Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol yn y Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma a hefyd hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor
1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud.
Mae Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles y Cyngor yn cefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd sy'n dioddef problemau neu anawsterau sy'n effeithio ar allu'r plentyn i fynychu'r ysgol neu gymryd rhan mewn dysgu.
Ein nod yw sicrhau bod modd i bob plentyn a pherson ifanc gyrraedd eu llawn botensial a'u bod nhw'n:
- Iach
- Aros yn ddiogel
- Mwynhau bywyd a llwyddo
- Gwneud cyfraniad cadarnhaol
- Cyflawni llesiant economaidd
Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda gwasanaethau eraill y Cyngor a sefydliadau partner er mwyn darparu'r cymorth yma - mae rhagor o wybodaeth am y sefydliadau yma isod.
Wrth ddarparu'r gwasanaeth yma, rydyn ni'n dilyn arweiniad Fframwaith Presenoldeb ar gyfer Cymru Gyfan i sicrhau ein bod ni fel Cyngor yn cyflawni ein rhwymedigaeth cyfreithiol.
Mae modd i chi ddysgu rhagor am ein gwasanaeth trwy glicio ar y ddolen yma.
|
2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am blant a phobl ifanc sy wedi'u hatgyfeirio at y Gwasanaeth yn y gorffennol neu'r presennol am gymorth, arweiniad neu gyngor arbenigol.
Fel arfer bydd y math o wybodaeth y byddwn ni'n ei chasglu a'i defnyddio i ddarparu ein gwasanaethau cymorth yn cynnwys:
- Gwybodaeth am yr unigolyn sy'n cael ei atgyfeirio (e.e. disgybl):
- Manylion yswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn
- Rheswm dros atgyfeirio
- Cysylltiad blaenorol rhwng y plentyn / person ifanc a'i deulu a'r sefydliad a wnaeth ei atgyfeirio (e.e. yr ysgol)
- Dyddiad geni
- Rhyw
- Manylion ar gyflawniad y plentyn / person ifanc yn yr ysgol e.e. graddau yn yr ysgol, canlyniadau arholiadau ac ati.
Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd angen i ni hefyd gasglu a defnyddio gwybodaeth fwy sensitif am y plentyn neu'r person ifanc yn dibynnu ar yr anawsterau y maen nhw'n eu profi. Mae modd i hyn gynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â:
- Iechyd, lles ac anghenion addysgol arbennig
- Statws Plant sy'n Derbyn Gofal (e.e. plant mewn gofal) ac unrhyw materion diogelu sydd efallai'n berthnasol
- Ethnigrwydd
- Crefydd
- Cyfeiriadedd Rhywiol
Rydyn ni hefyd yn casglu gwybodaeth yn ymwneud â rhieni / cynhalwyr y plentyn neu'r person ifanc ac weithiau aelodau'r teulu. Ar y lleiaf, bydd angen i ni wybod:
- Manylion cyswllt (gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost)
- Dyddiad geni (i'w ddefnyddio os yw achos llys wedi cychwyn)
- Amgylchedd / sefyllfa deuluol
|
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Mae modd i'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chasglu amdanoch chi ddod o amrywiaeth o ffynonellau gwahanol fel y rhai sy wedi'u nodi isod:
- Bydd y mwyafrif helaeth o'r wybodaeth rydyn ni'n ei chasglu yn cael ei darparu i ni yn uniongyrchol gan y plentyn / person ifanc a'i riant / cynhaliwr, er enghraifft yn ystod y gwasanaethau cefnogi, ymweliadau cartref, galwadau ffôn a thrwy lythyr.
- Byddwn ni hefyd yn derbyn gwybodaeth gan y sefydliad sy'n gwneud yr atgyfeiriad, gwasanaethau eraill y Cyngor a sefydliadau partner dibynadwy rydyn ni'n cydweithio'n agos gyda nhw ac sy'n cyfrannu at ddarparu cymorth i'r plentyn neu'r person ifanc. Bydd y sefydliadau yma yn amrywio yn dibynnu ar yr anawsterau y mae'r plentyn / person ifanc yn eu profi a'r gwasanaethau cymorth sydd eu hangen arnyn nhw.
- Mae'r gwasanaeth hefyd yn paratoi ei wybodaeth ei hun fel asesiadau ac adroddiadau cynnydd ac argymhellion.
|
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Yn y pen draw, byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth yma er mwyn:
- Rhoi cyngor a chyfarwyddyd i ysgolion ynghylch yr anawsterau y mae'r plentyn neu'r person ifanc yn eu profi fel bod modd iddyn nhw roi cefnogaeth yn ei lle i'w cynorthwyo i gyflawni eu llawn botensial
- Cynnal cyfarfodydd ar y cyd (sy'n cael eu galw'n gyfarfodydd panel) gyda'n partneriaid i adolygu sefyllfa'r plentyn / person ifanc ac i nodi a chyflwyno'r gefnogaeth orau posib i'r plentyn
- Monitro cynnydd y gefnogaeth sy'n cael ei rhoi i'r plentyn / person ifanc a gwneud argymhellion
- Gweithio gyda gwasanaethau eraill y Cyngor i gasglu'r wybodaeth sydd ei hangen i wneud asesiad cywir o anghenion y plentyn a threfnu'r gefnogaeth sydd ei hangen arno e.e. gwasanaethau ariannol (Gwasanaeth Prydau Ysgol am Ddim, Gwasanaeth Budd-dal Tai), Gwasanaeth Materion Derbyn Disgyblion, Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant, Gwasanaethau i Blant ac ati.
- Gweithio gydag awdurdodau lleol eraill os yw plentyn / teulu wedi symud i mewn neu allan o RhCT i'w helpu i ddod o hyd i blentyn
- Gweithio gyda Llys yr Ynadon mewn amgylchiadau lle mae rhaid i ni ddechrau achos llys (nodwch: os bydd hyn yn digwydd, byddwn ni'n sicrhau eich bod yn cael gwybod am bob cam)
- Sicrhau diogelu a lles plant a phobl ifainc sy'n agored i niwed
|
5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Bydd y sail gyfreithiol o ran ein defnydd o'ch gwybodaeth bersonol fel arfer yn un neu ragor o'r canlynol:
- Bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o dan:
- Deddf Addysg 1996
- Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010
- Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol yn rhinwedd ein swyddogaeth fel corff cyhoeddus.
|
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad arall?
Fel sy wedi'i grybwyll uchod, er mwyn i'r Gwasanaeth ymgymryd â'i ddyletswyddau cyfreithiol ac i ddarparu'r cymorth sydd ei angen ar y plentyn / person ifanc a'i deulu, mae'n ofynnol i ni rannu gwybodaeth gyda nifer o sefydliadau a phartneriaid trydydd parti dibynadwy.
Bydd y partneriaid yma yn amrywio yn dibynnu ar yr anawsterau mae'r plentyn / person ifanc yn eu hwynebu a'r gefnogaeth maen nhw ei hangen, ond fel arfer bydd yn cynnwys:
- Ysgol y plentyn (yn y gorffennol ac ar hyn o bryd)
- Gwasanaethau Iechyd fel y bwrdd iechyd lleol, meddyg, ymwelydd iechyd, ysbyty, ymgynghorwyr ac ati
- Adrannau eraill y Cyngor fel Gwasanaethau i Blant, Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant, Gwasanaeth Materion Derbyn Disgyblion, Gwasanaeth Prydau Ysgol am Ddim, yr Adran Budd-daliadau Tai, y Gwasanaeth ar FaterionTai, Gwasanaeth Troseddwyr Ifanc ac ati
- Cynghorau eraill sy'n ymwneud â'r plentyn neu ei deulu, neu sydd wedi ymwneud â'r plentyn a'i deulu yn y gorffennol (e.e. lle mae'r plentyn wedi symud)
- Llys yr Ynadon
- Asiantaethau gorfodi'r gyfraith fel yr Heddlu (os oes pryderon diogelu)
- Asiantaethau'r sector gwirfoddol sy'n ymwneud â darparu cefnogaeth i'r plentyn / person ifanc e.e.
Yn y mwyafrif helaeth o achosion, fydd dim angen eich caniatâd arnom i rannu'r wybodaeth gyda'r sefydliadau yma gan fod gyda ni rwymedigaeth gyfreithiol i wneud hynny. Serch hynny, lle mae angen caniatâd, byddwn ni'n sicrhau bod y plentyn / person ifanc a'i deulu yn cael gwybod ac yn cael dewis clir am y defnydd o'u gwybodaeth.
|
7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?
Byddwn ni'n cadw eich gwybodaeth bersonol am hyd at 7 mlynedd.
|
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
9. Cysylltwch â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:
E-bost: Presenoldeballes@rctcbc.gov.uk
Ffôn: 01443 744298
Trwy lythyr: Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar , CF45 4UQ
|