Mae’r Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu yn gyfrifol am adolygu a chraffu ar benderfyniadau a wneir gan y Cyd-bwyllgor Corfforaethol ac am wneud adroddiadau neu argymhellion i’r Cyd-bwyllgor Corfforaethol ynglŷn â chyflawni ei swyddogaethau. Lle bo’n briodol, gall y Cyd-bwyllgor argymell ailystyried penderfyniad a wneir gan y Cyd-bwyllgor Corfforaethol. Gall y Cyd-bwyllgor ei gwneud yn ofynnol i aelodau neu swyddogion y Cyd-bwyllgor Corfforaethol fynychu ac ateb cwestiynau. Gall hefyd wahodd pobl eraill i fynychu ei gyfarfodydd.
Gweinyddir Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu SEWCJC gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru (CJC) yw’r prif gorff sy’n gwneud penderfyniadau ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae’r Pwyllgor yn gyfrifol am y swyddogaethau canlynol:
- Paratoi Cynllun Datblygu Strategol;
- Paratoi Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol; a
- Gwneud yr hyn y teimlir sy’n angenrheidiol i wella neu hybu lles economaidd yr ardal.
Mae’r Pwyllgor hefyd yn gyfrifol am Gyfansoddiad y CJC, gosod polisi, gosod y gyllideb flynyddol, cytuno ar gylch gorchwyl ei is-bwyllgorau a phenodi Prif Swyddogion
Gweld manylion cyswllt aelodau'r pwyllgor hwn