Skip to main content

Arolwg Blynyddol o Etholwyr 2023

Bob blwyddyn mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i Swyddogion Cofrestru Etholiadol gynnal Arolwg Blynyddol o Etholwyr.

Bob blwyddyn mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i Swyddogion Cofrestru Etholiadol gynnal Arolwg Blynyddol o Etholwyr.

Mae'r ffordd rydyn ni'n gwneud hyn wedi newid.  Mae hyn yn golygu y bydd y math o ohebiaeth sy'n cael ei hanfon i eiddo a sut y dylech chi ymateb yn amrywio.

Byddwch chi naill ai yn derbyn:

  • Ffurflen CCA - Dim ond os oes unrhyw newidiadau i'w gwneud y bydd angen i chi ymateb.
  • Ffurflen CCB - Rhaid i chi ymateb i ddiweddaru'r manylion ar gyfer y cyfeiriad.
  • Ffurflen arolwg ('canfasio') - Rhaid i chi ymateb i ddiweddaru'r manylion ar gyfer y cyfeiriad.

Bydd pob math o ohebiaeth yn egluro'r hyn sydd angen i chi ei wneud. Darllenwch hi'n ofalus a dilynwch y cyfarwyddiadau.

Cyfathrebu ar E-bost

Y llynedd cafodd tua 32,000 neges am yr arolwg eu hanfon drwy e-bost – mae hyn yn golygu bod miloedd o ddarnau o ohebiaeth am yr arolwg ddim yn cael eu hargraffu a’u hanfon drwy’r post. Mae'n haws ymateb, yn well i'r amgylchedd ac yn ddull cyfathrebu mwy cost effeithiol.   

Bydd unrhyw etholwyr rydyn ni'n cadw cyfeiriad e-bost ar eu cyfer yn derbyn gohebiaeth drwy e-bost. Os ydych chi'n derbyn gohebiaeth drwy e-bost, rhaid i chi ymateb. Bydd yr e-bost yn eich cyfeirio at wefan  https://www.elecreg.co.uk/rct-e lle bydd modd i chi gyflwyno ymateb ar-lein.

Bydd yr ohebiaeth yma'n dod o gyfeiriad e-bost: Gwasanaethau Etholiadol - RCT - Electoral Services - gwasanaethau.etholiadol.rct.electoral.services@notifications.service.gov.uk. Dyma gyfrif e-bost swyddogol rydyn ni'n ei ddefnyddio ar gyfer anfon gohebiaeth o'r fath.

Yr hyn sydd angen i chi'i wneud

Pan fyddwch chi'n derbyn gohebiaeth gennym ni, mae'n rhaid i chi ymateb yn briodol ac mor brydlon â phosibl. Mae'n haws ac yn gyflymach i chi ymateb ar-lein. Wrth ymateb, cofiwch wneud y canlynol:

  • Gwirio bod yr holl fanylion yn gywir
  • Ychwanegu unrhyw enwau coll a ddylai fod ar y gofrestr etholiadol. Cofiwch, mae modd i bawb sy'n byw yng Nghymru ac sy'n 14 oed neu'n hŷn gofrestru i bleidleisio, ond fydd dim modd i chi bleidleisio yn etholiadau'r Cyngor lleol (cyn Mai 2022) nac yn etholiadau'r Senedd nes eich bod chi'n 16 oed. Fydd dim modd i chi bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU na Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd (CSP) nes eich bod chi'n 18 oed
  • Dileu enwau pobl sydd ddim yn byw yn y cyfeiriad mwyach
  • Cadarnhau bod popeth yn gywir, hyd yn oed os nad oes unrhyw newidiadau

Beth sy'n digwydd os fyddwch chi ddim yn ymateb yn ôl yr angen?

  • Mae'r gyfraith yn ei gwneud hi'n ofynnol i bob eiddo wirio bod yr wybodaeth ar yr ohebiaeth yn gywir a rhoi gwybod i ni a oes unrhyw newidiadau. Os fyddwch chi ddim yn gwneud hynny, efallai y cewch chi ddirwy. Bwriad hyn yw sicrhau bod y gofrestr etholiadol ddiwygiedig mor gyflawn a chyfoes â phosibl pan gaiff ei chyhoeddi.
  • Os fyddwch chi ddim yn ymateb i'n gohebiaeth byddwn ni'n gwneud pob ymdrech i gael ymateb gennych chi. Efallai y byddwn ni'n anfon ffurflenni atgoffa trwy'r post neu drwy e-bost, neu efallai y bydd un o'n canfaswyr yn ymweld â'ch eiddo.
  • Os fyddwch chi ddim yn ymateb, mae modd i ni ddileu eich enw o'r gofrestr etholwyr. Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n colli'ch hawl i bleidleisio, a bydd yn effeithio ar eich sgôr credyd.

Cwestiynau Cyffredin

Rydw i wedi derbyn e-bost i gadarnhau manylion fy nghartref, a yw hwn yn e-bost dilys?

Ydy - er mwyn ceisio lleihau faint o bapur rydyn ni'n ei ddefnyddio, bydd unrhyw etholwyr rydyn ni'n cadw cyfeiriad e-bost ar eu cyfer yn derbyn gohebiaeth drwy e-bost. Os ydych chi'n derbyn gohebiaeth drwy e-bost, rhaid i chi ymateb. Bydd yr e-bost yn eich cyfeirio at wefan  https://www.elecreg.co.uk/rct-e lle bydd modd i chi gyflwyno ymateb ar-lein.

Rydw i wedi derbyn e-bost wedi'i gyfeirio at aelod arall o fy nghartref, a yw hyn yn gywir?

Ydy – os yw aelod arall o’ch cartref wedi defnyddio eich cyfeiriad e-bost at ddibenion cofrestru, ac wedi cytuno i dderbyn gohebiaeth drwy e-bost, yna byddwn ni’n defnyddio’r cyfeiriad e-bost i gysylltu â’r etholwr. Dim ond un person yn y cartref sydd angen ymateb i'r e-bost. Os hoffech ddiweddaru eich dewis o ran e-bost, yna cysylltwch â Gwasanaethau Etholiadol y Cyngor.

Oes modd i mi dynnu fy enw oddi ar y rhestr derbyn e-byst yma?

Oes – anfonwch e-bost i gwasanaethauetholiadau@rctcbc.gov.uk i dynnu'ch enw oddi ar y rhestr derbyn e-byst. Bydd pob gohebiaeth am arolwg ('canfasio') yn y dyfodol yn cael ei anfon drwy'r post.

Mae rhywun arall yn fy nhŷ wedi derbyn yr e-bost ond fi yw perchennog y tŷ, beth ddylwn i ei wneud?

Bydd unrhyw etholwyr rydyn ni'n cadw cyfeiriad e-bost ar eu cyfer yn derbyn gohebiaeth drwy e-bost, ond dim ond un person yn y cartref sydd angen ymateb iddo.  Os hoffech chi ddiweddaru eich dewis o ran e-bost, yna cysylltwch â Gwasanaethau Etholiadol y Cyngor.

Mae mwy nag un person yn fy nghartref wedi derbyn yr e-bost, a oes rhaid i bob unigolyn ymateb iddo?

Dim ond un person yn y cartref sydd angen ymateb i'r ohebiaeth.  Os hoffech chi ddiweddaru eich dewis o ran e-bost, yna cysylltwch â Gwasanaethau Etholiadol.

Dydy fy nghodau diogelwch ddim yn gweithio ar y porth ar-lein, beth ddylwn i ei wneud?

Os yw’r manylion yn gywir a does dim newidiadau i’w gwneud, mae modd i chi ymateb drwy SMS neu drwy ffonio’r gwasanaeth Rhadffôn. Fel arall, mae modd i chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen, neu gysylltu â Gwasanaethau Etholiadol y Cyngor a fydd yn diweddaru eich manylion ac yn prosesu'ch ymateb ar eich rhan.

 Beth sy'n digwydd os fydda i ddim yn ymateb yn ôl yr angen?

Mae'r gyfraith yn ei gwneud hi'n ofynnol i bob eiddo wirio bod yr wybodaeth ar yr ohebiaeth yn gywir a rhoi gwybod i ni a oes unrhyw newidiadau. Os fyddwch chi ddim yn gwneud hynny, efallai y cewch chi ddirwy. Bwriad hyn yw sicrhau bod y gofrestr etholiadol ddiwygiedig mor gyflawn a chyfoes â phosibl pan gaiff ei chyhoeddi.

Os fyddwch chi ddim yn ymateb i'n gohebiaeth byddwn ni'n gwneud pob ymdrech i gael ymateb gennych chi. Efallai y byddwn ni'n anfon ffurflenni atgoffa trwy'r post neu drwy e-bost, neu efallai y bydd un o'n canfaswyr yn ymweld â'ch eiddo.

Os fyddwch chi ddim yn ymateb, mae modd i ni ddileu eich enw o'r gofrestr etholwyr. Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n colli'ch hawl i bleidleisio, a bydd yn effeithio ar eich sgôr credyd.