Beth ydyn ni'n ei olygu wrth ddefnyddio'r term 'Llywodraethu'?
Yn achos Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, mae llywodraethu yn golygu sicrhau bod y Cyngor yn gwneud y pethau cywir yn y ffordd gywir ar gyfer y bobl gywir mewn modd amserol, cynhwysol, agored, onest ac atebol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn gyfrifol am sicrhau bod busnes y Cyngor yn cael ei gynnal mewn modd sy'n cydymffurfio â'r gyfraith a'r safonau a bod arian cyhoeddus yn cael ei ddiogelu, bod cofnod cywir o'r holl arian yma a bod yr arian yn cael ei ddefnyddio mewn modd economaidd, effeithlon ac effeithiol.
Mae'r Cyngor yn gyfrifol am sicrhau bod trefniadau priodol yn eu lle ar gyfer llywodraethu ei waith a hwyluso ymarfer y Cyngor o'i swyddogaethau. Mae hyn yn cynnwys sicrhau trefniadau ar gyfer rheoli risg a'r mesurau rheoli mewnol priodol.
Edrychwch ar ddogfennau, polisïau a gweithdrefnau allweddol sy'n ategu trefniadau llywodraethu'r Cyngor.
Mae'r fframwaith llywodraethu yn cynnwys y systemau, gweithdrefnau a'r gwerthoedd diwylliannol sy'n cyfarwyddo a rheoli'r Cyngor yn ogystal â'r gweithgareddau y mae'n atebol amdanyn nhw, ac y mae'r Cyngor yn eu cynnal ac yn arwain y gymuned. Mae hyn yn galluogi'r Cyngor i fonitro'i gyflawniad mewn perthynas â'i amcanion strategol a thrafod a yw'r amcanion yma wedi arwain at ddarparu gwasanaethau costeffeithiol addas.
Yn y pen draw, mae llywodraethu da o fewn Rhondda Cynon Taf yn gyfrifoldeb y Cyngor Llawn. Caiff y Cyngor Llawn ei gefnogi yn y rôl yma gan y rheiny sydd â rolau arweinyddiaeth a chyfrifoldebau statudol yn ogystal â'r trefniadau sydd ar waith o ran strwythur Pwyllgorau.
Termau Allweddol:
Risg - Diffiniad:
"Risg yw'r ansicrwydd ynghylch deilliant, boed hynny'n gyfle cadarnhaol neu fygythiad negyddol mewn perthynas â gweithredoedd neu achlysuron. Diffiniad y Cyngor ar gyfer risg yw 'rhywbeth, petai'n digwydd, a fyddai'n cael effaith ar allu'r Cyngor i gyflawni'i flaenoriaethau gwella mewn modd llwyddiannus"
Rheoli - Diffiniad
"Unrhyw gamau gweithredu sy'n cael eu cymryd gan reolwyr er mwyn rheoli risg a chynyddu tebygolrwydd o gyflawni amcanion a nodau sydd wedi'u sefydlu."
Rheoli Risg - Diffiniad:
"Proses er mwyn nodi, asesu, llywodraethu a rheoli unrhyw ddigwyddiadau neu sefyllfaoedd, i gynnig sicrwydd rhesymol ynghylch cyflawniad amcanion y sefydliad."