Skip to main content

Balchder Rhondda Fach mewn Lle

Mae Rhondda Fach yn un o 284 o leoedd ledled y DU i dderbyn hyd at £20 miliwn o gyllid dros ddeng mlynedd yn rhan o Raglen Balchder Bro Llywodraeth y DU, sydd â'r nod o adeiladu cymunedau cryfach, creu lleoedd sy'n ffynnu a grymuso pobl i adennill rheolaeth. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio'n benodol ar ardaloedd Maerdy, Blaenllechau, Glynrhedynog, Tylorstown, Pen-rhys, Stanleytown, Pont-y-gwaith, Wattstown ac Ynys-hir.

Pwy sy'n rhan o Fwrdd Cymdogaeth Balchder Bro Rhondda Fach? 

Rhaid i Gadeirydd y Byrddau yma fod yn berson annibynnol a dylai o leiaf 51% o'u haelodaeth fyw neu weithio o fewn ffiniau'r gymdogaeth, gan sicrhau bod y Bwrdd yn cael ei arwain gan drigolion. Ar ben hynny, rhaid i'r aelodaeth gynnwys o leiaf un Cynghorydd ward a'r Aelod Seneddol.


Theresa-Thomas

Mrs Theresa Thomas (Cadeirydd)

Keiron-MontagueMr Keiron Montague
Kelvin-JonesMr Kelvin Jones
MR Tom-BroadwayMr Tom Broadway
Wayne-CarterMr Wayne Carter
Chris-Bryant-MPChris Bryant MP
Allyn-CarterMr Allyn Carter
Blank passport photoMs Erin Villis

Upcoming Meetings

Rôl yr Awdurdod Lleol

Er bod y rhaglen yma'n cael ei harwain gan y gymuned, yn unol â chanllawiau Balchder Bro'r Llywodraeth, mae gan yr awdurdod lleol rôl hollbwysig wrth gefnogi'r ddarpariaeth ar lefel leol. Bydd yr Awdurdod Lleol yn gwneud y canlynol:

  • Yr Awdurdod Lleol fydd y corff atebol ar gyfer cyllid y Rhaglen Balchder Bro ar ddechrau'r rhaglen a bydd yn chwarae rôl hollbwysig wrth alluogi a chefnogi'r Bwrdd Cymdogaeth i ddatblygu cynlluniau gwariant.
  • Gweithio gyda'r AS lleol i benodi Cadeirydd y Bwrdd Cymdogaeth.
  • Gweithio gyda'r AS lleol i gymeradwyo'r rhestr derfynol o Aelodau Bwrdd sy'n cael ei chynnig gan y Cadeirydd
  • Cefnogi'r Bwrdd Cymdogaeth i ddatblygu Cynllun Balchder Bro, gan bennu gweledigaeth 10 mlynedd ar gyfer yr ardal, sy'n cynnwys manylion yngylch sut y bydd cyllid yn cael ei wario yn ystod y cylch buddsoddi cyntaf, sy'n para 4 blynedd.

Ble alla i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am waith y Bwrdd?

  • Mae modd dod o hyd i agendâu a chofnodion cyfarfodydd y Bwrdd yma. 

Sut alla i gysylltu â'r Bwrdd?

Pride in place