Yn y 25 diwrnod gwaith cyn yr etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf 2024, mae dyddiadau allweddol ar gyfer enwebu ymgeiswyr a chofrestru i bleidleisio. Mae digwyddiadau allweddol sy’n gwneud etholiadau’n bosibl wedi’u nodi mewn deddfwriaeth a rhaid i swyddogion canlyniadau, sy’n gyfrifol am gynnal etholiadau yn eu hetholaethau, eu dilyn.
Cyngor Rhondda Cynon Taf yw'r gweinyddwr etholiadol ac mae'n gyfrifol am ddatgan canlyniadau'r etholiad ar gyfer Etholaethau Seneddol newydd Rhondda ac Ogwr a Phontypridd. Dylai ymholiadau mewn perthynas â chofrestru i bleidleisio gan drigolion Rhondda Cynon Taf sy'n byw yn etholaethau newydd Aberdâr a Merthyr Tudful, Gogledd Caerdydd a Gorllewin Caerdydd barhau i gysylltu â ni am ymholiadau neu gymorth wrth gofrestru i bleidleisio.
SUT YDW I'N PLEIDLEISIO?
Cam Gweithredu
|
Llinell Amser
|
Dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio
|
11.59pm ddydd Mawrth, 18 Mehefin
|
Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy'r post
|
5pm ddydd Mercher, 19 Mehefin
|
Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy
|
5pm ddydd Mercher, 26 Mehefin
|
Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr
|
5pm ddydd Mercher, 26 Mehefin
|
Diwrnod Pleidleisio
|
7am - 10pm ddydd Iau, 4 Gorffennaf
|
Bydd eich gorsaf bleidleisio yn cael ei nodi ar eich cerdyn pleidleisio neu gallwch ddod o hyd i'ch gorsaf bleidleisio agosaf yma: Dod o hyd i'ch gorsaf bleidleisio | Ble ydw i'n Pleidleisio?
Mae angen i bleidleiswyr gofrestru i gymryd rhan yn yr etholiad. Mae cofrestru ond yn cymryd pum munud. Ewch i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio (Yn agor mewn ffenest newydd). Rhaid cofrestru erbyn 18 Mehefin. Gall pleidleiswyr ddewis p'un ai i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio, drwy'r post neu drwy ddirprwy. Dysgwch ragor am bleidleisio drwy'r post yma: Sut i bleidleisio: Pleidleisio drwy'r post - GOV.UK (www.gov.uk)
Am y tro cyntaf mewn etholiad cyffredinol yn y DU, bydd angen i'r rhai sy'n pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ddangos ID â llun. Dylai pleidleiswyr wirio eu bod nhw'n meddu ar ffurf ID derbyniol. Os nad oes gyda chi ID derbyniol, ymgeisiwch Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr (Yn agor mewn ffenest newydd) am ddim. Mae ffurfiau derbyniol o ID yn cynnwys:
- Cerdyn Trwydded Yrru â Llun y DU neu Ogledd Iwerddon (llawn neu dros dro)
- trwydded yrru un o wledydd yr Undeb Ewropeaidd, Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Ynys Manaw neu unrhyw un o Ynysoedd y Sianel
- pasbort y DU
- pasbort un o wledydd yr Undeb Ewropeaidd, Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein neu un o wledydd y Gymanwlad
- cerdyn PASS (Cynllun Cenedlaethol Safonau Prawf Oedran)
- Bathodyn Glas
- Rhif Trwydded Preswyliad Biometrig (BRP)
- Cerdyn Adnabod Amddiffyn (Ffurflen 90 y Weinyddiaeth Amddiffyn)
- cerdyn adnabod cenedlaethol yr Undeb Ewropeaidd, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein
- Cerdyn Adnabod Etholiadol Gogledd Iwerddon
- Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr
- Dogfen Etholwr Dienw
Gallwch chi hefyd ddefnyddio un o’r tocynnau teithio canlynol yn ID â Llun pan fyddwch chi'n pleidleisio:
Rhaid i'r llun ar eich ID edrych fel chi. Gallwch barhau i ddefnyddio'ch ID hyd yn oed os mae'n hŷn na'i ddyddiad adnewyddu.
Mae rhagor o wybodaeth am bleidleisio ac etholiadau yn Rhondda Cynon Taf ar gael yma: Bwrw Pleidlais | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)