Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg yn un o saith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yng Nghymru a gafodd eu sefydlu yn rhan o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg yn dod â phartneriaid Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai, Trydydd Sector a phartneriaid eraill ledled Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr ynghyd. Bwriad y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yw gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl trwy eu cynnwys nhw, gwrando arnyn nhw a gweithredu ar y cyd i drawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu. Mae hyn yn cynnwys darparu gwasanaethau integredig yng Nghymru yn effeithiol drwy'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol a gymerodd le'r Gronfa Gofal Integredig ym mis Ebrill 2022. Bwriad y gronfa yma gan Lywodraeth Cymru yw adeiladu ar y cynnydd gafodd ei wneud o dan y Gronfa Gofal Integredig a Chronfa Trawsnewid flaenorol. Bydd y gronfa'n helpu i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.