Llywodraethu

Mae Cyfansoddiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn nodi sut mae'r Cyngor yn gweithredu, sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud, a gweithdrefnau i'w dilyn er mwyn sicrhau eu bod nhw'n effeithlon, eglur ac atebol i bobl leol.

Datganiad Llywodraethu Blynyddol

Mae Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2018 (Rheoliad 5) yn gofyn bod awdurdod yn cynnal adolygiad mewn perthynas ag effeithlonrwydd ei system rheolaeth fewnol o leiaf unwaith y flwyddyn, gan gynnwys datganiad sy'n adrodd ar yr adolygiad o fewn unrhyw Ddatganiad o Gyfrifon sy'n cael ei gyhoeddi.

Mae rheoli risg yn rhan annatod o arferion rheoli. Rheoli'r risgiau a allai gael effaith ar allu'r Cyngor i ddarparu gwasanaethau yn ôl y bwriad a thrwy wneud hyn mae gwella ansawdd bywyd ar gyfer y bobl leol ar flaen y gad o ran trefniadau cynllunio ymlaen llaw'r Cyngor.

Er bod gofyn i bob aelod o staff ddilyn y Polisïau a'r Gweithdrefnau perthnasol sy'n cael eu gweithredu gan y Cyngor. Yn anffodus, mae'n bosibl y bydd yna achos lle mae rhai unigolion yn penderfynu mynd yn groes i'r trefniadau yma.


Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn benderfynol o gynnal ei enw da – sef Cyngor sydd ddim yn goddef twyll, llwgrwobrwyo, llygru neu gam-drin sefyllfaoedd ar gyfer elw personol, lle bynnag bo achosion o fewn y Cyngor.

Mae Cylch Gorchwyl Pwyllgor Archwilio'r Cyngor wedi'i nodi yn Rhan 3 (adran 4) o Gyfansoddiad y Cyngor.

Rydyn ni bob amser yn croesawu'ch sylwadau a'ch awgrymiadau gyda golwg ar wella'n gwasanaethau, gwella enw da'r Cyngor, a datblygu ffyrdd mwy ymatebol o weithio sy'n rhoi'r cwsmer wrth galon ein gwaith.

Mae sawl corff rheoleiddio annibynnol sy'n archwilio, arolygu, adolygu ac adrodd ynglŷn â'r Cyngor a'i wasanaethau er mwyn sicrhau bod preswylwyr yn derbyn y gwasanaethau gorau posib a gwerth eu harian gan y Cyngor.   Mae'r cyrff yn annibynnol ar y Cyngor. Weithiau, cyfeirir atyn nhw fel 'rheolyddion'.  


Rydyn ni'n gweithio gyda llawer o sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r sector gwirfoddol, yn ogystal â'n trigolion a'n cymunedau, er mwyn gwella bywydau'r rheiny sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf, yn gweithio yma neu'n ymweld â'r sir.