Skip to main content

Diogelu Corfforaethol

Yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf, mae pawb yn gyfrifol am Ddiogelu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod pob preswylydd yn teimlo'n ddiogel, yn cael ei gefnogi a'i barchu. Rydyn ni'n gwneud hyn drwy fod yn rhagweithiol wrth atal plant, pobl ifainc ac oedolion rhag bod mewn perygl o niwed, cam-drin ac esgeulustod drwy nodi arwyddion a fyddai’n dynodi pryder diogelu, ac yna gweithredu ar hyn.

Beth yw Diogelu Corfforaethol?

Diogelu corfforaethol yw ein hymrwymiad ledled y sefydliad i amddiffyn pobl sy'n agored i niwed rhag niwed, cam-drin neu esgeulustod. Mae'r ddyletswydd yma'n ymestyn y tu hwnt i wasanaethau cymdeithasol ac yn cynnwys pob aelod unigol o staff y Cyngor, waeth beth fo'u hadran neu eu rôl, pob Aelod Etholedig, pob gwirfoddolwr, a chyflenwr neu ddarparwr gwasanaeth.

Mae'r Polisi Diogelu Corfforaethol 2024 yn nodi ein cyfrifoldebau diogelu a'r dulliau y cawn sicrwydd drwyddyn nhw ein bod yn cyflawni ein dyletswyddau.

Cyfrifoldebau Staff y Cyngor:

Mae gan bob gweithiwr, Aelod Etholedig, gwirfoddolwr, a chyflenwr neu ddarparwr gwasanaeth ddyletswydd i:

        • Bod yn wyliadwrus am arwyddion o gam-drin, esgeulustod a cham-fanteisio.

        • Cymryd pryderon o ddifrif, ni waeth pa mor fach y gallan nhw ymddangos.

        • Gweithredu yn brydlon drwy ddilyn gweithdrefnau diogelu’r Cyngor.

Mae hyn yn golygu rhaid i bob un aelod o staff y Cyngor – o'r rhai mewn ysgolion, tai, llyfrgelloedd, i gasglu gwastraff – allu adnabod a rhoi gwybod am bryderon diogelu yn briodol.

Beth yw Cam-drin, Esgeulustod ac Ecsbloetiaeth?

Gall cam-drin, esgeulustod ac ecsbloetio ymddangos mewn sawl ffurf, efallai na fydd bob amser yn amlwg a gall fod yn gymhleth weithiau. Efallai na fyddwch chi'n ei weld yn digwydd, ond efallai y byddwch chi'n sylwi ar arwyddion neu'n teimlo bod rhywbeth o'i le.

Mae canllawiau ar gael ar beth sy'n cyfrif fel cam-drin, esgeulustod a cham-fanteisio yma.

Sut mae rhoi gwybod am bryder?

Mae'r holl staff wedi'u hyfforddi i ddilyn proses ‘rhoi gwybod/adrodd’ glir ac effeithiol:

Adnabod arwyddion o niwed neu esgeulustod posibl.

Ymateb yn briodol os oes angen: gwrandewch heb farnu, byddwch yn sensitif, ac osgoi gwneud addewidion o gyfrinachedd. Mae gyda nhw ddyletswydd i drosglwyddo'r wybodaeth i'r garfan diogelu berthnasol.

Rhowch wybod am y pryder heb oedi i'r garfan diogelu ddynodedig.

Os yw plentyn, person ifanc neu oedolyn mewn perygl uniongyrchol o niwed, yna rhaid i staff gysylltu â'r Gwasanaethau Brys drwy ffonio 999 ac yna dilyn dull adrodd arferol y Cyngor. Rhaid i ddiogelwch uniongyrchol yr unigolyn fod yn flaenoriaeth bob amser.

 Fydd dim achos o bryder diogelu yn cael ei anwybyddu, byth. Caiff adroddiadau eu trin yn sensitif a'u trosglwyddo i'r garfan diogelu berthnasol i sicrhau ymyrraeth amserol ac effeithiol.

 Mae cyfrifoldeb ar unrhyw berson sydd â phryderon ynghylch diogelwch plentyn/oedolyn sy'n agored i niwed, NEU ymddygiad gweithiwr tuag at blentyn/oedolyn sy'n agored i niwed, i roi gwybod am hyn ar unwaith. 

Rhoi gwybod am bryderon am blant:

01443 425006

CarfanGCC@rctcbc.gov.uk

Rhoi gwybod am Oedolion mewn perygl

01443 425003

Oedolionmewnperygl@rctcbc.gov.uk

Ar ôl 5.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener ac ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus ffoniwch y Garfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau ar 01443 743665 neu e-bostio: CarfanArDdyletswyddGwaithCymdeithasol@rctcbc.gov.uk

Gweithio Gyda'n Gilydd dros Gymuned Mwy Diogel

Drwy ymgorffori arferion diogelu ar draws ein holl wasanaethau – o gynllunio ac addysg i wasanaethau cymunedol – rydyn ni'n helpu i adeiladu Rhondda Cynon Taf sy'n fwy diogel a chydnerth. Mae ein staff yma i helpu i amddiffyn y gymuned, ac mae trigolion yn chwarae rhan hanfodol hefyd – os gwelwch chi rywbeth sy'n peri pryder, siaradwch.