Skip to main content

Defnyddio Cyfryngau Cymdeithasol a Safonau Gwasanaeth

Mae'r Cyngor yn defnyddio Cyfryngau Cymdeithasol i ddarparu'r newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf a diweddariadau am ei wasanaethau i drigolion, ymwelwyr a defnyddwyr y gwasanaeth. 

Mae'r Cyngor yn defnyddio gwahanol gyfrifon i gyfathrebu'n fwyaf effeithiol. Yn ogystal â chyfrifon corfforaethol y Cyngor, mae gan wasanaethau fel y Gwasanaeth Hamdden, Theatrau, y Gwasanaeth Ymgysylltu â Phobl Ifainc a'r Gwasanaeth Treftadaeth i gyd eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol eu hunain.

 

Beth y mae modd i Ddefnyddwyr ei ddisgwyl gan Gyngor Rhondda Cynon Taf?

  • Mae modd i drigolion, defnyddwyr y gwasanaeth ac ymwelwyr â RCT sy'n dewis rhyngweithio â ni ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ddisgwyl y bydd yr wybodaeth sy'n cael ei darparu yn gywir ac yn gyson.
  • Os ydych chi'n gofyn cwestiwn penodol, nodwch fod gan y Cyngor ystod o wybodaeth a gwasanaethau ar-lein - efallai y cewch chi'ch cyfeirio at ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth, ateb i gwestiwn neu un o'n ffurflenni e-bost i chi roi gwybod i ni am y mater.
  • Os bydd angen, byddwn ni'n cofnodi'r mater gyda'n Carfan Gwasanaethau i Gwsmeriaid a byddwn ni'n rhoi rhif cyfeirnod i chi fel bod modd i chi wirio'i gynnydd.
  • Mewn rhai amgylchiadau, efallai y cewch chi'ch cyfeirio at gyfeiriad e-bost Rhyddid Gwybodaeth y Cyngor. Mae hyn i sicrhau ein bod ni'n casglu'r holl fanylion angenrheidiol i ateb eich cais yn llawn.
  • Mae'r adran wybodaeth ar bob cyfrif yn nodi'r amseroedd lle y bydd rhywun yn monitro'r cyfrif. Os yw'ch cais yn un brys neu os oes angen ateb arnoch chi y tu allan i'r cyfnodau yma, ewch i www.rctcbc.gov.uk/cysylltu i ddod o hyd i'r ffordd orau o gysylltu.
  • Rydyn ni'n deall bod pobl yn disgwyl cael ateb yn gyflym ar y cyfryngau cymdeithasol a byddwn ni'n gwneud ein gorau. Serch hynny, mae'n bwysig ein bod ni'n treulio amser i sicrhau ein bod yn ymateb yn gywir ac efallai y bydd angen i ni wirio manylion gyda chydweithwyr mewn adrannau eraill cyn gwneud hynny. Os oes angen ymateb byddwn ni'n cydnabod eich cais cyn pen un diwrnod gwaith ac yn darparu ateb cyn pen 15 diwrnod gwaith. Mae hyn yn unol â Siarter Gofal i Gwsmeriaid y Cyngor.
  • Efallai y byddwn ni'n gofyn weithiau i chi gysylltu ag un o feysydd gwasanaeth y Cyngor yn uniongyrchol neu'n gofyn i chi ddarparu manylion cyswllt trwy Neges Uniongyrchol (DM) neu 'Messenger' os nad oes modd i ni helpu i ddatrys eich cais. Peidiwch â phostio gwybodaeth bersonol yn gyhoeddus.
  • Efallai na fydd sylwadau neu gwestiynau cyffredinol sy ddim yn ymwneud â busnes na gwasanaethau'r Cyngor yn derbyn ymateb oherwydd cynifer y ceisiadau rydyn ni'n eu derbyn ar ein cyfrifon.
  • Lle mae gan gymunedau ar-lein eu rheolau a'u canllawiau eu hunain, byddwn ni fel arfer yn dilyn y rheiny.
  • Lle bo'n bosibl, byddwn ni'n dibynnu ar y mesurau amddiffyn ac ymyrraeth sydd yn eu lle ar y safle rhwydweithio cymdeithasol eisoes (fel amddiffyn yn erbyn cynnwys anghyfreithlon, niweidiol neu sarhaus), er enghraifft drwy dynnu sylw at sylwadau neu roi gwybod i'r safle am unrhyw un o'i amodau neu'i delerau sydd wedi'u torri.
  • Efallai y byddwn ni'n ail-drydar (re-tweet) neu'n rhannu cynnwys rydyn ni'n credu y byddai o ddiddordeb. Hefyd, efallai byddwn ni’n dilyn neu’n hoffi tudalennau neu gyfrifon - dydy hyn ddim yn golygu ein bod ni'n cymeradwyo'r cyfrif neu gynnwys arall o'r cyfrif hwnnw.
  • Yn yr un modd, efallai fyddwn ni ddim yn ail-drydar neu'n rhannu cynnwys - peidiwch â chymryd hyn yn bersonol!

Defnyddio Cyfryngau Cymdeithasol - Beth mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ei Ddisgwyl?

Rydyn ni eisiau ymgysylltu â thrigolion, defnyddwyr y gwasanaeth ac ymwelwyr â RhCT, a rhyngweithio â nhw, yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl trwy'r Cyfryngau Cymdeithasol. Er mwyn gwneud hynny, wrth ymgysylltu â'r Cyngor trwy gyfryngau cymdeithasol, dylech chi ddilyn y canllawiau yma:

  • Byddwch yn foesgar, yn chwaethus ac yn berthnasol
  • Peidiwch â gwneud sylwadau sy'n anghyfreithlon, yn enllibus, yn aflonyddgar, yn ddifrïol, yn ymosodol, yn fygythiol, yn niweidiol, yn amhriodol, yn gableddus, yn seiliedig a rhyw/rhywioldeb neu'n tramgwyddo ar sail hil
  • Peidiwch â rhegi
  • Peidiwch â phostio cynnwys sy wedi'i gopïo o rywle arall, lle dydych chi ddim yn berchen ar yr hawlfraint
  • Peidiwch â phostio'r un neges, neu negeseuon tebyg iawn, mwy nag unwaith (mae hyn hefyd yn cael ei alw'n "sbamio")
  • Peidiwch â chyhoeddi'ch gwybodaeth bersonol chi neu unrhyw un arall, e.e. manylion cyswllt
  • Peidiwch â hysbysebu cynnyrch na gwasanaethau.
  • Peidiwch â ffugio bod yn rhywun arall

Fydd y Cyngor ddim yn ymateb i negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol sy ddim yn cydymffurfio â'r canllawiau uchod ac, os oes angen, bydd yn gweithredu i rwystro'ch negeseuon, eu cuddio, eu dileu neu adrodd amdanyn nhw fel sy'n briodol yn unol â gofynion Polisi Cwsmeriaid Afresymol o Ddi-baid y Cyngor.