyflogwr
Plentyn sy'n gymwys ar gyfer y Cynnig Gofal Plant
Bydd y math o wybodaeth rydyn ni'n ei chadw a'i phrosesu er mwyn gwirio cymhwysedd plentyn fel arfer yn cynnwys;
- Enw a Chyfeiriad
- Dyddiad Geni
- Dewis Iaith
- Anghenion Dysgu Ychwanegol
Darparwyr Gofal Plant sy'n darparu gwasanaethau yn rhan o'r Cynnig Gofal Plant
Bydd y math o wybodaeth rydyn ni'n ei chadw a'i phrosesu i gynnal cofnod o ddarparwyr sy'n darparu gwasanaethau ac er mwyn prosesu hawliadau cyllid darparwyr gofal plant fel arfer yn cynnwys;
- Enw a Chyfeiriad
- Rhif ffôn a chyfeiriad E-bost
- Rhif Cofrestru Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
- Prif Iaith sy'n cael ei defnyddio o fewn y Lleoliad
- Manylion Banc
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Bydd yr wybodaeth rydyn ni'n ei chadw mewn perthynas â Rhieni/Cynhalwyr, Plant a darparwyr Gofal Plant yn cael ei darparu i Rondda Cynon Taf gan yr unigolyn yn uniongyrchol.
Bydd yna achosion lle byddwn ni'n derbyn gwybodaeth mewn perthynas â Rhieni/Cynhalwyr, Plant a darparwyr gofal plant o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful er mwyn darparu Gwasanaeth Gofal Plant ar eu rhan.
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Bydd gwybodaeth am Rieni/Cynhalwyr a Phlant yn cael ei defnyddio er mwyn;
- Asesu'ch cymhwysedd i dderbyn gofal plant yn rhan o'r Cynnig
- Darparu gwasanaeth i chi
- Cysylltu â chi mewn perthynas â'r Cynnig
- Anfon yr wybodaeth ddiweddaraf atoch ar ran Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â darpariaeth gofal plant
Bydd gwybodaeth am Ddarparwyr Gofal Plant yn cael ei defnyddio er mwyn;
- Asesu'ch cymhwysedd fel darparwr gofal plant
- Eich cynorthwyo chi wrth ddarparu gwasanaeth ar ein rhan ni
- Cysylltu â chi mewn perthynas â'r Cynnig
- Prosesu cyllid ar gyfer darparwr gofal plant
5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.
Dan Erthygl 6 (1) (2) o'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, rydyn ni'n cadw a rhannu'ch gwybodaeth bersonol mewn perthynas â'r Cynnig er mwyn cyflawni tasg sy'n cael ei chyflawni er budd y cyhoedd.
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?
Ar gyfer Rhieni/Cynhalwyr, Plant a Gwarchodwyr Plant sy'n cofrestru diddordeb a/neu gymhwysedd yn y Cynnig Gofal Plant ac sy'n breswylwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr neu Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, bydd yna achosion lle byddwn ni'n rhannu'ch gwybodaeth bersonol gyda nhw. Gan amlaf, bydd hyn yn cynnwys;
- Enw a Chyfeiriad y Rhiant/Cynhaliwr:
- Enw a Dyddiad Geni’r Plentyn
- Enw'r Darparwr Gofal Plant
- Anghenion Dysgu Ychwanegol, cymorth a gofynion y plentyn.
Mae'r Cynnig Gofal Plant Cymru yn gynllun wedi'i gyllido gan Lywodraeth Cymru. Felly, bydd y Cyngor yn rhannu'ch manylion fel rhiant/cynhaliwr neu blentyn sy'n derbyn gwasanaethau dan y Cynnig Gofal Plant. Mae'r wybodaeth bersonol yma'n cynnwys;
- Data am eich plentyn a chi fel rhiant/cynhaliwr
- Rhywedd
- Dyddiad Geni
- Cod post
- Ethnigrwydd
- Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)
- Dewis Iaith
- Dosbarth Incwm y Rhiant
- Mynediad blaenorol/cyfredol i Addysg Feithrin y Cyfnod Sylfaen
- Mynediad blaenorol/cyfredol i wasanaethau Dechrau'n Deg - dim gwybodaeth ynglŷn â pha wasanaethau sy'n cael eu rhannu.
I gael rhagor o wybodaeth am ba wybodaeth y mae'r Cyngor yn ei rhannu â Llywodraeth Cymru a sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich data, darllenwch ei pholisi preifatrwydd yma.
7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?
Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw gan Gyngor RhCT yn unol â'n canllawiau cadw o 6 blwyddyn yn ogystal â'r flwyddyn gyfredol
8. Eich Hawliau Gwybodaeth
Mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.
Gwelwch ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.
9. Cysylltu â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu pe hoffech chi wybod rhagor am sut rydyn ni'n trin eich gwybodaeth bersonol, mae modd i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio'r dulliau isod:
Ffôn: 01443 570 048
E-bost: CynnigGofalPlantCymruRhCT@rctcbc.gov.uk
Llythyr: Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Tŷ Trevithick
Abercynon
CF45 4UQ