Fer arfer bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn rhyddhau cryn dipyn o wybodaeth. Mae 7 dosbarth o wybodaeth, a dyma nhw isod:-
Yn amlach na pheidio, mae’r wybodaeth hon yn rhad ac am ddim - yn enwedig pe hoffech chi dderbyn yr wybodaeth yn electronig - serch hynny, efallai bydd codi tâl statudol neu gostau gweinyddol penodol megis llungopïo a thâl post pe hoffech chi gopïau caled o’r wybodaeth. Os bydd tâl, byddwn ni'n cadarnhau'r costau cyn darparu’r wybodaeth i chi. Efallai byddwn ni'n gofyn ichi dalu cyn rhoi’r wybodaeth.
Caiff y Cynllun Cyhoeddiadau ei ryddhau yn unol â chyfrifoldebau'r Cyngor o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Dosbarthau o Wybodaeth
Pwy ydyn ni a’r hyn rydyn ni’n ei wneud
Gwybodaeth gyfundrefnol, canolfannau a manylion cyswllt, rheoli cyfansoddiadol a chyfreithiol.
Yr hyn rydyn ni’n ei wario a sut
Gwybodaeth ariannol sy’n ymwneud â gwir incwm a gwariant neu incwm a gwariant arfaethedig, rhoi gwaith ar osod, caffael a chytundebau.
Ein blaenoriaethau a’n cyflawniad
Gwybodaeth strategol ac sy’n ymwneud â pherfformiad, cynlluniau, gwaith asesu, arolygiadau ac adolygiadau
Dod i benderfyniadau
Cynigion a phenderfyniadau sy’n ymwneud â pholisi, trefn dod i benderfyniadau, gweithdrefnau a meini prawf mewnol, gwaith ymgynghori.
Cynigion a phenderfyniadau sy’n ymwneud â pholisi, trefn dod i benderfyniadau, gweithdrefnau a meini prawf mewnol, gwaith ymgynghori.
Polisïau a dulliau gweithredu.
Protocolau ysgrifenedig sydd ohoni ar gyfer gweithredu ar ein swyddogaethau a’n cyfrifoldebau.
Rhestri a chofrestri
Gwybodaeth sy'n cael ei chadw mewn cofrestrau yn unol â'r gyfraith, a rhestrau eraill yn ymwneud â swyddogaethau’r awdurdod.
Ein gwasanaethau
Cyngor ac arweiniad, llyfrynnau a thaflenni, trafodion a datganiadau i’r wasg, ac amlinelliad o’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig. Mae gan y Cyngor ystod o lyfrynnau, taflenni ac ati, sy’n ymwneud â meysydd gwahanol. Cysylltwch â ni i gael rhagor o fanylion ynglŷn â'r maes sydd o ddiddordeb ichi.

Manylion cyswllt
Hoffech chi wybod sut byddwn ni'n rhyddhau gwybodaeth o dan y cynllun yma? Croeso ichi gysylltu â'r Uned Llywodraethu Corfforaethol ar 01443 424189 neu 01443 424111 neu ebost caisamwybodaeth@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Mewn amgylchiadau eithriadol, mewn person yn unig fydd modd edrych ar yr wybodaeth. Mewn achosion o’r fath, cysylltwch â ni (manylion cyswllt uchod) ar gyfer gwneud y trefniadau priodol.