Skip to main content

Deiseb ar gyfer maer etholedig

Mae'r Maer yn cael ei ethol gan y Cyngor, yn hytrach na chael ei ethol gan y cyhoedd (ei ethol yn uniongyrchol). Gallwch ofyn am refferendwm ar gyfer Maer sy’n cael ei ethol yn uniongyrchol trwy gyflwyno deiseb i ni. 

Gall unrhyw un ddechrau deiseb. Y trefnydd sy’n gyfrifol am gasglu llofnodion a chyflwyno’r ddeiseb i ni.

Rhaid i'r ddeiseb gael ei llofnodi gan o leiaf 10% o’r pleidleiswyr cofrestredig (17,765) o fewn yr  ardal o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Gallwch weld yr hysbysiad dilysu rhifau sy' n cadarnhau'r rhif hwn.

Gallwch gyflwyno deiseb rhwng 6 Mai 2026 a 6 Tachwedd 2026.