Sut rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y Gwasanaeth Cerddoriaeth
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma a hefyd hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor
1. Pwy ydyn ni a'r hyn rydyn ni'n ei wneud
Mae Gwasanaeth Cerddoriaeth y Cyngor yn rhoi cyfleoedd ym maes cerddoriaeth i bobl ifainc ar draws RhCT Mae'r rhain yn cynnwys:
Cyfleoedd yn yr ysgol, gan gynnwys:
-
Gwersi offerynnol/cerddorol - Mae modd i'r gwersi yma cael eu darparu ar gyfer unigolion neu ar gyfer grwpiau o hyd at 30 o fyfyrwyr
-
Gwersi mewn perthynas â'r cwricwlwm - Mae athrawon cymwysedig yn darparu gwersi mewn perthynas â'r cwricwlwm mewn amgylchedd dosbarth traddodiadol
-
Llogi offeryn - Mae gan holl fyfyrwyr RhCT fynediad i offerynnau yn rhan o'n gwasanaeth llogi offeryn
-
Ensembles - Mae staff yn darparu cymorth ar gyfer grwpiau ysgol, megis côr neu gerddorfa ayyb
-
Arholiadau offerynnol/lleisiol - Mynediad i gyrff arholi allanol
Cyfleoedd ychwanegol:
-
Ensembles - Caiff amrywiaeth gynhwysfawr o grwpiau wythnosol eu cynnal ar ôl ysgol. Mae'r grwpiau yma'n cynnwys cerddorfa hŷn, grŵp gwerin a chlwb llinynnau, er enghraifft.
-
Gweithdai - Dyma gynlluniau unigryw sydd wedi'u hanelu at grwpiau penodol neu offerynwyr sydd o safon benodol. Caiff y cynlluniau yma eu darparu gan staff y Gwasanaeth Cerdd neu ar y cyd â sefydliadau eraill.
-
Tripiau - Caiff cyfleoedd gan gynnwys mynd i gyngherddau cerddoriaeth clasurol eu darparu er mwyn i fyfyrwyr mwynhau profiadau cerddorol ehangach.
|
2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Fel arfer, mae'r math o wybodaeth rydyn ni'n ei chasglu a'i defnyddio ar gyfer gweithgareddau yn yr ysgol yn cynnwys:
-
Enw'r disgybl, dyddiad geni, ysgol, offeryn/offerynnau, datblygiad personol, manylion a chanlyniadau arholiadau.
-
Fel arfer, mae'r math o wybodaeth rydyn ni'n ei chasglu a'i defnyddio ar gyfer gweithgareddau sy'n cael eu cynnal tu allan i'r ysgol/lleoliad yn cynnwys:
-
Enw'r disgybl, dyddiad geni, ysgol, offeryn/offerynnau, cyfeiriad, manylion cyswllt mewn argyfwng, manylion meddygol, gofynion dietegol.
Mewn rhai achosion, megis trip neu gwrs preswyl bydd angen i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am riant/cynhaliwr y myfyriwr, bydd yr wybodaeth yma'n cynnwys:
-
Enw, perthynas i'r disgybl, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost.
|
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Bydd yr wybodaeth uchod yn cael ei darparu gan:
-
Y Disgybl - e.e. yn ystod gwers offerynnol/lleisiol
-
Yr Ysgol - mae'n bosibl y bydd clerc yr ysgol yn darparu ychydig o wybodaeth e.e. dyddiad geni, os oes angen.
-
Rhieni/cynhalwyr - trwy lenwi ffurflen bapur / ffurflen ar-lein
|
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth bersonol yma ar gyfer y rhesymau canlynol:
Gweithgareddau yn yr ysgol:
-
Cadw cofrestr bresenoldeb ar gyfer gwersi/sesiynau ensemble
-
Rhoi adborth i rieni ac athrawon ynghylch datblygiad/addysg y plentyn
-
Prosesu ceisiadau ar gyfer arholiadau
-
Dyrannu offerynnau sydd wedi'u llogi i unigolion ac anfon anfoneb adnewyddu flynyddol
Defnydd ychwanegol:
-
Er mwyn cysylltu â rhiant/cynhaliwr mewn argyfwng
-
Anfon manylion talu/negeseuon atgoffa ar gyfer gweithgareddau
-
E-bostio manylion ynglŷn â chyfleoedd sydd i ddod (gan gynnwys cyngherddau neu dripiau ayyb)
-
Sicrhau bod digon o ddarpariaeth i fodloni anghenion dietegol neu feddygol.
|
5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol yn unig lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.
Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth er mwyn darparu cymorth i ddisgyblion y gwasanaeth cerdd yw:
-
Cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth gyflawni awdurdod swyddogol yn rhinwedd ein swyddogaeth fel corff cyhoeddus.
-
Cydymffurfio â chontractau llogi offerynnau, gwersi/gweithdai ychwanegol a thripiau.
|
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad arall?
Er mwyn i'r Gwasanaeth ymgymryd â'i ddyletswyddau mewn perthynas â rhoi cymorth, mae rhaid i ni rannu gwybodaeth gyda'r canlynol:
Gwasanaethau eraill y Cyngor
Sefydliadau eraill:
-
Ysgolion (er mwyn rhannu pa gynnydd rydych chi'n ei wneud o ran gwersi/arholiadau)
-
Caiff yr arholiadau eu darparu gan Fwrdd Cysylltiol yr Ysgolion Cerdd Brenhinol (ABRSM) a Choleg y Drindod, Llundain, ynghyd â dwy lefel arall: Er mwyn prosesu ceisiadau ar gyfer arholiadau, byddwn ni'n rhannu enw, dyddiad geni, offeryn a gradd yr ymgeisydd. Mewn rhai achosion, byddwn ni'n rhannu gwybodaeth feddygol. Byddwn ni'n rhannu gwybodaeth feddygol er enghraifft os yw disgybl â golwg gwael bydd yr arholwr yn darparu taflenni cerddoriaeth â phrint mawr.
|
7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?
Bydd yr amser lle byddwn ni'n cadw'ch gwybodaeth bersonol yn dibynnu ar y gwasanaeth rydych chi'n ei dderbyn. Dyma nhw:
-
Gwersi offerynnol ychwanegol - nes bod y gwersi offerynnol yn dod i ben
-
Llogi offeryn - ne bod yr offeryn yn cael ei ddychwelyd i'r gwasanaeth
-
Cais i wneud arholiad cerdd - hyd at ddiwedd y tymor lle cafodd yr arholiad ei gynnal
-
Ensembles / gweithdai / tripiau - nes bod y gweithgaredd wedi dod i ben
|
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
9. Cysylltu â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:
E-bost: musicservice@rctcbc.gov.uk
Ffôn: 01443 744017
Trwy lythyr: Gwasanaeth Cerdd, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ.
|