Mae’r cyngor yn darparu gwybodaeth ar Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac yn rhoi cyngor i’r trigolion ynglŷn â sut mae cyflwyno cais am wybodaeth gyhoeddus mae’r awdurdod yn ei chadw.
Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi hawl gyffredinol i'r cyhoedd weld gwybodaeth sy’n cael ei chadw gan awdurdodau cyhoeddus. Mae’n nodi’r wybodaeth sy wedi’i heithrio (esemptiadau) o’r hawl honno ac yn gosod nifer o rwymedigaethau ar awdurdodau cyhoeddus.
Mae’r ddeddf yn diffinio ‘awdurdod cyhoeddus’ yn llywodraeth ganolog, lywodraeth leol, cyrff cyhoeddus sy ddim yn rhan o adrannau’r llywodraeth, yr heddlu, y Gwasanaeth Iechyd, ysgolion, colegau a phrifysgolion. Dydy diffiniad ‘awdurdod cyhoeddus’ ddim wedi’i gyfyngu i’r rhain yn unig. Rhaid rhoi gwybod i unrhyw un sy’n gwneud cais i awdurdod cyhoeddus am wybodaeth os ydy’r awdurdod cyhoeddus yn cadw’r wybodaeth honno. Rhaid i’r corff cyhoeddus roi’r wybodaeth honno i’r sawl sy’n gwneud cais amdani, oni bai bod yr wybodaeth wedi’i heithrio.
Mae hawl gydag unigolion i gyrchu gwybodaeth ynglŷn â nhw’u hunain o dan ofynion Deddf Diogelu Data 2018. Yng nghyd-destun awdrudodau cyhoeddus, bydd Deddf Rhyddid Gwybodaeth yn ymestyn yr hawl yma i ganiatáu i’r cyhoedd i gyrchu pob math o wybodaeth sy’n cael ei chadw.
Bydd rhaid i bob awdurdod lleol fabwysiadu a chynnal cynllun cyhoeddi a fydd yn nodi’r dosbarthau o wybodaeth mae’n ei chadw, sut mae e’n bwriadu cyhoeddi’r wybodaeth ac os bydd rhaid talu i gael gweld yr wybodaeth.
Nod y cynllun ydy gofalu bod swm sylweddol o wybodaeth ar gael heb fod rhaid i rywun wneud cais amdani. Nod y cynlluniau ydy annog sefydliadau i gyhoeddi rhagor o wybodaeth o’u gwirfodd a datblygu meddylfryd mwy agored a thryloyw. Mae Cynllun Cyhoeddiadau'r Cyngor hefyd ar gael ar lein.
Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â Deddf Rhyddid Gwybodaeth i’w chael ar y gwefannau canlynol:
Cyflwyno cais ar lein o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth
Mae hi'n hawdd a chyflym i lenwi ffurflen gais ar lein am ryddhau gwybodaeth.
Rhyddhau Gwybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth
Swyddog Materion Rhyddid Gwybodaeth
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Y Pafiliynau
Cwm Clydach Tonypandy
CF40 2XX
Ffôn: 01443 424111
Ffacs: 01443 424114