Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol yn y Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr er mwyn penodi llywodraethwyr ysgolion a darparu hyfforddiant a chymorth iddyn nhw
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor
1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud
Prif nod y Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr yw sicrhau bod cyrff llywodraethu yn rhedeg ysgolion yn Rhondda Cynon Taf yn briodol. Rydyn ni'n darparu gwasanaeth siop un stop i gyrff llywodraethu yn Rhondda Cynon Taf sy'n darparu gwybodaeth, cyngor, arweiniad a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol. Rydyn ni hefyd yn cefnogi'r llywodraethwr gyda'i waith
Ein prif rôl yw:
- Cynorthwyo cyrff llywodraethu i fodloni gofynion cyfreithiol.
- Cefnogi'r cyrff llywodraethu i fod yn barod ar gyfer Arolygiad Estyn.
- Cynorthwyo cyrff llywodraethu i roi pwyslais ar wella ysgolion.
- Bod yn gymorth i gyrff llywodraethu a'u cefnogi wrth benodi Arweinwyr effeithiol.
Gwasanaethau Ysgolion 2010/11
- Rhoi'r hyfforddiant perthnasol i lywodraethwyr er mwyn iddyn nhw gyflawni eu rolau'n effeithiol.
- Cefnogi llywodraethwyr i herio a chefnogi'r ysgol.
- Hybu hunanwerthuso o fewn cyrff llywodraethu.
|
2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am lywodraethwyr ysgol yn y gorffennol a'r presennol (ymgeiswyr llwyddiannus ac aflwyddiannus).
Fel arfer bydd y mathau o wybodaeth sy'n cael eu casglu a'u defnyddio yn cynnwys:
- Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
- Dyddiad geni, rhyw
- Enw'r ysgol mae'r llywodraethwr (neu ddarpar lywodraethwr) wedi gwneud cais iddi neu wedi'i phenodi iddi
- Rhanbarth etholiadol (os yw cais yn cael ei wneud gan aelod etholedig)
- Gwybodaeth sy'n berthnasol i'r rôl fel profiad, ymrwymiad, gwybodaeth am y gymuned leol ac ati.
- Cofnodion hyfforddi
- Aelodaeth o bwyllgor ysgol penodol (e.e. pwyllgor cyllid, pwyllgor disgyblu)
|
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Rydyn ni'n derbyn gwybodaeth yn bennaf:
- Yn uniongyrchol gan lywodraethwr yr ysgol - er enghraifft ar ffurflen gais wrth fynegi diddordeb mewn bod yn llywodraethwr ysgol neu wrth gadw lle ar gwrs hyfforddi.
- O'r ysgol - wrth i ni gael gwybod am aelodaeth gwahanol bwyllgorau ysgol.
|
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth yma er mwyn:
Penodi Llywodraethwr Ysgol
- Prosesu'r ffurflen gais neu fynegiant o ddiddordeb
- Trefnu pleidlais
- Prosesu canlyniadau'r bleidlais
- Cynnig apwyntiad (os yw'r cais yn llwyddiannus)
- Cynnal cofnod o lywodraethwyr ysgolion a'u haelodaeth o bwyllgorau ysgolion
Hyfforddiant
- Nodi anghenion hyfforddiant
- Trefnu hyfforddiant
- Monitro ac adrodd ar gwblhau'r hyfforddiant
Cyngor a Chefnogaeth
- Deall eu hanghenion
- Cynnig cyngor ac arweiniad
Adrodd
- Paratoi adroddiadau mewnol ac allanol, mae rhai ohonyn nhw'n ofynnol yn ôl y gyfraith.
|
5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.
Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r wybodaeth yma at y dibenion uchod yw:
- Cyflawni ei dyletswyddau swyddogol fel Cyngor a bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y ddeddfwriaeth:
- Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005
- Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Newid Categori) (Cymru) 2015
|
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad arall?
Er mwyn i'r Gwasanaeth gyflawni'r gwasanaethau uchod, efallai byddwn ni'n rhannu'r wybodaeth yma gyda:
- Ysgolion
- Consortiwm Canolbarth y De - i drefnu hyfforddiant gorfodol i Lywodraethwyr
- Darparwyr hyfforddiant allanol - i ddarparu hyfforddiant i Lywodraethwyr
- Adrannau eraill y Cyngor er mwyn cysylltu â'r Llywodraethwr i drefnu cyfarfod neu i ddatrys ymholiad, er enghraifft:
- Carfan Derbyn Disgyblion - lle mae yna gyfarfod ail-ddyrannu dalgylchoedd ysgol
- Y Garfan Mynediad a Chynhwysiant - i drefnu cyfarfod apêl gwahardd disgyblion
- Yr Adran Gyllid - adroddiadau archwilio cyllid ar gyfer pwyllgorau cyllid Ysgol
- Adran Ysgolion yr 21ain Ganrif - ar gyfer cyfarfodydd ail-ddyrannu dalgylchoedd ysgol
- Efallai byddwn ni hefyd yn rhannu gwybodaeth gyda'r Adran Adnoddau Dynol i'w helpu i drefnu gwrandawiad digyblu mewn ysgol, cyfarfodydd y corff llywodraethu, penodi Penaethiaid a Dirprwy Benaethiaid a phwyllgorau statudol ac ati
|
7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?
Byddwn ni'n cadw eich gwybodaeth bersonol am 7 mlynedd ar ôl i'ch swydd fel Llywodraethwr ddod i ben.
|
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
9. Cysylltu â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:
E-bost: CymorthiLywodraethwyr@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Ffôn: 01443 744000Hysbysiad Preifatrwydd Penodi Llywodraethwyr Ysgol y Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr
Trwy lythyr: Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ
|