Mae'r Cynghorydd Wendy Lewis wedi'i phenodi'n Llywydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Mae'r Cynghorydd Wendy Lewis (Ward Llwynypia) wedi'i hailbenodi'n Llywydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn 2026-2027 y Cyngor.
Cafodd ei phenodi yn ystod 31ain Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, a gynhaliwyd ddydd Mercher, 29 Ebrill 2026.
Dau Ddirprwy Lywydd y Cyngor yw'r Cynghorydd Barry Stephens (Ward Llanhari) a'r Cynghorydd Sheryl Evans (Ward Aberaman).
Prif rôl y Llywydd yw cyflawni swyddogaethau gweinyddu Cadeirydd y Cyngor. Mae'r Llywydd yn llywyddu cyfarfodydd y Cyngor llawn ac yn sicrhau bod cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor.
Bydd Llywydd newydd yn cael ei benodi bob blwyddyn yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor.