Skip to main content

Achlysur Twf Busnes Trefforest

 
Cynllun ar y cyd sy'n cael ei gynnal gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, Prifysgol De Cymru,Coleg Y Cymoedd a busnesau sydd wedi'u lleoli yn ardal Ystad
Ddiwydiannol Trefforest yw Twf Busnes Trefforest.

Dyma grwp rhwydweithio busnes sy'n canolbwyntio ar dwf economaidd busnesau sydd wedi'u lleoli yn Ystad Ddiwydiannol Trefforest.  Mae'r Ystad yn chwarae rhan bwysig iawn o ran cyfrannu at economi Cymru gyda dros 400 o fusnesau sy'n cyflogi dros 4000 o weithwyr. Mae'r Ystad wedi'i lleoli yng nghalon rhwydwaith trafnidiaeth De Cymru. Dyma leoliad sydd â sawl mantais ac sy'n llawn potensial.

Gobeithion Grŵp Twf Busnes Trefforest:

•Datblygu cymuned fusnes weithredol sy'n falch o fod yn rhan o'r Ystad.

•Sefydlu perthnasau parhaol rhwng busnesau, y Llywodraeth a sefydliadau Addysgol sy'n fuddiol i'r ddwy ochr.

•Helpu busnesau sydd eisoes wedi'u sefydlu lle bynnag mae hynny'n bosibl.

•Moderneiddio'r isadeiledd

•Creu swyddi newydd

•Denu busnesau newydd

•Ystyried cyfleoedd newydd

i gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma